“Cynnull y Bobl”
1. Sut mae cynadleddau rhanbarth a chynadleddau rhyngwladol yn debyg i’r un hanesyddol a gafodd ei gynnal wrth droed Mynydd Sinai?
1 Yn fuan ar ôl gadael yr Aifft, gofynnodd Jehofah i Moses ‘gynnull y bobl’ wrth droed Mynydd Sinai er mwyn iddyn nhw glywed Ei eiriau a’i ofni, ac i ddysgu eu plant sut i’w addoli. (Deut. 4:10-13) Yn sicr, byddai’r digwyddiad hwnnw wedi cryfhau eu ffydd, ac yn un i’w gofio! Yn ystod y misoedd nesaf, bydd pobl Jehofah yn ymgynnull mewn cynadleddau rhanbarth a chynadleddau rhyngwladol er mwyn cael eu hyfforddi gan Jehofah. Beth oes angen i ni ei wneud er mwyn fanteisio i’r eithaf?
2. Beth oes angen inni ei wneud i ‘fod yn barod’ ar gyfer ein cynhadledd?
2 “Bod yn Barod”: Gorchmynnodd Jehofah i’r Israeliaid ‘fod yn barod’ ar gyfer y digwyddiad hanesyddol wrth droed Mynydd Sinai. (Ex. 19:10, 11) Yn yr un modd, nid yn unig y brodyr gydag eitemau ar y rhaglen sydd angen paratoi’n ofalus ar gyfer y gynhadledd, mae angen i bawb wneud hynny. Er enghraifft, bydd angen i lawer drefnu amser i ffwrdd o’u gwaith. Efallai bod eich amgylchiadau chi’n debyg i rai Nehemeia a oedd yn gweithio fel swyddog i’r Brenin Artaxerxes. Roedd Nehemeia yn awyddus i adael ei waith er mwyn ailadeiladu waliau Jerwsalem, ond nid oedd yn gwybod a fyddai’r Brenin yn caniatáu hynny. Gweddïodd Nehemeia, ac yna, cyflwynodd ei gais mewn ffordd ddewr a pharchus. Caniataodd y Brenin iddo fynd, ond yn fwy na hynny, fe gefnogodd y prosiect adeiladu! (Neh. 2:1-9) Yn ychwanegol i ofyn am ganiatâd gan eich cyflogwr, ydych chi wedi trefnu lle i aros dros nos a sut i gyrraedd yno? Mae’r henuriaid yn fodlon helpu unrhyw un sydd angen help arnyn nhw. Trefnwch i gyrraedd yn gynnar ar gyfer pob sesiwn, a byddwch yn barod i “ddal yn fwy gofalus ar y pethau a glywyd.”—Heb. 2:1.
3. Beth fydd yn ein helpu ni i baratoi ein calonnau at y gynhadledd?
3 Beth yw agwedd arall o ‘fod yn barod’? Mae’n cynnwys paratoi ein calonnau er mwyn gwrando a dysgu. Bydd rhaglen y gynhadledd ar gael o flaen llaw ar Wefan jw.org. Bydd hyn yn cynnwys rhestr lawn o deitlau’r anerchiadau ynghyd ag un neu ddau o brif adnodau pob anerchiad. Bydd y wybodaeth hon ar gael inni astudio yn ystod ein noson Addoliad Teuluol yn yr wythnosau cyn ein cynadleddau aseiniedig. Mae rhai cyhoeddwyr yn argraffu’r rhaglen ac yn ei defnyddio i wneud nodiadau cryno yn ystod y gynhadledd.
4. Sut gall rhieni ddefnyddio’r gynhadledd i ddysgu eu plant?
4 ‘Dysgu Eich Plant’: Un o’r rhesymau dros gynnal cynhadledd yr Israeliaid oedd i’r rhieni “ddysgu eu plant.” (Deut. 4:10) Mae’r gynhadledd yn rhoi cyfle ardderchog i rieni wneud yr un peth. Dylai plant eistedd gyda’u rheini yn ystod y sesiynau fel bod y rhieni yn gallu eu helpu nhw i ganolbwyntio. Dylai’r teulu drafod y rhaglen gyda’i gilydd ar ddiwedd pob diwrnod, ac yn ystod eu haddoliad teuluol.
5. Sut y bydden ni’n manteisio ar fynychu’r gynhadledd nesaf?
5 Roedd y gynhadledd hanesyddol wrth ymyl Mynydd Sinai yn helpu’r Israeliaid i werthfawrogi eu braint unigryw o fod yn bobl Dduw. (Deut. 4:7, 8) Mae ein cynhadledd nesaf wedi ei chynllunio i gael yr un fath o effaith arnon ni. Am dridiau cyfan, gallwn ddod allan o anialwch byd Satan. Gallwn gymdeithasu â’n brodyr mewn paradwys ysbrydol a chael ein hadfywio! (Esei. 35:7-9) Gyda dydd Jehofah mor agos, mae angen arnon ni i fanteisio ar y cyfle i galonogi ein gilydd.—Heb. 10:24, 25.