LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • km 6/13 t. 2
  • Mwy o Gyfle i Glodfori Jehofah

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Mwy o Gyfle i Glodfori Jehofah
  • Ein Gweinidogaeth—2013
  • Erthyglau Tebyg
  • Paratowch Nawr ar Gyfer Ehangu Eich Gweinidogaeth
    Ein Gweinidogaeth—2012
  • A Fedrwch Chi Arloesi’n Gynorthwyol?
    Ein Gweinidogaeth—2013
  • A Wnei Di Arloesi’n Gynorthwyol yn Ystod Mawrth neu Ebrill?
    Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr y Cyfarfodydd—2021
  • Moli Jehofa fel Arloeswr
    Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr y Cyfarfodydd—2020
Gweld Mwy
Ein Gweinidogaeth—2013
km 6/13 t. 2

Mwy o Gyfle i Glodfori Jehofah

1. Pa drefn newydd bydd yn ein helpu ni i glodfori Jehofah yn fawr iawn?

1 Dechreuodd drefn newydd mis Mawrth diwethaf i roi cyfle o hyn allan i gyhoeddwyr arloesi’n gynorthwyol gan wneud 30 awr yn ystod Mawrth ac Ebrill, ac ym mhob mis y mae arolygwr y gylchdaith yn ymweld â’r gynulleidfa. Os yw ymweliad yr arolygwr yn croesi dau fis, gall cyhoeddwyr sydd eisiau gwneud 30 awr ddewis arloesi naill a’i un mis neu’r llall. Caiff yr arloeswyr cynorthwyol mynychu’r cyfarfod cyfan ar gyfer yr arloeswyr parhaol ac arbennig. Felly, os yw 50 awr y tu hwnt i’n gallu, medrwn ni ddal ‘glodfori’ Jehofah yn fawr iawn hyd at bedair gwaith y flwyddyn drwy wneud 30 awr fel arloeswyr cynorthwyol!—Salm 109:30; 119:171.

2. Beth fydd y rhai sy’n arloesi’n gynorthwyol yn ystod ymweliad arolygwr y gylchdaith yn ei fwynhau?

2 Yn Ystod Ymweliad Arolygwr y Gylchdaith: Bydd gweithio gydag arolygwr y gylchdaith yn y weinidogaeth yn rhoi cyfle inni galonogi ein gilydd, a gyda’r drefn newydd bydd llawer mwy yn gallu mwynhau gwneud hyn. (Rhuf. 1:11, 12) Mae’n debyg bydd llawer o arloeswyr cynorthwyol yn cymryd diwrnod o wyliau yn ystod yr wythnos er mwyn gweithio gyda’r arolygwr. Gall y rhai sy’n gweithio yn ystod yr wythnos ofyn i weithio gydag ef ar y dydd Sadwrn neu Sul. Hefyd, bydd yr arloeswyr cynorthwyol yn cael eu calonogi trwy fynychu’r cyfarfod arloeswyr ynghyd â’r arloeswyr arbennig a pharhaol.

3. Pam mae adeg y Goffadwriaeth yn amser arbennig o dda i arloesi’n gynorthwyol?

3 Yn Ystod Mawrth ac Ebrill: Gyda’r drefn newydd, gall y rhai a oedd yn gwneud 30 awr yn adeg y Goffadwriaeth ddyblu eu ‘haberth moliant’! (Heb. 13:15) Mae Mawrth ac Ebrill yn rhoi cyfle arbennig inni ehangu ein gweinidogaeth fel arloeswyr cynorthwyol. Bob blwyddyn, yn ystod y misoedd hyn, rydyn ni’n cymryd rhan mewn ymgyrch bleserus i wahodd pobl i’r Goffadwriaeth. Hefyd, oherwydd mae llawer yn ehangu eu gweinidogaeth adeg y Goffadwriaeth, medrwn ni weithio gyda nifer o gyhoeddwyr gwahanol. Ar ôl y Goffadwriaeth, rydyn ni’n gwneud ymdrech i alw ar y rhai a ddangosodd ddiddordeb er mwyn eu hannog nhw i fynychu’r anerchiad arbennig. A fydd eich calon yn eich ysgogi chi i gymryd mantais o’r cyfleon ychwanegol hyn i arloesi’n gynorthwyol?—Luc 6:45.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu