Awst—Mis o Weithgaredd Hanesyddol!
Bydd Traethodyn Newydd yn Cael ei Ddosbarthu Ledled y Byd
1. Pa ymgyrch arbennig fydd yn cael ei chynnal wrth inni agosáu at ganmlwyddiant Teyrnas Dduw?
1 Wrth inni agosáu at ganmlwyddiant genedigaeth Teyrnas Dduw, bydd hi’n gyfle bendigedig i ogoneddu Jehofa drwy gymryd rhan mewn ymgyrch arbennig! Yn ystod mis Awst byddwn ni’n dosbarthu’n fyd-eang traethodyn newydd o’r enw Ble Cawn Ni Atebion i’r Cwestiynau Mawr? Mae’r traethodyn hwn yn annog darllenwyr i droi at y Beibl am atebion, ac yn egluro sut mae jw.org yn gallu eu helpu nhw.
2. Sut gallwn ni chwarae rhan mewn moli ein Duw Jehofa yn ystod Awst?
2 Moli Duw yn Uchel: Er mwyn helpu cyhoeddwyr i ehangu eu gweinidogaeth, mae cynllun mewn lle i gyhoeddwyr bedyddiedig arloesi’n gynorthwyol ym mis Awst. Yn ystod y mis hwnnw, bydd arloeswyr cynorthwyol yn gallu gwneud 30 awr. Er bod y cynadleddau ym mis Awst, mae’r mis yn cynnwys pedwar penwythnos arall, gan gynnwys dyddiau Gwener. Felly, bydd llawer o gyhoeddwyr sy’n gweithio neu sy’n mynychu’r ysgol yn gallu arloesi’n gynorthwyol. Os ydych yn astudio gyda myfyriwr, neu blentyn, sydd eisiau bod yn gyhoeddwr, siaradwch â chydlynydd corff yr henuriaid heb oedi. Byddai’n galonogol iawn petasai’r rhai newydd yn ymuno â ni fel cyhoeddwyr! Mae llawer o arloeswyr parhaol yn trefnu eu gwyliau ym mis Awst oherwydd maen nhw wedi cwblhau eu horiau, ond efallai bydden nhw’n gallu aildrefnu eu hamserlen er mwyn chwarae rhan mwy yn yr ymgyrch arbennig. Nawr yw’r amser i deuluoedd ddechrau meddwl am sut y bydden nhw’n gallu ‘bloeddio yn uchel mewn moliant’ i Jehofa yn ystod mis Awst.—Esra 3:11; Diar. 15:22.
3. Beth yw ein gobaith am yr ymgyrch arbennig?
3 Er ein bod ni wedi cymryd rhan mewn ymgyrchoedd o’r fath yn y gorffennol, rydyn ni’n obeithiol bydd yr un ym mis Awst yn hanesyddol. A allwn ni gyrraedd uchafswm newydd yn y nifer o gyhoeddwyr, y nifer o arloeswyr cynorthwyol, ac yn y nifer o oriau rydyn ni’n eu treulio yn y weinidogaeth? Wrth inni ddod at ddiwedd blwyddyn wasanaeth 2014, gadewch inni ofyn am fendith Jehofa wrth inni fynd ati i wneud Awst y mis pregethu gorau erioed!—Math. 24:14.