Ymgyrch Sy’n Dod â Chanlyniadau
Tair wythnos cyn y gynhadledd, unwaith eto, bydd cynulleidfaoedd yn cymryd rhan mewn ymgyrch i wahodd pobl gyda diddordeb i’w mynychu. Mae rheswm da dros yr ymgyrch flynyddol hon. Fel arfer, mae’r gynhadledd yn creu argraff dda ar y rhai sy’n derbyn y gwahoddiad i’w mynychu. Maen nhw’n clywed anerchiadau sy’n seiliedig ar y Beibl, ac maen nhw’n gweld gwirfoddolwyr yn gweithio yn adrannau gwahanol, ynghyd ag undod ac ymddygiad da’r brodyr a chwiorydd. (Salm 133:1; Esei. 65:13, 14; 2 Cor. 9:7) Ond, ydy’r ymgyrch yn dod â chanlyniadau, hyd yn oed yn y llefydd ble mae rhaid i bobl gyda diddordeb teithio’n bell i gyrraedd y safle?
Ar ôl cynhadledd ranbarth 2011, derbyniodd un swyddfa gangen lythyr gan ddynes a gafodd wahoddiad trwy’r drws. Roedd hi’n arfer cuddio pan gnociodd Dystion Jehofah. Ysgrifennodd: “Roedd gennyf gartref hardd, gŵr ardderchog, a phopeth o’n i’n meddwl byddai’n gwneud fi’n hapus. Yn anffodus, doeddwn i ddim yn hapus, ac roedd fy mywyd heb bwrpas go iawn. Felly penderfynais yrru 200 milltir i fynychu’r rhaglen dydd Sadwrn.” Roedd hi’n mwynhau’r gynhadledd gymaint fe benderfynodd ffonio’i gŵr i ddweud ei bod hi’n mynd i aros dros nos er mwyn mynychu ar y dydd Sul hefyd. “Mi wrandawes ar bob anerchiad a chwrddais â llawer o Dystion Jehofah. Doeddwn i byth eisiau i hyn gorffen.” Ar ôl dychwelyd cartref, dechreuodd astudio, ac ar ôl pedwar mis fe ddechreuodd ar y weinidogaeth. “Dw i’n mor falch roeddwn i wedi darganfod y gwahoddiad yn fy nrws achos rŵan mae gan fy mywyd pwrpas!”
Bydd rhai sy’n derbyn y gwahoddiad yn mynychu. Felly, byddwch yn selog yn yr ymgyrch bwysig hon. Dewch ag unrhyw wahoddiadau dros ben gyda chi i ddinas y gynhadledd i’w dosbarthu wrth dystiolaethu’n anffurfiol.
[Blwch ar dudalen 5]
Sut Gallwn Ni Gynnig y Gwahoddiad?
Er mwyn gweithio ein tiriogaeth gyfan dylen ni gadw ein cyflwyniad yn fyr. Efallai gallwn ni ddweud rhywbeth fel: “Helo. Rydyn ni’n helpu dosbarthu’r gwahoddiad hwn ledled y byd. Dyma un i chi. Mae ’na fwy o fanylion yn y gwahoddiad.” Byddwch yn frwdfrydig. Ar y penwythnosau, dylen ni gynnig y cylchgronau hefyd petai’n addas.