Defnyddio Cyflwyniad i Air Duw i Ddechrau Sgyrsiau
1. Pa adnodd newydd a gawson ni yn ddiweddar ar gyfer y weinidogaeth?
1 Yn y Gynhadledd Ranbarthol y llynedd, cafodd llyfryn newydd ei gyhoeddi—Cyflwyniad i Air Duw. Sut gallwn ni ddefnyddio’r adnodd newydd hwn wrth baratoi ein cyflwyniadau ar gyfer y weinidogaeth? Gan fod y llyfryn yn grwpio adnodau o dan wahanol bynciau Beiblaidd mewn ffordd sy’n debyg i’r llyfr Reasoning, gall y llyfryn hwn fod yn hynod o ddefnyddiol i ddechrau sgyrsiau.
2. Sut gallwn ni ddefnyddio Cyflwyniad i Air Duw yn y weinidogaeth?
2 Efallai gallwch ddefnyddio cwestiwn 8 gan ddweud: “Rydyn ni’n galw ar bobl yn yr ardal oherwydd bod cymaint o bobl yn gofyn, ‘Ydy Duw yn gyfrifol am ddioddefaint?’ [Mewn rhai llefydd, mae’n fwy effeithiol i ddangos y cwestiwn i’r deiliad.] Beth yw eich barn chi? [Arhoswch am ymateb.] Mae’r Beibl yn rhoi ateb ardderchog i’r cwestiwn hwnnw.” Darllenwch a thrafodwch un neu fwy o’r adnodau sydd wedi eu dyfynnu’n syth o’r Beibl. Os oes gan y deiliad ddiddordeb, gallwch ddangos yr 20 cwestiwn a restrir yn y cyflwyniad, ac yna gofynnwch pa un y byddai’n hoffi ei drafod ar eich ymweliad nesaf. Neu, gallwch gynnig un o’n cyhoeddiadau astudio iddo sy’n sôn am y pwnc rydych newydd ei drafod.
3. Sut gallwn ni ddefnyddio Cyflwyniad i Air Duw gyda phobl nad ydyn nhw’n Gristnogion?
3 Gall cwestiynau 4 ac 13 hyd at 17 fod yn ddefnyddiol iawn pan ydyn ni’n pregethu wrth bobl nad ydyn nhw’n Gristnogion. Er enghraifft, gallwch ddefnyddio’r wybodaeth o gwestiwn 17 gan ddweud: “Rydyn ni’n galw ar bobl heddiw er mwyn helpu teuluoedd. A fasech chi’n cytuno bod teuluoedd yn wynebu llawer o broblemau heddiw? [Arhoswch am ymateb.] Mae’r geiriau doeth yma wedi helpu llawer o gyplau: “Y mae’r wraig hithau i barchu ei gŵr.” [Nid oes angen ichi ddweud bod y geiriau hyn yn dod o Effesiaid 5:33. Os gwraig yw’r deiliad, gallwch ddefnyddio Effesiaid 5:28.] Ydych chi’n meddwl y byddai rhoi’r geiriau hyn ar waith yn helpu’r gŵr a’r wraig i feithrin perthynas well?”
4. Beth gallwch chi ei ddweud wrth gloi sgwrs â rhywun nad yw’n Gristion?
4 Ar ddiwedd eich sgwrs, trefnwch i fynd yn ôl i barhau eich trafodaeth. Efallai gallwch ddewis adnod o dan yr un cwestiwn i’w thrafod y tro nesaf. Ar amser priodol, gadewch i’r deiliad wybod bod y cyngor doeth yn dod o’r Beibl. Cynigiwch lenyddiaeth rydych chi’n meddwl bydd yn apelio ato gan ystyried ei ddaliadau a’i farn am y Beibl.—Gweler yr atodiad yn Ein Gweinidogaeth Rhagfyr 2013.