Cyflwyniadau Enghreifftiol
The Watchtower 1 Mai
“Petasech chi’n gallu rhoi terfyn ar un broblem yn y byd, beth fyddai hynny? [Arhoswch am ymateb.] Yn ôl y Beibl, bydd Duw yn rhoi terfyn ar y broblem honno a nifer o rai eraill. [Dewiswch a darllen adnod berthnasol fel Daniel 2:44; Diarhebion 2:21, 22; Mathew 7:21-23; 2 Pedr 3:7.] Mae’r rhifyn yma o’r Watchtower yn trafod sut bydd Duw yn gwneud y fath newidiadau arbennig i’r ddaear.”
Sut Rydych Chi’n Teimlo am y Dyfodol?
“Ydych chi’n meddwl y bydd hi’n bosibl inni fyw mewn byd lle na fydd unrhyw dlodi a bydd gan bawb ei dŷ ei hun? [Arhoswch am ymateb.] Sylwch ar yr addewid mae Duw wedi ei wneud i’r ddynoliaeth ynglŷn â hyn. [Darllenwch Eseia 65:21, 22.] Mae’r daflen yma yn trafod sut rydyn ni’n gwybod bydd yr addewidion yma yn dod yn wir.”