AWGRYMIAD AR GYFER ASTUDIO
Dal ati i Ddarllen y Beibl Bob Dydd
Oherwydd bod bywyd mor brysur, a wyt ti’n stryglo i gadw at rwtîn o ddarllen Gair Duw bob dydd? (Jos. 1:8) Os felly, rho gynnig ar yr awgrymiadau canlynol:
Gosoda nodyn atgoffa. Gosoda larwm ar dy ddyfais i dy atgoffa di i ddarllen y Beibl.
Cadwa dy Feibl mewn lle amlwg. Cadwa dy Feibl lle gelli di ei weld yn hawdd os wyt ti’n darllen fersiwn printiedig.—Deut. 11:18.
Gwranda ar recordiadau sain. Gwranda ar y rhain wrth iti wneud pethau yn ystod y dydd. Dywedodd Tara, mam sy’n arloesi ac yn gweithio yn ystod y nos: “Mae gwrando ar fersiwn sain y Beibl wrth wneud gwaith tŷ yn fy helpu i i ddarllen y Beibl yn rheolaidd.”
Dal ati. Os ydy amgylchiadau annisgwyl yn torri ar draws dy rwtîn, darllena o leiaf gwpl o adnodau cyn mynd i’r gwely. Bydd darllen hyd yn oed ychydig bob dydd yn gwneud gwahaniaeth mawr.—1 Pedr 2:2.