Hogi Ein Sgiliau yn y Weinidogaeth—Dechrau Astudiaeth Gyda’r Llyfryn Newyddion Da Oddi Wrth Dduw!
Pam Mae’n Bwysig? I wneud disgyblion, mae’n rhaid inni fod yn athrawon sy’n dysgu eraill am Air Duw. (Math. 28:19, 20) Medrwn ni i gyd ddysgu eraill mewn ffordd effeithiol drwy ddefnyddio’r adnoddau sydd wedi eu rhoi inni. Mae’r llyfryn Newyddion Da Oddi Wrth Dduw! wedi ei ddylunio’n arbennig ar gyfer ein helpu ni i ddysgu’r gwirionedd i eraill. Gallwn ei ddefnyddio i ddechrau astudiaeth Feiblaidd gyda deiliad tŷ ar yr alwad gyntaf.
Rhowch Gynnig ar Hyn yn Ystod y Mis:
Gweddïwch am yr awydd i gynnal astudiaeth. Hefyd, gallwch ymbil ar Jehofa am ei help er mwyn cychwyn astudiaeth Feiblaidd, ac er mwyn dod yn athro effeithiol.—Phil. 2:13.
Yn ystod eich astudiaeth bersonol neu deuluol, cymerwch yr amser i ddysgu’r cyflwyniad ar gof fel eich bod chi’n gallu siarad yn hyderus a dechrau astudiaeth Feiblaidd ar y stepen drws.