Cyflwyniadau Enghreifftiol
I Ddechrau Astudiaethau Beiblaidd ar y Dydd Sadwrn Cyntaf ym Mis Gorffennaf
“Sut rydych chi’n meddwl bod Duw yn teimlo am ein gweddïau? Ydych chi’n meddwl ei fod yn gwrando ar bob gweddi?” Arhoswch am ymateb. Dangoswch wers 12 o’r llyfryn Newyddion Da, a thrafodwch y paragraff o dan y cwestiwn cyntaf a darllen Eseia 55:7. Cynigiwch y llyfryn, a threfnwch fynd yn ôl i drafod y cwestiwn nesaf.
The Watchtower Gorffennaf 1
“Gan fod Duw yw’r Creawdwr, ydych chi’n meddwl ei fod yn gyfrifol am yr holl bethau drwg sy’n digwydd yn y byd? [Arhoswch am ymateb. Wedyn darllenwch Iago 1:13.] Mae’r cylchgrawn hwn yn egluro pam mae pethau drwg yn digwydd, a beth fydd Duw yn ei wneud i ddod â diwedd i’r dioddef.”
Awake! Gorffennaf
“Mae bron pawb, ar ryw adeg neu’i gilydd, yn gorfod ymdopi â thrasiedi, fel trychineb naturiol, salwch difrifol, neu farwolaeth anwylyd. Pan fydd pethau o’r fath yn digwydd, ydych chi’n meddwl ei bod hi’n bwysig i gadw agwedd bositif? [Arhoswch am ymateb.] Mae llawer o bobl yn teimlo bod y Beibl wedi eu helpu nhw i ymdopi. [Darllen Rhufeiniaid 15:4.] Mae’r cylchgrawn hwn yn egluro sut gall y Beibl ein helpu ni i ymdopi â thrasiedi.”