Paratowch Nawr ar Gyfer Ehangu Eich Gweinidogaeth
1. Pa gyfle y mae adeg y goffadwriaeth yn ei roi inni, a sut medrwn ni baratoi?
1 Mae adeg y Goffadwriaeth yn rhoi cyfle inni ‘glodfori Jehofah â’n genau.’ (Salm 109:30) A allwch chi wneud mwy yn y weinidogaeth ym mis Mawrth i ddiolch i Dduw am y pridwerth? Nawr yw’r amser i ddechrau paratoi.—Diar. 21:5.
2. Sut y gwnaethoch chi ac eraill ymateb i’r gostyngiad o ran oriau ar gyfer arloesi’n gynorthwyol fis Ebrill y llynedd?
2 Arloesi’n Gynorthwyol: Llynedd, roedd y cynulleidfaoedd yn llawn cyffro ar ôl clywed am y gostyngiad o ran oriau ar gyfer arloesi’n gynorthwyol ym mis Ebrill. Ysgrifennodd un brawd: “Rydw i’n dal yn yr ysgol uwchradd, a dydy hi ddim yn bosibl i mi arloesi’n barhaol. Ond rydw i am roi cais i mewn i wneud 30 awr ym mis Ebrill a cheisio gwneud 50 awr.” Ysgrifennodd chwaer sy’n gweithio’n llawn amser: “Tri deg awr—Mae hynny o fewn fy nghyrraedd i!” Dywedodd un gyn-arloeswraig yn ei 80au: “Dyma’r cyfle rwyf i wedi bod yn aros amdano! Roedd Jehofah yn gwybod mai adeg orau fy mywyd i oedd pan oeddwn i’n arloesi.” Penderfynodd eraill i wneud mwy yn y weinidogaeth er nad oedden nhw’n gallu arloesi’n gynorthwyol.
3. Pam dylen ni ystyried arloesi’n gynorthwyol ym mis Mawrth, Ebrill, a Mai?
3 Bydd mis Mawrth yn gyfle ardderchog i arloesi’n gynorthwyol oherwydd fe fydd opsiwn unwaith eto i wneud naill ai 30 awr neu 50 awr. Ar ben hynny, gan ddechrau ar ddydd Sadwrn, Mawrth 17, fe fydd ymgyrch arbennig i wahodd pobl i’r Goffadwriaeth ar Ebrill 5. Bydd llawer yn mwynhau arloesi’n gynorthwyol gymaint fel y byddan nhw eisiau parhau ym mis Ebrill a Mai, ond gyda’r gofyn y tro hwn yn 50 awr.
4. Sut gallwn ni wneud mwy yn y weinidogaeth, a beth fydd y bendithion?
4 Yn ystod eich noson Addoliad Teuluol nesaf, pam na wnewch chi drafod sut y gall pob un aelod o’r teulu ehangu ei weinidogaeth yn ystod tymor y Goffadwriaeth? (Diar. 15:22) Gofynnwch i Jehofah fendithio eich ymdrechion. (1 Ioan 3:22) Wrth ichi wneud mwy yn y weinidogaeth, fe fyddech chi nid yn unig yn clodfori Jehofah, ond yn llawenhau yn eich bendithion.—2 Cor. 9:6.