Cyflwyniadau Enghreifftiol
The Watchtower Rhagfyr 1
“Rydyn ni’n galw heibio heddiw i drafod camsyniad cyffredin ynglŷn â’r Beibl. Mae’r rhan fwyaf o bobl yn parchu’r Beibl, ond yn meddwl ei fod yn rhy anodd ei ddeall. Sut rydych chi’n teimlo am y Beibl? [Arhoswch am ymateb.] Sylwch ar y rheswm yma dros ystyried beth mae’r Beibl yn ei ddweud. [Darllenwch Rhufeiniaid 15:4.] Mae’r cylchgrawn hwn yn egluro sut rydyn ni’n gwybod bod y Beibl wedi ei ysgrifennu inni fedru ei ddeall. Hefyd, mae’n rhoi awgrymiadau i’n helpu ni i ddeall Gair Duw.”
Sut i Gael Teulu Hapus
“Rydyn ni’n galw heddiw i drafod sut gall teuluoedd fod yn hapus. Ydych chi’n meddwl bod y Beibl yn gallu ein helpu i ddatrys problemau sy’n codi yn y teulu? [Arhoswch am ymateb.] Sylwch ar beth mae’r adnod yma yn ei ddweud. [Darllenwch 1 Pedr 4:8.] Mae trydedd bennod y llyfryn yma yn dangos sut gall y Beibl ein helpu i ddatrys problemau teuluol.”