Ein Gwefan Swyddogol—Defnyddiwch Hi yn Eich Gweinidogaeth
Cyfeiriwch Bobl at y Wefan: Mae rhai sy’n dal yn ôl rhag sgwrsio â ni, neu sy’n gwrthod ein llenyddiaeth, yn barod i ddarllen am Dystion Jehofah drwy edrych ar jw.org yn eu cartrefi. Felly, daliwch ar bob cyfle i ddweud wrth eraill am y wefan.
Er Mwyn Ateb Cwestiynau: Weithiau y bydd y deiliad, rhywun sy’n dangos diddordeb, neu ffrind, yn gofyn cwestiwn am Dystion Jehofah a’u daliadau. Dangoswch yr ateb iddyn nhw yn y fan a’r lle drwy ddefnyddio dyfais symudol neu gyfrifiadur. Sut bynnag, peth da fyddai darllen unrhyw adnod o’r Beibl yn y Beibl ei hun. Os nad oes gennych chi fynediad i’r Rhyngrwyd, esboniwch sut mae defnyddio jw.org i ddod o hyd i atebion.—Ewch at “Bible Teachings/Bible Questions Answered” neu “About Us/Frequently Asked Questions” ar y wefan Saesneg.
Anfonwch Erthygl neu Gyhoeddiad at Rywun Rydych yn Ei Adnabod: Anfonwch e-bost gydag atodiad PDF neu EPUB sydd wedi’i lawrlwytho. Neu lawrlwythwch fersiwn sain o’n cyhoeddiadau ar CD. Bob tro rydych chi’n anfon llyfr, llyfryn, neu gylchgrawn cyfan at rywun, gallwch ei gofnodi ar eich adroddiad. Ni ddylid anfon deunydd yn ddi-enw nac mewn swmp. Ni ddylid ei lwytho i fyny i unrhyw wefan arall chwaith.—Ewch at “Cyhoeddiadau.”
Dangoswch y Newyddion Diweddaraf am Dystion Jehofah: Bydd hyn yn helpu’r rhai sy’n astudio’r Beibl, neu rai eraill rydyn ni’n eu galw arnyn nhw, i weld bod ein gwaith a’n hundod Cristnogol yn ymestyn ledled y byd. (Salm 133:1)—Ewch at “News” ar y wefan Saesneg.
[Diagram ar dudalen 5]
(Ewch i’r cyhoeddiad i weld fformat testun cyflawn)
Triwch Hyn
1 Cliciwch ar “Cyhoeddiadau,” chwiliwch am yr eitem y dymunwch ei lawrlwytho, a dewiswch y fformat testun neu sain.
2 Cliciwch ar “MP3” i ddangos rhestr o erthyglau unigol. Cliciwch ar deitl yr erthygl i’w lawrlwytho neu ar i wrando arni ar-lein.
3 Os hoffech chi gael cyhoeddiad mewn iaith arall, dewiswch iaith o’r rhestr hon.