LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • km 8/14 tt. 2-3
  • Canrif o Hysbysebu’r Deyrnas!

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Canrif o Hysbysebu’r Deyrnas!
  • Ein Gweinidogaeth—2014
  • Erthyglau Tebyg
  • 1914-2014: Can Mlynedd o Reolaeth y Deyrnas!
    Ein Gweinidogaeth—2014
  • Torri Tir Newydd—Tystiolaethu’n Gyhoeddus
    Ein Gweinidogaeth—2013
  • 1922—Can Mlynedd yn Ôl
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2022
  • Awst—Mis o Weithgaredd Hanesyddol!
    Ein Gweinidogaeth—2014
Gweld Mwy
Ein Gweinidogaeth—2014
km 8/14 tt. 2-3

Canrif o Hysbysebu’r Deyrnas!

1. Beth cafodd pobl Jehofa eu hannog i’w wneud ganrif yn ôl bron?

1 “Gwelwch, mae’r Brenin yn teyrnasu! Chi yw ei hysbysebwyr! Felly, hysbysebwch, hysbysebwch, hysbysebwch, y Brenin a’i deyrnas.” Dywedodd y Brawd Rutherford y geiriau cyffrous hynny ganrif yn ôl bron er mwyn annog pobl Jehofa i gyhoeddi neges y Deyrnas yn eang. Dyna yn union y gwnaethon ni! Yn yr un ffordd â’r Cristnogion cynnar, rydyn ni wedi pregethu newyddion da y Deyrnas “ym mhob rhan o’r greadigaeth dan y nef.” (Col. 1:23) Beth rydyn ni wedi ei wneud i hysbysebu Teyrnas Dduw yn ystod y ganrif ddiwethaf? Sut gallwn ni barhau i’w hysbysebu wrth inni dynnu am gan mlynedd ers genedigaeth y Deyrnas?

2. Sut mae ein llenyddiaeth wedi cyhoeddi Teyrnas Dduw?

2 Edrych yn Ôl: Am ddegawdau, mae ein llenyddiaeth wedi cyhoeddi Teyrnas Dduw. Er 1939, mae ein prif gylchgrawn wedi dwyn y teitl: The Watchtower Announcing Jehovah’s Kingdom. Yn aml, mae’r cylchgrawn hwn yn trafod y Deyrnas a’r hyn a fydd yn cael ei gyflawni drwyddi. Mae’r cylchgrawn Awake! hefyd yn canolbwyntio ar Deyrnas Dduw, yr unig obaith sydd gan ddynolryw. Priodol, felly, mai dyma’r cylchgronau sydd wedi cael eu cyfieithu a’u dosbarthu yn fwy nag unrhyw gylchgrawn arall yn y byd!—Dat. 14:6.

3. Pa ddulliau rydyn ni wedi eu defnyddio i hysbysebu’r Deyrnas?

3 Mae pobl Jehofa wedi defnyddio gwahanol ddulliau i hysbysebu’r Deyrnas. Yn y dyddiau cynnar, roedden ni’n defnyddio ceir gydag uchelseinyddion, ffonograffau symudol, ac roedden ni’n darlledu dros y radio. Roedd y dulliau hynny yn ein helpu ni i ledaenu’r newyddion da i gynulleidfa eang iawn a hynny ar adeg pan nad oedd llawer o gyhoeddwyr. (Salm 19:4) Drwy roi gwybodaeth ar jw.org, rydyn ni wedi cyhoeddi’r Deyrnas i filiynau o bobl yn ystod y blynyddoedd diwethaf—gan gynnwys pobl mewn gwledydd lle mae ein gwaith wedi cael ei gyfyngu.

4. Ym mha weithgareddau arbennig rydyn ni wedi cymryd rhan?

4 Mae pobl Jehofa wedi cymryd rhan mewn gwahanol weithgareddau arbennig er mwyn lledaenu’r neges am y Deyrnas. Er enghraifft, gan ddechrau yng nghanol y naw degau, gwnaethon ni ymdrech i ychwanegu at ein gwaith o bregethu o dŷ i dŷ drwy bregethu mewn llefydd cyhoeddus, meysydd parcio, porthladdoedd, a thrwy fynd at fusnesau. Yn ddiweddar, rydyn ni wedi trefnu tystiolaethu cyhoeddus metropolitan arbennig mewn dinasoedd mawr o gwmpas y byd. Yn ychwanegol i hynny, mae llawer o gynulleidfaoedd yn tystiolaethu’n gyhoeddus yn eu hardaloedd lleol drwy ddefnyddio trolïau a byrddau sydd wedi eu gosod mewn mannau prysur. Wrth gwrs, y brif ffordd o wneud y gwaith pregethu yw mynd o dŷ i dŷ.—Act. 20:20.

5. Pa gyfleon fydd ar gael i lawer ohonon ni yn ystod y flwyddyn wasanaeth newydd?

5 Edrych at y Dyfodol: Gyda’r flwyddyn wasanaeth newydd yn cychwyn ym mis Medi, bydd llawer yn dechrau gwasanaethu fel arloeswyr parhaol. A allwch chi ymuno â nhw? Os na fedrwch, a allwch chi arloesi’n gynorthwyol o dro i dro? Os ydych yn arloesi neu beidio, bydd Jehofa yn bendant yn eich bendithio chi am unrhyw aberthau rydych chi’n eu gwneud er mwyn cael mwy o ran yn y gwaith o hysbysebu’r Deyrnas.—Mal. 3:10.

6. Pam y bydd mis Hydref 2014 yn fis arbennig?

6 Bydd Hydref 2014 yn nodi can mlynedd ers i’r Deyrnas gael ei sefydlu. Mae’n addas felly, bod rhifyn cyhoeddus y Watchtower ar gyfer y mis hwnnw yn canolbwyntio ar Deyrnas Dduw. Beth am ichi geisio dosbarthu cymaint ag y medrwch chi o’r rhifyn hwnnw? Wrth inni edrych at y dyfodol, gadewch i bob un ohonon ni barhau i gyhoeddi’r “newydd da am deyrnas Dduw” i unrhyw un sy’n barod i wrando.—Act. 8:12.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu