TRYSORAU O AIR DUW | LEFITICUS 10-11
Cariad at Jehofa yn Gryfach na Chariad at Deulu
Gall cadw’n ffyddlon i Jehofa fod yn anodd pan gaiff anwylyn ei ddiarddel. Mae cyfarwyddyd Jehofa i Aaron yn anfon neges glir i’r rhai sy’n gorfod stopio cymdeithasu gyda pherthynas sydd wedi cael ei ddiarddel. Mae’n rhaid i’n cariad at Jehofa fod yn gryfach na’n cariad tuag at aelodau anffyddlon ein teulu.
Pa fendithion a ddaw i’r rhai sy’n ufudd i gyfarwyddiadau Jehofa ynglŷn â’r rhai sydd wedi eu diarddel?—1Co 5:11; 2In 10, 11