Gwahoddiad Uniongyrchol
1. Pryd bydd yr ymgyrch i wahodd eraill i’r gynhadledd yn cychwyn?
1 Petasech chi’n paratoi pryd o fwyd arbennig ar gyfer eich teulu a’ch ffrindiau, un sy’n gofyn am lawer o ymdrech i’w baratoi ac sy’n gostus, mae’n debyg y byddech chi’n awyddus iawn i fynd ati i wahodd pobl. Yn yr un modd, mae llawer o waith wedi ei wneud i baratoi’r wledd ysbrydol a fydd yn cael ei chynnal yn ein cynhadledd nesaf. Gan gychwyn tair wythnos cyn y gynhadledd, mae Jehofa yn rhoi’r fraint i ni o wahodd eraill i’w mynychu. Beth fydd yn ein helpu ni i fod yn frwdfrydig wrth wahodd eraill?
2. Beth fydd yn ein hysgogi ni i gael rhan lawn yn yr ymgyrch?
2 Byddwn yn frwdfrydig wrth wahodd eraill i’r gynhadledd petasen ni’n myfyrio ar sut mae bwyd ysbrydol Jehofa wedi ein helpu ni yn y gorffennol. (Esei. 65:13, 14) Cofiwch hefyd fod ein hymgyrch flynyddol yn dwyn ffrwyth da. (Gweler y blwch “Mae’n Effeithiol.”) Bydd rhai o’r bobl rydyn ni’n eu gwahodd yn dod i’r gynhadledd gyda ni tra bydd eraill ddim. Er gwaethaf faint sy’n ymateb, bydd ein hymdrech ddiwyd yn ystod yr ymgyrch yn dod â chlod i Jehofa ac yn adlewyrchu ei haelioni.—Salm 145:3, 7; Dat. 22:17.
3. Sut bydd y gwahoddiadau yn cael eu dosbarthu?
3 Dylai pob corff henuriaid benderfynu ar y ffordd orau gall ei gynulleidfa ddosbarthu’r gwahoddiadau yn eang. Er enghraifft, byddan nhw’n penderfynu a ddylai’r cyhoeddwyr adael y gwahoddiadau lle nad oes rhywun gartref, ac a ddylen nhw eu dosbarthu nhw wrth dystiolaethu’n gyhoeddus yn nhiriogaeth y gynulleidfa. Ar y penwythnosau, pan fo’n addas, gellir cynnig y cylchgronau ynghyd â’r gwahoddiad. Wedi’r ymgyrch, fe fyddan ni’n hapus i wybod ein bod ni wedi cymryd rhan yn frwdfrydig, a bod gymaint o bobl â phosibl wedi ymuno â ni yng ngwledd ysbrydol Jehofa!