LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • wp22 Rhif 1 tt. 10-11
  • 3 | Dadwreiddio Casineb o’ch Meddwl

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • 3 | Dadwreiddio Casineb o’ch Meddwl
  • Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Teyrnas Jehofa (Cyhoeddus)—2022
  • Isbenawdau
  • Erthyglau Tebyg
  • Dysgeidiaeth o’r Beibl:
  • Beth Mae’n ei Olygu:
  • Beth Allwch Chi ei Wneud?
  • Steffan—“Wedi Ennill Ffafr Duw ac yn Llawn Nerth”
    ‘Tystiolaethu’n Drylwyr am Deyrnas Dduw’
  • Steffan yn Cael ei Ladd
    Storïau o’r Beibl
  • Sut i Dorri’r Cylch o Gasineb
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Teyrnas Jehofa (Cyhoeddus)—2022
  • Bydd Casineb yn Cael ei Drechu!
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Teyrnas Jehofa (Cyhoeddus)—2022
Gweld Mwy
Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Teyrnas Jehofa (Cyhoeddus)—2022
wp22 Rhif 1 tt. 10-11
Dyn yn dychmygu ei hun yn ysgwyd llaw â dyn o hil gwahanol. Yn eu cysgodion, maen nhw’n dal arwyddion protest ac yn ffraeo.

SUT I DORRI’R CYLCH O GASINEB

3 | Dadwreiddio Casineb o’ch Meddwl

Dysgeidiaeth o’r Beibl:

“Chwyldroi eich ffordd o feddwl am bethau. Byddwch yn gwybod wedyn beth mae Duw eisiau, ac yn gweld fod hynny’n dda ac yn ei blesio fe.”—RHUFEINIAID 12:2.

Beth Mae’n ei Olygu:

Mae’r ffordd rydyn ni’n meddwl yn bwysig i Dduw. (Jeremeia 17:10) Dylen ni osgoi dweud neu wneud pethau cas, ond hefyd mae’n rhaid inni fynd ymhellach. Mae’r cylch o gasineb yn dechrau yn y meddwl a’r galon. Felly mae’n rhaid inni ddadwreiddio unrhyw awgrym o gasineb o’n meddyliau a’n teimladau. Dim ond wedyn byddwn ni’n gallu “chwyldroi [ein] ffordd o feddwl” a thorri’r cylch o gasineb.

Beth Allwch Chi ei Wneud?

Meddyliwch yn ofalus am sut rydych chi’n ystyried ac yn teimlo am eraill—yn enwedig rhai o hil neu ddiwylliant gwahanol. Gofynnwch i chi’ch hun: ‘Sut ydw i’n eu hystyried nhw? Ar sail yr hyn rydw i’n ei wybod amdanyn nhw, neu ar sail rhagfarn?’ Osgowch gyfryngau cymdeithasol, ffilmiau, neu adloniant sy’n cynnwys casineb a thrais.

Gall Gair Duw ein helpu ni i drechu casineb yn ein meddyliau a’n calonnau

Dydy hi ddim bob tro yn hawdd inni farnu ein teimladau yn deg. Ond gall Gair Duw ein helpu ni i ‘farnu beth dŷn ni’n ei feddwl ac yn ei fwriadu.’ (Hebreaid 4:12) Felly daliwch ati i astudio’r Beibl. Cymharwch ei ddysgeidiaethau â’ch meddyliau eich hun, a cheisiwch hyfforddi eich meddwl i fod yn unol â’r Beibl. Gall Gair Duw ein helpu ni i chwalu casineb sy’n gadarn fel “cestyll” yn ein meddyliau a’n calonnau.—2 Corinthiaid 10:4, 5.

Profiad Bywyd​—STEPHEN

Newidiodd Ei Ffordd o Feddwl

Stephen.

Gwnaeth Stephen ac aelodau ei deulu ddioddef casineb gan bobl wynion. O ganlyniad, cafodd ei ddylanwadu gan grŵp gwleidyddol a oedd yn ymladd dros hawliau pobl. Mewn amser, cymerodd ran mewn troseddau casineb. Mae Stephen yn dweud: “Weithiau byddwn i’n mynd gyda ffrindiau i weld ffilmiau am ormes caethweision Affricanaidd yn yr Unol Daleithiau. Roedd yr anghyfiawnder yn ein gwylltio ni cymaint nes ein bod ni’n ymosod ar bobl ifanc groenwyn yn y sinema. Wedyn byddwn ni’n mynd allan i edrych am fwy o bobl wynion i’w ymosod arnyn nhw.”

Newidiodd safbwynt Stephen yn gyfan gwbl pan ddechreuodd astudio’r Beibl gyda Thystion Jehofa. Mae’n cofio: “Ar ôl profi cymaint o ragfarn hiliol, roedd yr hyn a welais ymhlith y Tystion yn syfrdanol. Er enghraifft, pan oedd rhaid i un o’r Tystion gwyn fynd dramor, gadawodd ei blant yng ngofal teulu du. Hefyd, rhoddodd teulu gwyn gartref i fachgen du oedd angen rhywle i fyw.” Pan welodd Stephen y cariad oedd Tystion Jehofa yn ei ddangos at ei gilydd, daeth yn gwbl sicr mai nhw yw’r gwir Gristnogion rhagfynegodd Iesu amdanyn nhw.—Ioan 13:35.

Beth ysgogodd Stephen i gefnu ar ei ymddygiad cas? Gwnaeth yr ysgrythur yn Rhufeiniaid 12:2 ei helpu. Mae Stephen yn dweud: “Sylweddolais fod angen i mi newid fy ffordd o feddwl yn llwyr, nid yn unig drwy beidio â bod yn dreisgar, ond hefyd drwy fod yn sicr mai dyna’r ffordd orau o fyw.” Mae Stephen wedi mwynhau bywyd heb deimladau o gasineb am dros 40 mlynedd.

Darllenwch fwy am hanes Stephen yn Y Tŵr Gwylio Gorffennaf 1, 2015.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu