A Fedrwch Chi Arloesi’n Gynorthwyol?
1. Pam mae adeg y Goffadwriaeth yn amser da ichi ehangu eich gweinidogaeth?
1 Mae adeg y Goffadwriaeth yn gyfle da inni ehangu ein gweinidogaeth. Dyma gyfle inni fyfyrio ar y cariad mawr dangosodd Jehofah drwy roi ei Fab fel pridwerth. (Ioan 3:16) Mae hyn yn gwneud inni deimlo’n hynod o ddiolchgar i Jehofah ac yn ein hysgogi ni i ddweud wrth eraill am yr hyn y mae ef yn ei wneud ar gyfer dynolryw. (Esei. 12:4, 5; Luc 6:45) Gallwn ni fwynhau cymryd rhan mewn ymgyrch arbennig i wahodd pobl yn ein tiriogaeth i fynychu’r Goffadwriaeth gyda ni. Yna, rydyn ni’n ceisio cynyddu diddordeb y rhai a fynychodd. A fyddech chi’n gwneud mwy ym mis Mawrth, Ebrill, neu Fai drwy arloesi’n gynorthwyol?
2. Pam mae mis Mawrth yn fis arbennig o dda i arloesi’n gynorthwyol?
2 Gwnewch Fawrth yn Fis i’w Gofio: Mae mis Mawrth yn fis arbennig o dda i arloesi’n gynorthwyol. Gall y rhai sy’n arloesi’n gynorthwyol ddewis gwneud naill ai 30 awr neu 50 awr. Os yw ymweliad arolygwr y gylchdaith wedi ei drefnu ar gyfer mis Mawrth, gall yr arloeswyr cynorthwyol fynychu’r cyfarfod cyfan ar gyfer arloeswyr parhaol ac arbennig. Cynhelir y Goffadwriaeth eleni ar nos Fawrth, Mawrth 26, 2013. Bydd yr ymgyrch i wahodd pobl yn para’n hirach nag arfer, gan gychwyn ar ddydd Gwener, Mawrth 1. Hefyd, mae gan fis Mawrth bum penwythnos ynddo. Felly, beth am ichi feddwl yn ofalus am gyfrannu at wneud hwn y mis mwyaf arbennig o’r flwyddyn?
3. Sut gallwn ni drefnu i wneud mwy yn y weinidogaeth?
3 Paratowch Nawr: Nawr yw’r amser i ystyried pa newidiadau sydd angen ichi eu gwneud er mwyn arloesi. Bydd cydweithrediad yn eich teulu yn bwysig, felly neilltuwch amser yn ystod eich noson Addoliad Teuluol er mwyn trafod bwriadau eich teulu ac er mwyn gwneud cynllun. (Diar. 15:22) Peidiwch â digalonni os nad ydych yn gallu arloesi’n gynorthwyol. Oes modd addasu eich amserlen fel y gallwch aros allan yn hirach nag yr ydych fel arfer? A fedrwch chi weithio diwrnod ychwanegol yn y weinidogaeth yn ystod yr wythnos?
4. Pa fendithion a ddaw wrth inni wneud mwy yn ystod mis Mawrth, Ebrill, a Mai?
4 Wrth inni wneud mwy yn ystod mis Mawrth, Ebrill, a Mai, byddwn ni’n cael boddhad a llawenydd wrth wasanaethu Jehofah a helpu eraill. (Ioan 4:34; Act. 20:35) Yn bwysicach fyth, bydd ein hymdrechion anhunanol yn dod â llawenydd i Jehofah.—Diar. 27:11.