Cyflwyniadau Enghreifftiol
I Ddechrau Astudiaethau Beiblaidd ar y Dydd Sadwrn Cyntaf ym Mis Mawrth
“Rydyn ni yma oherwydd rhywbeth fydd yn digwydd ar Ebrill 14, sef Coffadwriaeth marwolaeth Iesu. Bydd rhai yn dod oherwydd eu bod nhw’n credu bod marwolaeth Iesu yn bwysig iawn. Ond, dydy eraill ddim yn sicr a yw marwolaeth Iesu yn effeithio arnyn nhw’n bersonol. Ydych chi’n meddwl bod ei farwolaeth yn dod â buddion i chi a fi?” Arhoswch am ymateb. Trowch at wers 4 yn y llyfryn Newyddion Da Oddi Wrth Dduw!, a thrafodwch y wybodaeth o dan gwestiwn 5, ac o leiaf un o’r adnodau. Cynigiwch y llyfryn, a threfnwch i alw’n ôl i drafod y wers nesaf.
The Watchtower Mawrth 1
“Mae llawer o bobl yn gofyn, ‘Pam nad yw Duw yn gwneud rhywbeth am y dioddefaint a’r anghyfiawnder yn y byd?’ Ydy hi oherwydd bod ganddo ddim ots amdanon ni, neu am ei fod eisiau i bobl ddioddef? [Arhoswch am ymateb. Yna, darllenwch Ioan 3:16.] Er bod llawer yn defnyddio’r adnod yma i ddangos bod Duw yn caru pobl, dydyn nhw ddim yn sicr sut mae marwolaeth Iesu o unrhyw fudd iddyn nhw. Mae’r cylchgrawn yma yn egluro sut mae marwolaeth Iesu yn ei gwneud hi’n bosibl i gael gwared ar ddioddefaint ac anghyfiawnder.”
Awake! Mawrth
“Rydyn ni’n siarad â phobl yn yr ardal i egluro adnod o’r Beibl y mae llawer yn ei chamddeall. [Darllenwch Genesis 1:1.] Mae rhai’n credu cafodd y bydysawd ei greu, ond nid pawb. Beth yw eich barn chi? [Arhoswch am ymateb.] Mae llawer yn ei chael hi’n anodd credu mewn creadigaeth oherwydd mae arweinwyr crefyddol yn dysgu rhywbeth sydd ddim yn y Beibl. Mae’r cylchgrawn yma’n cyflwyno eglurhad rhesymegol y Beibl am ddechreuad y bydysawd.”