LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • mwb19 Rhagfyr t. 7
  • Hogi Ein Sgiliau yn y Weinidogaeth—Bod yn Hyblyg

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Hogi Ein Sgiliau yn y Weinidogaeth—Bod yn Hyblyg
  • Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr y Cyfarfodydd—2019
  • Erthyglau Tebyg
  • Helpu Pobl i Resymu
    Ein Gweinidogaeth—2011
  • Hogi Ein Sgiliau yn y Weinidogaeth—Cynnig y Llyfr Beibl Ddysgu
    Ein Gweinidogaeth—2015
  • Defnyddia Ddigwyddiadau Diweddar yn Dy Weinidogaeth
    Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr y Cyfarfodydd—2022
  • Hogi Ein Sgiliau yn y Weinidogaeth—Ymateb i Ymdrechion i Ddiweddu’r Sgwrs
    Ein Gweinidogaeth—2014
Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr y Cyfarfodydd—2019
mwb19 Rhagfyr t. 7
Dwy chwaer yn defnyddio eu tabledi er mwyn pregethu i ffermwr.

EIN BYWYD CRISTNOGOL

Hogi Ein Sgiliau Yn Y Weinidogaeth—Bod yn Hyblyg

PAM MAE’N BWYSIG?: Mae’r eneiniog a’r defaid eraill yn gwahodd pobl o bob math i “dderbyn dŵr y bywyd.” (Dat 22:17) Mae’r dŵr symbolaidd hwn yn cynrychioli popeth mae Jehofa wedi ei roi er mwyn achub pobl ffyddlon o afael pechod a marwolaeth. Er mwyn helpu pobl o bob cefndir a chred, mae’n rhaid inni gyflwyno’r “neges dragwyddol” mewn ffordd sy’n apelio at bob un person fel unigolyn.—Dat 14:6.

SUT I FYND ATI:

  • Dewisa bwnc ac adnod a fydd yn cyffwrdd â chalonnau y bobl yn dy diriogaeth di. Gelli di ddewis sgwrs enghreifftiol neu rywbeth sydd wedi bod yn effeithiol yn y gorffennol. Pa bynciau ac adnodau sy’n cael ymateb da? A oes yna ddigwyddiad yn y newyddion sydd ar feddyliau pobl? Beth fyddai’n apelio at ddyn neu at ddynes?

  • Wrth sgwrsio, defnyddia gyfarchion ac arferion sy’n gyffredin yn dy ardal di.—2Co 6:3, 4

  • Bydda’n gyfarwydd â’r cyhoeddiadau a’r fideos yn ein Bocs Tŵls Dysgu er mwyn eu dangos i bobl sydd â diddordeb

  • Lawrlwytha wybodaeth mewn ieithoedd sy’n gyffredin yn dy diriogaeth

  • Addasa’r sgwrs i gwrdd ag anghenion pob deiliad. (1Co 9:19-23) Er enghraifft, beth fyddai dy ymateb petai deiliad yn dweud wrthyt ti ei fod wedi cael profedigaeth yn ddiweddar?

GWYLIA’R FIDEO, AC YNA ATEBA’R CWESTIYNAU CANLYNOL:

  • Pa bwnc gwnaeth y cyhoeddwr ei godi ar ddechrau’r sgwrs?

  • Beth oedd yn digwydd ym mywyd y deiliad?

  • Pa adnod oedd y gorau i’w defnyddio yn yr achos yma, a pham?

  • Sut gelli di addasu dy gyflwyniad i apelio at y bobl yn dy diriogaeth?

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu