Cyflwyniadau Enghreifftiol
I Ddechrau Astudiaethau Beiblaidd ar y Dydd Sadwrn Cyntaf ym Mis Hydref
“Rydyn ni’n cael sgwrs fach efo pawb yn yr ardal heddiw. Mae llawer yn teimlo bod un o’r pethau anoddach maen nhw erioed wedi dioddef ydy colli rhywun sy’n agos atyn nhw. Dw i’n siŵr bod chi wedi teimlo’r un fath. Beth ydych chi’n meddwl? [Arhoswch am ymateb. Yna cynigiwch y llyfryn Newyddion Da Oddi Wrth Dduw!] Dw i’n meddwl bod y llyfryn hwn yn galonogol.” Trowch at bennod 6 a thrafodwch yr wybodaeth o dan gwestiwn un, ac o leiaf un o’r adnodau. Trefnwch fynd yn ôl i drafod y cwestiwn nesaf.
The Watchtower Hydref 1
“Rydyn ni’n galw o dŷ i dŷ heddiw i annog pawb i ddarllen y Beibl. Rydyn ni’n gwybod bod gan rai diddordeb yn y Beibl, ond ddim pawb. Beth amdanoch chi? [Arhoswch am ymateb.] Dyma beth mae’r Beibl yn ei ddweud. [Darllenwch 1 Thesaloniaid 2:13.] Dw i’n siŵr byddwch chi’n cytuno, os yw’r Beibl yn llyfr oddi wrth Dduw, mae’n werth chweil ei ddarllen. Mae’r cylchgrawn yma yn rhoi disgrifiad byr o beth mae’r Beibl yn ei gynnwys ac yn egluro pam y dylai fod o ddiddordeb inni.”
Awake! Hydref
“Beth yw eich barn chi ar y cwestiwn yma: Ydy’n bosib bod yn hapus hyd yn oed os ydyn ni’n dlawd? [Arhoswch am ymateb.] Sylwch ar beth mae’r Beibl yn ei ddweud. [Darllenwch 1 Timotheus 6:8.] Mae’r cylchgrawn yma yn trafod yr agwedd meddwl gorau tuag at arian, ac mae hefyd yn trafod pethau gwerthfawr dydyn ni ddim yn gallu prynu.”