Defnyddiwch y Traethodyn am Ein Gwefan
Enw’r traethodyn yw Ble Cawn Ni Atebion i’r Cwestiynau Mawr? Mae tri chwestiwn ar gefn y traethodyn. Pan ddaw gyfle, gofynnwch i’r person pa gwestiwn y byddai’n hoffi cael yr ateb iddo. Yna, er mwyn ei helpu i ddarganfod yr ateb, dylech ei gyfeirio at y wefan i ateb y cwestiwn o dan CYHOEDDIADAU > LLYFRAU A LLYFRYNNAU. Hefyd, o dan BIBLE TEACHINGS > BIBLE QUESTIONS ANSWERED, bydd yn gallu darganfod yr atebion i’r cwestiynau: Beth yw Teyrnas Dduw? A beth fydd Teyrnas Dduw yn ei gyflawni?
Cadwch gopïau o’r traethodyn mewn lle handi er mwyn helpu pobl i ddysgu am y gobaith y mae’r Beibl yn sôn amdano.