Ydych Chi’n Paratoi ar Gyfer y Goffadwriaeth?
Y dyddiad oedd 13 Nisan yn y flwyddyn 33 OG. Roedd Iesu’n gwybod bod mai dim ond un noson arall yr oedd yn medru ei threulio gyda’i ddisgyblion cyn iddo gael ei ladd. Byddai’n dathlu’r Pasg olaf gyda nhw ac yna’n sefydlu trefniant newydd, sef Swper yr Arglwydd. Yn bendant, roedd angen paratoi ar gyfer achlysur mor bwysig. Felly, dywedodd Iesu wrth Pedr a Ioan: “Ewch a pharatowch.” (Luc 22:7-13) Bob blwyddyn ers hynny, mae wedi bod yn angenrheidiol i Gristnogion sy’n dymuno mynychu’r Goffadwriaeth baratoi ar ei chyfer. (Luc 22:19) Pa bethau sylfaenol y dylid eu gwneud i baratoi ar gyfer y Goffadwriaeth a fydd, eleni, yn cael ei chynnal ar y 3 Ebrill?
Yr hyn y gall y Cyhoeddwyr ei Wneud i Baratoi:
Trefnwch i gael rhan lawn yn yr ymgyrch i ddosbarthu’r gwahoddiadau.
Gwnewch restr o bobl sy’n astudio’r Beibl, perthnasau, ffrindiau ysgol, a chyd-weithwyr ac yna ewch ati i’w gwahodd.
Darllenwch yr adnodau sydd wedi eu pennu ar gyfer y Goffadwriaeth a myfyriwch arnyn nhw.
Dewch i’r Goffadwriaeth gyda’r bwriad o groesawu ymwelwyr.