LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • km 4/14 t. 4
  • Gwahoddiad Arbennig

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Gwahoddiad Arbennig
  • Ein Gweinidogaeth—2014
  • Erthyglau Tebyg
  • Gwahoddiad Uniongyrchol
    Ein Gweinidogaeth—2015
  • Mae’r Ymgyrch i Hysbysebu’r Goffadwriaeth yn Dechrau ar 1 Mawrth
    Ein Gweinidogaeth—2013
  • Ymgyrch Arbennig ar Gyfer y Gynhadledd
    Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr ar Gyfer y Cyfarfodydd—2016
  • Mae’r Ymgyrch i Wahodd Pobl i’r Goffadwriaeth yn Dechrau Mawrth 22
    Ein Gweinidogaeth—2014
Gweld Mwy
Ein Gweinidogaeth—2014
km 4/14 t. 4

Gwahoddiad Arbennig

1. Pryd bydd yr ymgyrch yn dechrau i ddosbarthu gwahoddiadau ar gyfer cynhadledd 2014?

1 Petai chi’n paratoi pryd o fwyd arbennig ar gyfer eich teulu a’ch ffrindiau, un sy’n gofyn am lawer o ymdrech ac yn gostus, mae’n debygol y byddech chi’n awyddus iawn i estyn eich gwahoddiadau. Yn yr un modd, mae llawer o waith yn cael ei wneud i baratoi at y wledd ysbrydol a fydd yn cael ei chynnal yng nghynadleddau rhanbarthol a rhyngwladol yn 2014. Yn cychwyn tair wythnos cyn y gynhadledd, bydd gennyn ni’r fraint o wahodd eraill i’w mynychu. Beth fydd yn ein helpu ni i fod yn frwdfrydig wrth wneud hyn?

2. Beth fydd yn ein hysgogi ni i chwarae rhan fawr yn yr ymgyrch?

2 Byddwn yn frwdfrydig wrth wahodd eraill i’r gynhadledd petawn ni’n myfyrio ar sut mae bwyd ysbrydol Jehofah wedi ein helpu ni yn y gorffennol. (Esei. 65:13, 14) Cofiwch hefyd fod ein hymgyrch flynyddol yn dwyn ffrwyth da. Bydd rhai o’r bobl rydyn ni’n eu gwahodd yn mynychu’r gynhadledd gyda ni. Ni waeth faint sy’n ymateb, bydd ein hymdrech lew yn ystod yr ymgyrch yn dod â chlod i Jehofah ac yn adlewyrchu ei garedigrwydd.—Salm 145:3, 7; Dat. 22:17.

3. Sut bydd y gwahoddiadau yn cael eu dosbarthu?

3 Bydd y corff henuriaid lleol yn penderfynu ar y ffordd orau gall eu cynulleidfaoedd ddosbarthu’r gwahoddiadau yn eang. Er enghraifft, bydden nhw’n penderfynu a ddylai’r cyhoeddwyr gadael y gwahoddiadau lle nad oes rhywun cartref, ac a ddylen nhw eu dosbarthu nhw wrth bregethu’n gyhoeddus yn nhiriogaeth y gynulleidfa. Ar y penwythnosau, pan fo’n addas, gellir cynnig y cylchgronau ynghyd â’r gwahoddiad. Petai dydd Sadwrn cyntaf y mis yn disgyn o fewn cyfnod yr ymgyrch, dylai pawb ganolbwyntio ar ddosbarthu’r gwahoddiadau yn hytrach nag ar gychwyn astudiaethau. Wedi’r ymgyrch, fe fyddwn ni’n hapus i wybod ein bod ni wedi gwneud ein gorau glas i wahodd pobl i ymuno â ni yng ngwledd ysbrydol Jehofah!

Beth Fyddech Chi’n ei Ddweud?

Ar ôl cyfarch rhywun, gallwch ddweud: “Rydyn ni’n cymryd rhan mewn ymgyrch fyd-eang i wahodd pobl i ddigwyddiad pwysig. Mae’r dyddiad, yr amser, a’r lleoliad ar y gwahoddiad hwn.”

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu