EIN BYWYD CRISTNOGOL
Hogi Ein Sgiliau Yn Y Weinidogaeth—Tystiolaethu Dros y Ffôn
PAM MAE’N BWYSIG? Mae tystiolaethu dros y ffôn yn ffordd bwysig i dystiolaethu’n drylwyr am “y newyddion da.” (Act 20:24)a Mae’n ein galluogi ni i dystiolaethu i rywun pan fydd amgylchiadau’n ein rhwystro ni rhag galw arno yn ei gartref.
SUT I FYND ATI:
Paratoi. Dewisa bwnc addas. Yna, cynllunia amlinelliad o beth rwyt ti’n dymuno ei ddweud. Gelli di hefyd baratoi neges fer i esbonio pam rwyt ti’n galw rhag ofn iti gyrraedd peiriant ateb. Mae’n helpu i eistedd wrth fwrdd gyda’r amlinelliad ac unrhyw beth arall rwyt ti ei angen, fel dyfais electronig gyda JW Library® neu jw.org® yn agored arni
Ymlacio. Siarada’n naturiol. Gwena a symuda fel petai’r person yn gallu dy weld di. Paid â seibio’n ddi-angen. Mae cydweithio ag eraill yn helpu. Ailadrodda yn uchel unrhyw gwestiwn mae’r deiliad yn ei godi er mwyn i dy bartner dy helpu di i gael hyd i’r ateb
Paratoi’r ffordd am yr alwad nesaf. Os ydy’r person eisiau gwybod mwy, gelli di osod cwestiwn i’w ateb ar yr alwad nesaf. Hefyd, gelli di gynnig anfon un o’n cyhoeddiadau mewn e-bost, yn y post, neu ei gymryd yno dy hun. Gelli di hefyd gynnig tecstio neu e-bostio fideo neu erthygl o’n gwefan. Pan fydd hi’n addas, dyweda wrth y person am erthygl arall ar ein gwefan
a Os ydy tystiolaethu dros y ffôn yn dderbyniol yn dy ardal, mae’n rhaid ufuddhau i ddeddfau perthnasol ynglŷn â data personol.