LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • km 4/12 tt. 3-6
  • Ein Cynadleddau Rhanbarth—Tystiolaeth Rymus i’r Gwir

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Ein Cynadleddau Rhanbarth—Tystiolaeth Rymus i’r Gwir
  • Ein Gweinidogaeth—2012
  • Erthyglau Tebyg
  • Ymddygiad Sy’n Dod â Chlod i Dduw
    Ein Gweinidogaeth—2013
  • Cadw Ymddygiad Da Ymhlith y Cenhedloedd
    Ein Gweinidogaeth—2014
  • Pwyntiau i’w Cofio ar Gyfer y Gynhadledd
    Ein Gweinidogaeth—2015
Ein Gweinidogaeth—2012
km 4/12 tt. 3-6

Ein Cynadleddau Rhanbarth​—Tystiolaeth Rymus i’r Gwir

1. Pa wirioneddau ysbrydol roedd yr Israeliaid yn gallu meddwl amdanyn nhw yn ystod eu gwyliau blynyddol?

1 Yn Israel gynt roedd tair gŵyl bob blwyddyn. Dim ond y dynion oedd yn gorfod mynd, ond yn aml iawn fe fyddai teuluoedd cyfan yn teithio i Jerwsalem i fwynhau’r gwyliau. (Deut. 16:15, 16) Roedd yr adegau hynny yn rhoi’r cyfle i bobl feddwl am wirioneddau ysbrydol a’u trafod. Beth yw rhai o’r gwirioneddau hynny? Un yw bod Jehofah yn Rhoddwr hael a charedig. (Deut. 15:4, 5) Un arall yw y gellir dibynnu arno i’n harwain a’n hamddiffyn. (Deut. 32:9, 10) Fel pobl a oedd yn dwyn enw Jehofah, roedd yr Israeliaid hefyd yn gallu myfyrio ar eu cyfrifoldeb i fyw yn unol â’i safonau cyfiawn. (Deut. 7:6, 11) Yn yr un modd, rydyn ni’n elwa ar ein cynadleddau rhanbarth heddiw.

2. Sut bydd rhaglen y gynhadledd rhanbarth yn taflu goleuni ar y gwir?

2 Y Rhaglen yn Taflu Goleuni ar y Gwir: Yn y cynadleddau rhanbarth, rydyn ni’n mwynhau anerchiadau, dramâu, dangosiadau a chyfweliadau sy’n taflu goleuni ar wirioneddau’r Beibl. (Ioan 17:17) Mae llawer o waith eisoes wedi cael ei wneud ar gyfer y gynhadledd eleni. Mae cyfundrefn Jehofah yn paratoi rhaglen bwrpasol i gwrdd ag anghenion y maes ym mhob rhan o’r byd. (Math. 24:45-47) A ydych chi’n awyddus i weld a chlywed yr hyn a fydd yn cael ei drafod?

3. Beth mae’n rhaid inni ei wneud i elwa ar y rhaglen?

3 Wrth gwrs, fyddwn ni ddim yn elwa ar y rhaglen oni bai ein bod ni’n bresennol bob diwrnod ac yn canolbwyntio’n ofalus. Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n siarad â’ch cyflogwr er mwyn cael yr amser i ffwrdd o’r gwaith. Sicrhewch eich bod chi’n cael digon o gwsg bob nos fel y byddwch yn effro i wrando ar y rhaglen. Mae llawer yn teimlo bod edrych ar y siaradwr a chymryd nodiadau byr yn eu helpu i ganolbwyntio. Peidiwch â gadael i’ch ffôn symudol darfu arnoch chi neu ar y bobl o’ch cwmpas. Gwnewch eich gorau i beidio â siarad, bwyta, yfed nac anfon negeseuon testun yn ystod y rhaglen.

4. Sut gall rhieni helpu eu plant i elwa ar y gynhadledd?

4 Ar adeg Gŵyl y Pebyll yn ystod y flwyddyn Saboth, roedd y plant yn mynd gyda’u rhieni i wrando ar y Gyfraith yn cael ei darllen “er mwyn iddynt glywed, a dysgu.” (Deut. 31:12) Mae’n galonogol i weld teuluoedd yn eistedd gyda’i gilydd yn ystod y gynhadledd a’r plant yn aros yn effro ac yn gwrando’n astud. Gyda’r nos, pam na wnewch chi edrych dros eich nodiadau a thrafod unrhyw bwyntiau roeddech chi’n eu gweld yn arbennig o ddiddorol? Oherwydd bod “ffolineb ynghlwm wrth feddwl plentyn,” dylai rhieni gadw llygad ar eu plant, gan gynnwys y rhai sydd yn eu harddegau, a hynny yn ystod amser cinio ac yn y gwesty fel na fyddan nhw’n ymddwyn yn “afreolus.”—Diar. 22:15; 29:15.

5. Sut mae ymddygiad da yn y gwesty yn addurn i’r gwir?

5 Ymddygiad Da yn Addurn i’r Gwir: Mae ein hymddygiad da yn y ddinas y bydd y gynhadledd yn cael ei chynnal yn addurn i’r gwir. (Titus 2:10) Bydd y staff yn sylwi ar grŵp sy’n dilyn rheolau’r gwesty ac sy’n amyneddgar ac yn garedig wrthyn nhw. (Col. 4:6) Pan oedd cynrychiolwyr y gangen yn gwneud trefniadau gydag un gwesty’r llynedd, dywedodd un o’r rheolwyr: “Rydyn ni wrth ein boddau yn cael eich pobl chi yn ein gwesty oherwydd eu bod nhw’n bobl mor dda. Maen nhw mor gwrtais a charedig, ac maen nhw bob amser yn parchu ein staff a’n gwesty.”

6. Sut gall y ffordd rydyn ni’n gwisgo yn ystod y gynhadledd fod yn addurn i’r gwir?

6 Bydd gwisgo ein bathodynnau yn hysbysebu’r gynhadledd, yn helpu brodyr a chwiorydd i wybod pwy ydyn ni, ac yn rhoi tystiolaeth i eraill. Bydd trigolion y ddinas yn gweld bod y rhai sydd â bathodynnau yn gwisgo’n daclus ac yn weddus, ac yn wahanol iawn i ffasiynau blêr neu bryfoclyd y byd. (1 Tim. 2:9, 10) Felly, dylen ni feddwl am ein dillad a’n trwsiad tra ein bod ni’n aros yn ninas y gynhadledd. Ni fyddai’n addas inni gyrraedd y gwesty’n gwisgo siorts a chrysau-T. Hyd yn oed mewn cynhadledd sy’n cael ei chynnal yn yr awyr agored, dylen ni wisgo’n urddasol. Os ydyn ni’n newid ein dillad ar ôl i’r rhaglen orffen er mwyn mynd allan am bryd o fwyd, dylen ni gofio ein bod ni’n cynrychioli cyfundrefn Jehofah ac felly peidiwch â gwisgo’n rhy anffurfiol.

7. Beth yw un ffordd i fwynhau undod Cristnogol y gynhadledd?

7 Yn eu gwyliau blynyddol, roedd yr Israeliaid yn cymdeithasu ag addolwyr Jehofah o ardaloedd eraill ac o wledydd eraill, ac roedd hyn yn hyrwyddo undod. (Actau 2:1, 5) Yn ystod cynadleddau rhanbarth mae ein brawdoliaeth unigryw fel Cristnogion i’w gweld gan bawb. Yn aml, mae gweld y baradwys ysbrydol ar waith fel hyn yn gwneud argraff ar eraill. (Salm 133:1) Yn hytrach na gadael y stadiwm amser cinio i brynu bwyd, fe fyddai’n well dod â phecyn bwyd a manteisio ar y cyfle i sgwrsio â’r brodyr a’r chwiorydd o’n cwmpas.

8. Os gallwn ni wirfoddoli yn y gynhadledd, pam dylen ni wneud hynny?

8 Mae ein cynadleddau trefnus yn gwneud argraff dda ar bobl, yn enwedig pan fyddan nhw’n sylweddoli bod y gwaith i gyd yn cael ei wneud gan wirfoddolwyr. A ydych chi’n gallu gwirfoddoli i weithio yn y gynhadledd? (2 Cor. 9:7) Yn aml, bydd teuluoedd cyfan yn gweithio yn y gynhadledd er mwyn hyfforddi eu plant i wirfoddoli. Os ydych chi’n swil, mae gweithio yn y gynhadledd yn ffordd dda i gwrdd ag eraill. Dywedodd un chwaer: “Ar wahân i fy nheulu a llond llaw o ffrindiau, doeddwn i ddim yn ’nabod llawer yno. Ond wrth helpu gyda’r gwaith glanhau, mi wnes i gwrdd â llawer o frodyr a chwiorydd. Mi ges i lot o hwyl!” Bydd gweithio yn y gynhadledd yn ehangu cylch ein ffrindiau ac yn dod â llawenydd i ni. (2 Cor. 6:12, 13) Os nad ydych chi erioed wedi gwirfoddoli, gofynnwch i’r henuriaid ynglŷn â sut y gallwch fod yn gymwys i helpu.

9. Sut gallwn ni wahodd eraill i’r gynhadledd?

9 Gwahodd Eraill i Glywed y Gwir: Fel yn y gorffennol, byddwn yn dosbarthu gwahoddiadau yn ystod y tair wythnos cyn y gynhadledd. Bydd pob cynulleidfa yn awyddus i weithio cymaint o’r diriogaeth ag sy’n bosibl. (Gweler y blwch “Sut Gallwn Ni Gynnig y Gwahoddiadau?”) Os oes gwahoddiadau ar ôl, dylid dod â nhw i’r gynhadledd i bobl eu defnyddio wrth dystiolaethu’n anffurfiol yn y ddinas.

10. Pa brofiadau sy’n dangos bod yr ymdrech flynyddol i wahodd pobl i’r gynhadledd yn dwyn ffrwyth?

10 A yw pobl yn ymateb i’r ymgyrch flynyddol hon? Mewn un gynhadledd, fe wnaeth gwasanaethydd helpu gŵr a gwraig i ddod o hyd i seddi. Dywedon nhw eu bod nhw wedi cael y gwahoddiad a meddwl: “Dyna ddiddorol.” Felly fe wnaethon nhw yrru mwy na 200 milltir i’r gynhadledd! Mewn achos arall, wrth fynd o dŷ i dŷ, fe roddodd chwaer wahoddiad i ddyn a oedd yn chwilfrydig ynghylch y gynhadledd. Fe dreuliodd hi beth amser yn trafod y gwahoddiad ag ef. Ychydig o ddyddiau’n ddiweddarach, fe welodd y chwaer y dyn gydag un o’i ffrindiau yn y gynhadledd a’r ddau yn cario un o’r cyhoeddiadau newydd.

11. Pam mae’n bwysig inni fynd i’r gynhadledd bob blwyddyn?

11 Roedd y gwyliau blynyddol yn ddarpariaeth garedig ar ran Jehofah i helpu’r Israeliaid ‘ei wasanaethu ef yn ddidwyll ac yn ffyddlon.’ (Jos. 24:14) Yn yr un modd, mae mynd i’r gynhadledd ranbarth bob blwyddyn yn ein helpu ni i ‘rodio yn y gwirionedd.’ (3 Ioan 3) Bydd Jehofah yn bendithio ymdrechion pawb sy’n caru’r gwir i fynychu’r gynhadledd ac elwa arni.

[Broliant ar dudalen 4]

Mae ymddygiad da yn y ddinas lle mae’r gynhadledd yn cael ei chynnal yn addurn i’r gwir

[Broliant ar dudalen 5]

Dair wythnos cyn y gynhadledd, byddwn ni’n dosbarthu gwahoddiadau

[Broliant ar dudalennau 3-6]

Y Gynhadledd Ranbarth 2012—Pwyntiau I’w Cofio

◼ Amserau’r Rhaglen: Bydd y rhaglen yn dechrau am 9:20 yb (neu 10:05 yb, yn dibynnu ar amgylchiadau lleol) ddydd Gwener, ac am 9:20 yb ddydd Sadwrn a dydd Sul. Bydd rhai cynadleddau ar gyfer ieithoedd eraill yn dechrau am 10:05 ddydd Sadwrn. Pan gyflwynir y gerddoriaeth ragarweiniol, dylai pawb fynd i’w seddi er mwyn i’r rhaglen gychwyn mewn modd urddasol. Bydd y rhaglen yn gorffen am 4:55 yh (neu 5:40 yh) ddydd Gwener a dydd Sadwrn, ac am 3:40 yh ar y Sul.

◼ Parcio: Mae trefnu bysiau i’r gynhadledd wedi bod yn help mawr i leddfu problemau parcio yn ddiweddar. Diolch i bawb am gydweithio yn hyn o beth. Yn y cynadleddau hynny lle rydyn ni’n rheoli’r trefniadau parcio, bydd tocynnau di-dâl ar gael trwy’r gynulleidfa. Wrth ddosbarthu tocynnau parcio, gwneir pob ymdrech i roi’r flaenoriaeth i’r anabl a’r methedig. Dylai Pwyllgor Gwasanaeth y Gynulleidfa dderbyn ceisiadau ar gyfer parcio ffafriol gan bobl sydd â gwir angen yn unig. Oherwydd cyfyngiadau ar nifer y lleoedd parcio mewn llawer o gynadleddau, dim ond un tocyn parcio fydd ar gael i bob teulu. Os yw eich cynlluniau yn newid ac nid oes angen y tocyn arnoch chi, a wnewch chi ei anfon yn ôl fel y bydd rhywun arall yn medru ei ddefnyddio. Nid oes unrhyw gyfyngiadau o ran parcio yn y gynhadledd arbennig yn Iwerddon.

◼ Cadw Seddi: Cewch gadw seddi dim ond ar gyfer y rhai sy’n teithio yn eich car, y rhai sy’n byw yn eich cartref, neu’r rhai sy’n astudio’r Beibl gyda chi ar hyn o bryd.—1 Cor. 13:5.

◼ Cinio: Dewch â phecyn cinio fel na fyddwch chi’n gorfod gadael y gynhadledd amser cinio i nôl bwyd. Gellir dod â bocs oer bach a fydd yn ffitio o dan y sedd. Ni cheir dod â bocsys oer mawr na photeli gwydr i’r stadiwm.

◼ Cyfraniadau: Gallwn ddangos ein bod ni’n gwerthfawrogi’r trefniadau drwy gyfrannu’n wirfoddol yn y gynhadledd at y gwaith byd-eang. Ceir mwy o fanylion ynglŷn â sut i wneud hyn yn y gynhadledd.

◼ Damweiniau ac Achosion Brys: Mae’r Gwasanaethau Brys yn derbyn llawer o alwadau ar ffonau symudol ynglŷn â materion dibwys. Os oes angen gofal meddygol brys ar rywun yn y gynhadledd, siaradwch ag un o’r gwasanaethyddion a fydd yn cysylltu’n syth a’r adran Cymorth Cyntaf. Daw swyddog Cymorth Cyntaf cymwys i asesu’r sefyllfa ac i helpu. Os oes angen, bydd y swyddog Cymorth Cyntaf yn galw 999.

◼ Meddyginiaeth: Os oes angen meddyginiaeth bresgripsiwn arnoch chi, gwnewch yn siŵr bod cyflenwad digonol gyda chi, oherwydd ni fydd ar gael yn y gynhadledd. Ni ddylid rhoi chwistrelli clefyd y siwgr a nodwyddau yn y biniau ysbwriel cyffredin ar safle’r gynhadledd, nac yn y gwestai. Dylid cael gwared arnyn nhw’n ddiogel trwy eu rhoi yn y bocsys ar gyfer casglu pethau miniog sydd i’w cael yn yr Adran Cymorth Cyntaf.

◼ Esgidiau: Bob blwyddyn, ceir nifer o anafiadau oherwydd esgidiau anaddas. Mae’n well dewis esgidiau cyfforddus sy’n addas ar gyfer cerdded yn ddiogel mewn meysydd parcio, ar risiau concrit serth, ac mewn unrhyw ardaloedd eraill a all fod yn beryglus.

◼ Rhai Sy’n Drwm Eu Clyw: Bydd y rhaglen yn cael ei darlledu yn y stadiwm ar radio FM. Bydd Pwyllgor y Gynhadledd leol yn cyhoeddi tonfedd y rhaglen, os yw ar gael. I wrando ar y rhaglen, bydd angen radio bach sy’n gweithio â batri, ynghyd â chlustffonau. Er bod y gwasanaeth hwn ar gael, rydyn ni’n eich annog i beidio â gwrando yn eich ceir oni bai bod rheswm da dros wneud hynny. Gwell yw mwynhau cwmni pawb arall yn y stadiwm ac ymuno yn y canu a’r weddi.

◼ Persawr: Mae cynadleddau sy’n cael eu cynnal dan do yn dibynnu ar beiriannau i dymheru’r aer. Felly, peth caredig fyddai ystyried anghenion y rhai sydd â phroblemau anadlu neu alergedd cyn inni ddefnyddio persawr cryf.—1 Cor. 10:24.

◼ Ffurflenni Please Follow Up (S-43): Dylech ddefnyddio ffurflen Please Follow Up ar gyfer unrhyw un rydych chi wedi tystiolaethu wrtho yn ystod y gynhadledd ac a hoffai wybod mwy. Dylai cyhoeddwyr ddod â ffurflen neu ddwy i’r gynhadledd. Gellir rhoi’r ffurflenni i mewn yn yr Ystafell Lyfrau, neu eu rhoi i ysgrifennydd eich cynulleidfa ar ôl ichi fynd adref.—Gweler Ein Gweinidogaeth Mai 2011, tudalen 3.

◼ Gwestai:

(1) Peidiwch â rhoi mwy o bobl yn yr ystafell na’r nifer a ganiateir.

(2) Os oes angen canslo ystafell, cysylltwch â’r gwesty.—Math. 5:37

(3) Os ydych yn defnyddio cerdyn credyd neu gerdyn debyd i gofrestru, mae’n arferol i westai rewi digon o arian yn eich cyfrif i dalu am eich ystafell yn ogystal ag unrhyw gostau eraill sy’n gysylltiedig â’ch ymweliad. Ni fyddwch yn gallu defnyddio’r arian hwnnw nes bod eich bil wedi ei dalu.

(4) Cymerwch droli pan ydych chi’n barod i symud eich bagiau ac ewch â hi’n syth yn ôl i eraill ei defnyddio.

(5) Gadewch rodd bob dydd i’r un sy’n glanhau eich ystafell.

(6) Peidiwch â choginio mewn ystafelloedd lle na chaniateir coginio.

(7) Peidiwch â manteisio’n annheg ar y brecwast neu ar unrhyw ddarpariaeth arall sydd ar gyfer pawb yn y gwesty.

(8) Dangoswch ffrwyth yr ysbryd bob amser wrth ymdrin â staff y gwesty.

(9) Dylai rhieni gadw llygad ar eu plant drwy’r amser yn y gwesty, gan gynnwys yr ardal wrth y dderbynfa, y pwll nofio, yr ystafell ymarfer, ac yn y blaen.

(10) Os yw eich bil yn anghywir, dywedwch wrth y derbynnydd yn y gwesty a rhoi gwybod i’r Adran Lety yn y gynhadledd cyn gynted ag y bo modd.

(11) Os oes problem gyda’ch ystafell, rhowch wybod i’r Adran Lety cyn ichi adael y gynhadledd.

◼ Gwirfoddoli: Os hoffech chi wirfoddoli, llenwch ffurflen gais sydd ar gael oddi wrth ysgrifennydd eich cynulleidfa.

◼ Iwerddon: Dim ond y rhai o Brydain sy’n cael eu dewis i fynd i’r gynhadledd arbennig yn Iwerddon a ddylai drefnu mynd. Gall fynd heb wahoddiad greu problemau i’r rhai sy’n trefnu’r gynhadledd.

◼ Malta: Cynhelir y gynhadledd ranbarth Medi 7-9, 2012. Er mwyn rheoli’r nifer sy’n mynychu’r gynhadledd ac er mwyn trefnu termau ffafriol yn y gwestai, dylai trefniadau gael eu gwneud drwy’r asiantaeth deithio benodedig yn unig. Mae’r manylion am sut i wneud cais i’w cael yn y llythyr a anfonwyd i bob cynulleidfa ym Mhrydain ar 1 Rhagfyr, 2011.

[Blwch ar dudalen 6]

Sut Gallwn Ni Gynnig y Gwahoddiadau?

Er mwyn ymweld â chymaint o bobl ag sy’n bosibl, dylen ni gadw ein sgwrs yn fyr. Gallwn ni ddweud rhywbeth fel: “Helo. Rydyn ni’n galw gyda’r gwahoddiadau hyn sy’n cael eu dosbarthu trwy’r byd i gyd. Dyma un i chi. Cewch weld mwy o fanylion ar y gwahoddiad.” Byddwch yn frwdfrydig. Wrth ichi ddosbarthu’r gwahoddiadau ar y penwythnosau, fe allwch chi gynnig y cylchgronau hefyd, pan fo hynny’n briodol.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu