LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • km 11/15 t. 2
  • Recordiadau Sain—Sut i’w Defnyddio?

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Recordiadau Sain—Sut i’w Defnyddio?
  • Ein Gweinidogaeth—2015
  • Erthyglau Tebyg
  • Wyt Ti’n Gwneud Defnydd Da o’r Fersiwn Sain o’r Beibl?
    Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr y Cyfarfodydd—2023
  • Dal ati i Ddarllen y Beibl Bob Dydd
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2025
  • Rhaglenni Cynhadledd Sy’n Cael Eu Gweld a’u Clywed
    Sut Mae Eich Cyfraniadau yn Cael eu Defnyddio
  • Ydych Chi Erioed Wedi Gofyn?
    Deffrwch!—2019
Gweld Mwy
Ein Gweinidogaeth—2015
km 11/15 t. 2

Recordiadau Sain​—Sut i’w Defnyddio?

1. Yn ogystal â chyhoeddiadau printiedig, pa ddarpariaeth arall sydd gennyn ni?

1 Mae llawer yn mwynhau defnyddio jw.org i ddarllen ‘geiriau dymunol a chywir.’ (Preg. 12:10) Fodd bynnag, a ydych chi wedi defnyddio’r recordiadau sain? Mae’r rhain yn ei gwneud hi’n bosibl inni wrando ar lawer iawn o’r wybodaeth sydd i’w chael ar ein gwefan. Sut gallwn ni elwa ar ein recordiadau sain?

2. Sut gallwn ni ddefnyddio recordiadau sain ar gyfer astudiaeth bersonol neu deuluol?

2 Ar Gyfer Astudiaeth Bersonol neu Deuluol: Gall gwrando ar recordiadau sain o’r Beibl, y cylchgronau, neu o gyhoeddiad arall wrth inni deithio neu gwneud pethau eraill ein helpu i ddefnyddio ein hamser yn dda. (Eff. 5:15, 16) Gallwn roi lliw i’n haddoliad teuluol drwy wrando ar ddeunydd sy’n cael ei ddarllen wrth inni ddilyn yr un pryd yn ein copïau personol. Mae defnyddio recordiadau sain wrth astudio ar ein pennau ein hunain yn medru bod yn ddefnyddiol dros ben os ydyn ni’n dymuno gwella ein sgiliau darllen neu os ydyn ni’n dysgu iaith newydd.

3. Pwy yn ein tiriogaeth ni sy’n gallu elwa ar recordiadau sain?

3 Ar Gyfer y Weinidogaeth: Gall pobl yn ein tiriogaeth sy’n teimlo eu bod nhw’n rhy brysur i ddarllen fod yn fodlon gwrando ar recordiadau sain. Neu mae’n bosibl inni ddod ar draws rhai sy’n siarad iaith arall ac sy’n fwy tebygol o wrando os ydyn nhw’n clywed neges y Deyrnas yn ‘eu hiaith eu hunain.’ (Act. 2:6-8) Mewn rhai ardaloedd, mae gwrando yn rhan bwysig o’r diwylliant. Er enghraifft, yn y diwylliant Hmong, y traddodiad yw trosglwyddo eu hanes i’r genhedlaeth nesaf ar lafar ac felly maen nhw’n medru cofio’r wybodaeth y maen nhw yn ei chlywed. Mae llawer o ddiwylliannau yn Affrica yn dysgu drwy adrodd storïau.

4. Pa gwestiynau y gallwn ni eu gofyn i ni’n hunain ynglŷn â helpu pobl sy’n byw yn ein tiriogaeth?

4 Yn ein tiriogaeth ni, a fyddai’n syniad da i chwarae sampl o recordiad sain yn iaith y deiliad? A fyddai rhywun yn elwa ar dderbyn recordiad sain wedi ei anfon ato drwy e-bost? A fedrwn ni lawrlwytho cyhoeddiad sain i CD a’i roi i’r sawl sy’n dangos diddordeb, ynghyd â chopi printiedig? Gall pob llyfr, llyfryn, cylchgrawn, neu daflen electronig rydyn ni’n eu rhoi i rywun yn y weinidogaeth gael eu cofnodi ar ein hadroddiadau. Dyluniwyd ein recordiadau sain er mwyn inni fedru eu defnyddio wrth astudio ar ein pennau ein hunain ac inni blannu hadau gwirionedd y Deyrnas.​—1 Cor. 3:6.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu