Blwch Cwestiynau
◼ A ddylai chwaer orchuddio ei phen os yw brawd sydd wedi ei fedyddio yn dod gyda hi ar astudiaeth Feiblaidd wrth y drws?
Wrth i chwaer gynnal astudiaeth gyson sydd wedi ei threfnu, ac mae brawd yn bresennol, dylai’r chwaer orchuddio ei phen. (1 Cor. 11:3-10) Ar dudalen 27 o Watchtower, Gorffennaf 15, 2002, mae’n egluro: “Sesiwn sydd wedi ei threfnu o flaen llaw yw hon, lle mae’r un sy’n cynnal yr astudiaeth yn arwain y drafodaeth. O dan yr amgylchiadau hyn, mae’r astudiaeth yn estyniad o’r gynulleidfa. Os yw chwaer sydd wedi ei bedyddio yn cynnal astudiaeth o’r fath gyda brawd sydd wedi ei fedyddio yn bresennol, byddai’n addas iddi orchuddio ei phen.” Mae hyn yn berthnasol petai’r astudiaeth yn cael ei chynnal mewn tŷ, wrth y drws, neu mewn lleoliad arall.
Ar y llaw arall, os nad yw astudiaeth Feiblaidd wedi ei sefydlu eto, ni fydd rhaid i’r chwaer gorchuddio ei phen pan ddaw brawd gyda hi, hyd yn oed os yw’n bwriadu dangos sut mae astudiaeth yn cael ei chynnal, neu’n bwriadu dangos rhywbeth yn un o’n cyhoeddiadau astudio. Oherwydd bod astudiaethau wrth y drws yn cael eu sefydlu dros gyfnod o amser, drwy alwadau cynyddol, bydd rhaid i’r cyhoeddwyr ystyried yr amgylchiadau a bod yn rhesymol wrth benderfynu pryd i ddechrau gorchuddio’u pennau.