Blwch Cwestiynau
◼ Pryd y byddai’n briodol i ddod ag astudiaeth Feiblaidd i ben?
Os yw twf ysbrydol y myfyriwr yn dod i stop, efallai bydd rhaid dod â’r astudiaeth i ben gan ddefnyddio tact. (Math. 10:11) Ystyriwch: A ydy’r myfyriwr yn cadw ei apwyntiad ar gyfer yr astudiaeth? Ydy’r wers yn cael ei pharatoi o flaen llaw ganddo? Ydy ef wedi bod i rai o gyfarfodydd y gynulleidfa? Ydy’r myfyriwr yn rhannu’r hyn y mae’n ei ddysgu ag eraill? Ydy ef yn gwneud newidiadau yn unol ag egwyddorion y Beibl? Wrth gwrs, cymerwch ei oedran a’i allu i ystyriaeth, gan gofio bod pawb yn dod yn eu blaenau ar gyflymder gwahanol. Hefyd, os dewiswch ddod â’r astudiaeth i ben, cadwch y drws ar agor, iddo gael ailafael yn ei astudiaeth yn y dyfodol.—1 Tim. 2:4.