Cyflwyniadau Enghreifftiol
The Watchtower 1 Ebrill
“Rydyn ni’n rhoi’r daflen yma i bawb yn yr ardal heddiw. [Rhowch i’r deiliad gopi o’r daflen Sut Rydych Chi’n Teimlo am y Beibl? a gofynnwch y cwestiynau ar y tu blaen. Dangoswch yr ateb o 2 Timotheus 3:16, gan ei annog i ddarllen y daflen pan fydd ganddo’r amser.] Nid yw llawer o bobl yn gwybod bod y Beibl yn rhoi atebion ardderchog i’r cwestiynau yma. [Dangoswch y cwestiynau o erthygl gyntaf y Watchtower.] Mae’r cylchgrawn hwn yn egluro sut i ddod o hyd i’r atebion yn eich Beibl chi.”
Awake! Ebrill
“Rydyn ni’n cael sgwrs fach â phobl heddiw ynglŷn â’r newidiadau sydd wedi effeithio ar y teulu, rhywbeth sydd yn poeni llawer. Flynyddoedd yn ôl, roedd plant yn gwrando ar eu rhieni, ond nawr, mewn ambell gartref, y plant sy’n rheoli’r teulu. Ydych chi’n meddwl bod rhieni’n disgyblu eu plant fel y dylen nhw? [Arhoswch am ymateb.] Yn ôl y Beibl, mae disgyblaeth yn bwysig. [Darllenwch Diarhebion 29:17.] Mae’r cylchgrawn hwn yn rhoi arweiniad rhesymol o’r Beibl, ac yn trafod beth mae’r Beibl yn ei ddweud am ddisgyblu plant.”