SUT I DORRI’R CYLCH O GASINEB
1 | Peidio â Dangos Ffafriaeth
Dysgeidiaeth o’r Beibl:
“[Dydy] Duw ddim yn dangos ffafriaeth! Mae’n derbyn pobl o bob gwlad sy’n ei addoli ac yn gwneud beth sy’n iawn.”—ACTAU 10:34, 35.
Beth Mae’n ei Olygu:
Dydy Jehofaa Dduw ddim yn ein barnu ni ar sail ein cenedl, hil, lliw croen, neu ddiwylliant. Yn hytrach, mae’n canolbwyntio ar beth sydd wir yn bwysig—yr hyn rydyn ni ar y tu mewn. Yn wir, “mae pobl yn edrych ar y tu allan, ond mae’r ARGLWYDD yn edrych ar sut berson ydy rhywun go iawn.”—1 Samuel 16:7.
Beth Allwch Chi ei Wneud:
Er nad ydyn ni’n gallu gweld beth sydd yng nghalonnau pobl, gallwn ni geisio efelychu Duw a pheidio â barnu eraill. Ceisiwch weld pobl fel unigolion yn hytrach na grwpiau o bobl. Os ydych chi’n sylwi bod gynnoch chi deimladau negyddol tuag at eraill—efallai rhai o hil neu ddiwylliant gwahanol—gweddïwch ar Dduw a gofynnwch iddo eich helpu chi i ddod dros deimladau felly. (Salm 139:23, 24) Os ydych chi’n gweddïo’n daer ar Jehofa i’ch helpu chi i beidio â dangos ffafriaeth, gallwch chi fod yn sicr y bydd yn gwrando ar eich gweddïau ac yn eich helpu chi.—1 Pedr 3:12.
a Jehofa ydy enw personol Duw.—Salm 83:18, Beibl Cysegr-lân.
“Doeddwn i erioed wedi eistedd i lawr yn heddychlon gyda pherson gwyn . . . Nawr, o’n i’n rhan o deulu byd-eang.”—TITUS