A Allwch Chi Estyn Gwahoddiad?
Mewn sawl cynulleidfa, nid yw rhai cyhoeddwyr yn gallu gwneud llawer yn y weinidogaeth oherwydd mae ganddyn nhw broblemau iechyd parhaol neu maen nhw’n heneiddio. (2 Cor. 4:16) A allwch chi wahodd rhywun gydag amgylchiadau o’r fath i fod yn gwmni i chi wrth gynnal astudiaeth o’r Beibl? Pe bai’r cyhoeddwr yn gaeth i’r tŷ, efallai gallwch drefnu i gynnal yr astudiaeth yn eu tŷ nhw. Ar adegau, hwyrach gallwch chi dreulio ychydig bach o amser gyda chyhoeddwr anabl yn mynd o ddrws i ddrws neu’n mynd ar alwad neu ddwy. Mae gan nifer o gyhoeddwyr hŷn lawer o brofiad yn y weinidogaeth. Felly, bydd gweithio gyda’ch gilydd yn eu calonogi nhw ac yn eich calonogi chi hefyd. (Rhuf. 1:12) Yn ychwanegol i hyn, bydd eich ymdrechion i ddangos cariad yn cael eu gwobrwyo gan Jehofah.—Diar. 19:17; 1 Ioan 3:17, 18.