Cyflwyniadau Enghreifftiol
Ble Cawn Ni Atebion i’r Cwestiynau Mawr?
Rhowch gopi o’r traethodyn i’r deiliad fel ei fod yn gallu gweld y teitl, a dywedwch: “Helo. Rydyn ni’n cymryd rhan mewn ymgyrch fyd-eang i gyhoeddi’r neges bwysig yma. Dyma eich copi chi.”
Os ydych chi’n gadael y traethodyn lle nad oes rywun adref, rhowch y traethodyn allan o’r golwg heb ei blygu’n fwy na sydd angen.
Petai’r deiliad yn dangos diddordeb neu’n awyddus i siarad, gallwch ofyn am ei farn ar y cwestiwn ar y tu blaen. Agorwch y traethodyn, a dangos iddo beth mae Salm 119:144, 160 yn ei ddweud. Eglurwch fod y traethodyn yn trafod gwefan a all ei helpu i ddarganfod atebion o’r Beibl. Efallai gallwch ddangos enghraifft iddo drwy chwarae’r fideo Pam Astudio’r Beibl? Cyn ichi adael, dangoswch y tri chwestiwn ar gefn y traethodyn a gofynnwch pa un y byddai’n hoffi cael yr ateb iddo. Cynigiwch i ddod yn ôl er mwyn dangos sut i ddarganfod ateb y Beibl i’r cwestiwn hwnnw drwy ddefnyddio jw.org. Pan ydych yn galw yn ôl, trafodwch yr ateb drwy fynd i CYHOEDDIADAU > LLYFRAU A LLYFRYNNAU a dangos y traethodyn sy’n ateb ei gwestiwn.
Os ydych chi’n dosbarthu gwahoddiadau i’r gynhadledd ranbarthol hefyd, rhowch gopi o’r gwahoddiad i’r deiliad gyda’r traethodyn a dywedwch, “Hefyd, mae yna wahoddiad ichi ar gyfer digwyddiad cyhoeddus sy’n rhad ac am ddim.”
The Watchtower Awst 1
Ar benwythnosau, pan fydd yn addas, dywedwch hyn er mwyn cynnig y Watchtower: “Rydyn ni’n cynnig ein cylchgronau diweddaraf. Mae’r rhifyn yma o’r Watchtower yn ateb y cwestiwn, Oes gan Dduw ddiddordeb ynoch chi?”
Awake! Awst
Ar benwythnosau, pan fydd yn addas, dywedwch hyn er mwyn cynnig yr Awake!: “Rydyn ni’n cynnig ein cylchgronau diweddaraf. Mae’r rhifyn yma o’r Awake! yn ateb y cwestiwn, Sut mae’n bosibl i bobl gyd-dynnu?”