LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • mwb21 Mawrth t. 5
  • Wyt Ti’n Paratoi ar Gyfer y Goffadwriaeth?

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Wyt Ti’n Paratoi ar Gyfer y Goffadwriaeth?
  • Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr y Cyfarfodydd—2021
  • Erthyglau Tebyg
  • Pwy Galla’ i ei Wahodd?
    Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr y Cyfarfodydd—2020
  • Mae Jehofa yn Bendithio Ein Hymdrechion i Fynd i’r Goffadwriaeth
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2023
  • “Gwnewch Hyn”
    Ein Gweinidogaeth—2012
  • Ydych Chi’n Paratoi ar Gyfer y Goffadwriaeth?
    Ein Gweinidogaeth—2015
Gweld Mwy
Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr y Cyfarfodydd—2021
mwb21 Mawrth t. 5
Pedr ac Ioan yn gosod bara a chwpanau ar fwrdd.

Pedr ac Ioan yn paratoi’r ystafell ar gyfer gŵyl y Pasg yn 33 OG.

EIN BYWYD CRISTNOGOL

Wyt Ti’n Paratoi ar Gyfer y Goffadwriaeth?

Roedd Pasg olaf Iesu am fod yn arwyddocaol. Oherwydd byddai Iesu’n marw yn fuan, roedd yn bwriadu bwyta’r Pasg gyda’i apostolion a chyflwyno rhywbeth newydd y byddai’n cael ei gadw bob blwyddyn, Swper yr Arglwydd. Felly anfonodd Pedr ac Ioan i baratoi’r ystafell. (Lc 22:7-13; gweler y llun ar y clawr.) Mae hyn yn ein hatgoffa ni bod rhaid inni baratoi ar gyfer y Goffadwriaeth ar Mawrth 27. Mae’n debyg fod cynulleidfaoedd wedi gwneud trefniadau ar gyfer siaradwr, yr elfennau, ac ati. Ond, beth gallwn ni ei wneud i baratoi ar gyfer y Goffadwriaeth?

Paratoa dy galon. Darllena a myfyria ar ddarlleniad Beiblaidd y Goffadwriaeth. Mae yna raglen ar gael yn Chwilio’r Ysgrythurau Bob Dydd. Mae Cymorth i Astudio Gair Duw, pennod 16, yn cynnwys rhaglen gyda mwy o fanylion. (Gweler hefyd rhifyn Ebrill 2020 o Gweithlyfr y Cyfarfodydd.) Gall teuluoedd chwilio am wybodaeth ynglŷn â phwysigrwydd y pridwerth yn y Watch Tower Publications Index neu Llawlyfr Cyhoeddiadau Tystion Jehofa. Gallan nhw ystyried y deunydd hwn yn eu haddoliad teuluol.

Teulu yn trafod y Goffadwriaeth yn ystod eu haddoliad teuluol.

Gwahodda eraill i ddod. Gwna dy orau yn ymgyrch y Goffadwriaeth. Meddylia am y rhai gelli di eu gwahodd, fel galwadau, cyn-fyfyrwyr Beiblaidd, pobl rwyt ti’n eu hadnabod, a pherthnasau. Dylai henuriaid wahodd y rhai sy’n anweithredol. Cofia os ydy rhywun yn byw mewn ardal wahanol, gelli di ddod o hyd i amser a lleoliad y Goffadwriaeth yn ei ardal drwy glicio ar y tab AMDANON NI ar frig tudalen hafan jw.org/cy, a dewis “Coffadwriaeth.”

Dau henuriad yn ymweld â brawd anweithredol a’i wahodd i’r Goffadwriaeth.

Beth arall gallwn ni ei wneud er mwyn paratoi?

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu