LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • km 1/14 t. 2
  • Helpu Eich Gilydd Wrth Bregethu

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Helpu Eich Gilydd Wrth Bregethu
  • Ein Gweinidogaeth—2014
  • Erthyglau Tebyg
  • Hogi Ein Sgiliau yn y Weinidogaeth—Bod o Gymorth i’ch Partner
    Ein Gweinidogaeth—2014
  • Hogi Ein Sgiliau yn y Weinidogaeth—Hyfforddi’r Rhai Newydd
    Ein Gweinidogaeth—2015
  • Hyffordda Rai Newydd i Wasanaethu’n Barhaus
    Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr ar Gyfer y Cyfarfodydd—2017
  • Wyt Ti’n Cyflawni Dy Wasanaeth i Dduw?
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2019
Ein Gweinidogaeth—2014
km 1/14 t. 2

Helpu Eich Gilydd Wrth Bregethu

1. Sut gallwn ni efelychu agwedd yr apostol Paul wrth inni gydweithio ag eraill yn y weinidogaeth?

1 Wrth i’r apostol Paul dreulio amser gyda chyd-gredinwyr, cymerodd y cyfle i galonogi eraill, ac i gael ei galonogi hefyd. (Rhuf. 1:12) Wrth ichi weithio gyda chyhoeddwyr yn y weinidogaeth, ydych chi’n manteisio ar bob cyfle i’w calonogi a’u helpu nhw? Yn hytrach na chadw’n ddistaw, beth am drafod pethau sy’n eich helpu chi i fod yn gyhoeddwr effeithiol?

2. Beth gallwn ni ei wneud i fagu hyder ein partner yn y weinidogaeth, a pham mae hyn yn bwysig?

2 Meithrin Hyder: Mae gan rai cyhoeddwyr ddiffyg hyder. Weithiau mae hyn yn ymddangos yn eu hwynebau neu yn eu lleisiau. Gallwn ni fagu eu hyder drwy roi canmoliaeth ddiffuant. Ym mha ffyrdd eraill gallwn ni fagu eu hyder? Tra bod un arolygwr teithiol yn gweithio gydag eraill, mae’n hollol agored am ei bryderon. Mae’n sôn hefyd am ei weddïau i’w helpu i feistroli ei deimladau. Ynglŷn â’r hyn sy’n ei helpu i fod yn hyderus, dywedodd brawd arall: “Mae hyder yn cychwyn gyda gwên. Weithiau mae’n rhaid imi weddïo am help i wneud rhywbeth mor syml â hynny.” Oes yna unrhyw beth sydd wedi eich helpu chi i deimlo’n fwy hyderus yn y weinidogaeth? Soniwch amdano wrth eich partner.

3. Beth gallwn ni ei rannu gyda’n cyd-weithwyr er mwyn iddyn nhw fod yn fwy effeithiol yn y weinidogaeth?

3 Rhannu Dulliau: Oes gennych chi gwestiwn agoriadol neu frawddeg syml sy’n effeithiol er mwyn cychwyn sgwrs, efallai ynglŷn â digwyddiad lleol? Oes yna rywbeth rydych chi wedi ei ychwanegu at y cyflwyniad enghreifftiol sy’n gweithio i chi? Beth am ddweud wrth eich partner? (Diar. 27:17) Ar y ffordd i un o’ch galwadau, gallwch drafod eich nod ynglŷn â’r ymweliad, a sut rydych chi’n bwriadu ei gyrraedd. Ar ôl astudiaeth Feiblaidd, gallwch egluro pam gwnaethoch chi ddewis y pwyntiau, yr adnodau, neu’r dulliau a oedd yn cyflawni anghenion y myfyriwr.

4. Pam dylen ni fod yn awyddus i helpu ein cyd-weithwyr yn y weinidogaeth?

4 Roedd efengylwyr y ganrif gyntaf yn awyddus i helpu pawb, nid yr anghredinwyr yn unig. Gwelon nhw hefyd bwysigrwydd annog a chadarnhau ei gilydd. (Act. 11:23; 15:32) Hyfforddodd yr apostol Paul Timotheus pan oedd yn ifanc, ac yna fe anogodd ef i rannu’r hyn roedd wedi ei ddysgu ag eraill. (2 Tim. 2:2) Drwy gofio gwneud daioni i’n cyd-Gristnogion yn y weinidogaeth, rydyn ni’n eu helpu nhw i fod yn fwy effeithiol ac yn hapusach. Hefyd, rydyn ni’n plesio ein Tad nefol!—Heb. 13:15, 16.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu