LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • w23 Chwefror tt. 2-7
  • Beth Mae’r Beibl yn ei Ddatgelu Inni am ei Awdur

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Beth Mae’r Beibl yn ei Ddatgelu Inni am ei Awdur
  • Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2023
  • Isbenawdau
  • Erthyglau Tebyg
  • MAE’R BEIBL YN DATGELU DOETHINEB DUW
  • MAE’R BEIBL YN DATGELU CYFIAWNDER DUW
  • MAE’R BEIBL YN DATGELU CARIAD DUW
  • TRYSORA AIR DUW SY’N “RHODD DDA”
  • Neges Oddi Wrth Dduw Yw’r Beibl
    Mwynhewch Fywyd am Byth!—Cwrs Rhyngweithiol am y Beibl
  • Ai Neges Duw Yw’r Newyddion Da?
    Newyddion Da Oddi Wrth Dduw!
  • “Mae Gair Duw . . . yn Cyflawni Beth Mae’n ei Ddweud”
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2017
  • Y Beibl—Llyfr Oddi Wrth Dduw
    Beth Allwn Ni ei Ddysgu o’r Beibl?
Gweld Mwy
Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2023
w23 Chwefror tt. 2-7

ERTHYGL ASTUDIO 6

Beth Mae’r Beibl yn ei Ddatgelu Inni am ei Awdur

“Dw i eisiau i ti ysgrifennu popeth dw i’n ei ddweud wrthot ti ar sgrôl.”—JER. 30:2.

CÂN 96 Llyfr Duw—Trysor Yw

CIPOLWGa

1. Pam rwyt ti’n ddiolchgar am y Beibl?

RYDYN ni’n ddiolchgar dros ben i Jehofa Dduw am roi’r Beibl inni. Mae’n cynnwys cyngor doeth i’n helpu ni i ddelio â phroblemau heddiw. Ar ben hynny, mae’n rhoi gobaith arbennig inni ar gyfer y dyfodol. Ond yn bwysicach byth, mae Jehofa wedi datgelu ei rinweddau hyfryd inni. Mae myfyrio arnyn nhw yn cyffwrdd â’n calonnau ac yn ein cymell i glosio at Dduw a dod yn ffrind agos iddo.—Diar. 3:32.

2. Ym mha ffyrdd gwahanol mae Jehofa wedi cyfathrebu â phobl?

2 Mae Jehofa eisiau i bobl ddod i’w adnabod. Yn y gorffennol, roedd yn defnyddio breuddwydion, gweledigaethau, a hyd yn oed negeseuon gan angylion i gyfathrebu â phobl. (Num. 12:6; Act. 10:3, 4) Ond byddai’n amhosib astudio’r pethau hyn oni bai eu bod nhw wedi cael eu cofnodi. Dyna pam gwnaeth Jehofa drefnu i ddynion ‘ysgrifennu ar sgrôl’ yr hyn yr oedd eisiau inni ei wybod. (Jer. 30:2) Ac am fod Duw yn “berffaith ei ffordd,” gallwn ni fod yn sicr ei fod yn cyfathrebu â ni yn y ffordd orau, a bod hynny o les inni.—Salm 18:30, BCND.

3. Sut gwnaeth Jehofa sicrhau bod y Beibl yn dal ar gael inni heddiw? (Eseia 40:8)

3 Darllen Eseia 40:8. Mae Gair Duw wedi rhoi cyngor doeth i ddynion a merched ffyddlon am filoedd o flynyddoedd. Sut mae hynny wedi bod yn bosib? Mae hynny yn gwestiwn da, oherwydd cafodd y Beibl ei ysgrifennu amser maith yn ôl ar ddeunydd sy’n pydru dros amser. Felly erbyn heddiw, nid oes dim o’r dogfennau gwreiddiol yn bodoli. Ond fe wnaeth Jehofa sicrhau bod copïau o’r neges yn cael eu creu. Er bod y copïwyr yn amherffaith, roedden nhw’n ofalus iawn yn eu gwaith. Ysgrifennodd un ysgolhaig am yr Ysgrythurau Hebraeg: “Heb os, gallwn ni ddweud nad oes yr un llyfr arall sydd mor hen wedi cael ei gopïo mor gywir.” Felly er bod y Beibl wedi cael ei ysgrifennu ymhell yn ôl gan gopïwyr amherffaith ar ddeunydd sy’n pydru, gallwn ni fod yn hollol hyderus ei fod yn cyfleu neges ei Awdur, Jehofa.

4. Beth byddwn ni’n ei drafod yn yr erthygl hon?

4 Pan ydyn ni’n derbyn anrheg, rydyn ni’n dysgu llawer am y person a wnaeth ei rhoi inni—pa mor dda mae’n ein hadnabod ni a beth sydd ei angen arnon ni. Mae’r un peth yn wir am Jehofa, yr un sy’n rhoi “pob rhodd dda a phob anrheg berffaith.” (Iago 1:17) Y Beibl ydy un o’r anrhegion gorau y mae wedi eu rhoi inni. Felly drwy astudio’r anrheg honno rydyn ni’n dysgu llawer am Jehofa. Rydyn ni’n gweld ei fod yn ein hadnabod ni’n wych ac yn deall ein hanghenion i’r dim. Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n trafod beth mae’r Beibl yn ei ddatgelu inni am ddoethineb, cyfiawnder, a chariad Jehofa. Gad inni drafod doethineb Duw yn gyntaf.

MAE’R BEIBL YN DATGELU DOETHINEB DUW

5. Beth ydy un ffordd y mae’r Beibl yn dangos doethineb Duw?

5 Mae Jehofa wedi rhoi’r Beibl inni, sy’n llawn doethineb, am ei fod yn gwybod ein bod ni angen hynny. Mae cyngor y Beibl yn cael effaith bositif ar bobl ac yn gallu newid bywydau. Mae hynny wedi bod yn wir ers i lyfrau cyntaf y Beibl gael eu hysgrifennu. Dywedodd Moses wrth bobl Dduw, yr Israeliaid: “Dim geiriau gwag ydyn nhw—dyma’ch bywyd chi.” (Deut. 32:47) Roedd y rhai a oedd yn ufuddhau i’r Ysgrythurau yn gallu cael bywyd hapus a llwyddiannus. (Salm 1:2, 3) Ac mae gan Air Duw yr un grym i wella bywydau pobl hyd heddiw. Er enghraifft, yn y gyfres “Mae’r Beibl yn Newid Bywydau,” ar jw.org, mae mwy na 30 o brofiadau, a phob un yn dangos sut mae pŵer y Beibl “ar waith [yn ei] gredinwyr” heddiw.—1 Thes. 2:13.

6. Pam gallwn ni ddweud nad oes yr un llyfr arall yn cymharu â’r Beibl?

6 Nid oes yr un llyfr arall yn cymharu â Gair Duw. Ym mha ffordd? Mae llawer o lyfrau yn parhau i gael eu darllen ymhell ar ôl i’w hawduron farw, ond erbyn hynny nid yw’r cyngor ynddyn nhw’n dda i ddim. Ond mae Awdur y Beibl, Jehofa Dduw, yn hollol unigryw am ei fod yn hollalluog, yn byw am byth, ac mae ei ddoethineb heb ei ail. Felly, mae egwyddorion doeth y Beibl hefyd yn unigryw am eu bod nhw’n para am byth ac wedi helpu pobl drwy gydol hanes. Ac mae Awdur y Beibl yn awyddus i’n helpu ni i’w ddarllen. Hefyd mae’n rhoi ei ysbryd glân i’n helpu ni i weld sut gallwn ni roi ei gyngor ar waith. (Salm 119:27; Mal. 3:16; Heb. 4:12) Onid ydy hynny’n ein gwneud ni’n awyddus i ddarllen y Beibl yn rheolaidd a myfyrio ar beth rydyn ni’n ei ddysgu ohono?

Collage: 1. Copïau printiedig o’r Beibl, fel sgroliau, codecsau, a llyfrau wedi eu rhwymo, a chopïau digidol ar ddyfeisiau electronig. 2. Pobl o wahanol gefndiroedd a hiliau yn darllen fersiynau printiedig ac electronig o’r Beibl mewn gwahanol lefydd, fel yn y cartref, yn y gwaith, ac ar drafnidiaeth gyhoeddus.

Sut mae’r Beibl wedi uno pobl Jehofa yn y gorffennol ac yn ein dyddiau ni? (Gweler paragraffau 7-8)

7. Sut gwnaeth y Beibl helpu pobl Dduw i fod yn unedig yn y gorffennol?

7 Mae’r Beibl yn dangos doethineb Duw mewn ffordd arbennig arall, sef y ffordd mae’n uno pobl Dduw. Meddylia am pan aeth yr Israeliaid i Wlad yr Addewid. Roedden nhw’n byw mewn gwahanol ardaloedd o’r wlad ac yn gwneud gwahanol waith. Roedd rhai yn pysgota, eraill yn cadw anifeiliaid, ac eraill eto yn ffermio’r tir. Byddai wedi bod yn ddigon hawdd iddyn nhw golli diddordeb yn eu cyd-Israeliaid mewn rhannau eraill o’r wlad. Felly beth wnaeth Jehofa? Fe drefnodd i’w bobl ddod at ei gilydd yn rheolaidd i glywed ei Air yn cael ei ddarllen a’i esbonio. (Deut. 31:10-13; Neh. 8:2, 8, 18) Dychmyga sut byddet ti’n teimlo yn cyrraedd Jerwsalem ac yn gweld miliynau o dy gyd-gredinwyr yno o bob rhan o’r wlad. Yn nes ymlaen, roedd y gynulleidfa Gristnogol yn cynnwys dynion a merched oedd yn siarad gwahanol ieithoedd ac yn dod o gefndiroedd gwahanol. Felly beth oedd yn eu huno nhw? Roedden nhw’n caru Gair Duw. Ond er mwyn ei ddeall, roedd rhaid iddyn nhw gael cyfarfodydd a helpu ei gilydd.—Act. 2:42; 8:30, 31.

8. Sut mae’r Beibl yn uno pobl Jehofa heddiw?

8 Mae Duw yn dal i ddefnyddio’r Beibl i uno ei bobl a’u dysgu. Mae’r holl fwyd ysbrydol rydyn ni’n ei fwynhau wedi ei seilio ar y Beibl. Mae ein cyfarfodydd, cynulliadau, a chynadleddau yn rhoi cyfle inni ddod at ein gilydd yn rheolaidd i wrando ar yr Ysgrythurau yn cael eu darllen, eu hesbonio, a’u trafod. Felly mae’n amlwg bod y Beibl yn rhan bwysig o bwrpas Jehofa i helpu ei bobl i’w addoli “gyda’i gilydd.”—Seff. 3:9.

9. Pa rinwedd sy’n hanfodol er mwyn deall neges y Beibl? (Luc 10:21)

9 Fe wnaeth Jehofa sicrhau bod llawer o’r Beibl yn cael ei ysgrifennu mewn ffordd a fyddai’n cael ei ddeall gan bobl ostyngedig yn unig. (Darllen Luc 10:21.) Onid ydy hynny’n dangos ei ddoethineb? Mae’r Beibl yn cael ei ddarllen ym mhob rhan o’r byd. Fel dywedodd un ysgolhaig am y Beibl: “Nid oes yr un llyfr arall wedi cael ei ddarllen gan gymaint o bobl, nac mewn ffordd mor ofalus.” Er hynny, dim ond pobl ostyngedig sydd wir yn deall y Beibl ac yn rhoi ei gyngor ar waith.—2 Cor. 3:15, 16.

10. Ym mha ffordd arall mae’r Beibl yn dangos doethineb Jehofa?

10 Rydyn ni’n gweld doethineb Jehofa yn y Beibl mewn ffordd arall hefyd. Mae Jehofa yn ei ddefnyddio i’n dysgu ni fel grŵp, ond hefyd i’n dysgu ni a’n cysuro ni fel unigolion. Wrth ddarllen Gair Duw, rydyn ni’n teimlo ei ofal droston ni’n bersonol. (Esei. 30:21) Pa mor aml rwyt ti wedi troi at y Beibl wrth wynebu problem a gweld adnod a oedd fel petai ei bod wedi ei hysgrifennu yn arbennig i ti? Ond mae’r Beibl yn apelio at filiynau o bobl. Felly sut mae’n bosib iddo gynnwys yn union beth rwyt ti ei angen ar yr adeg iawn? Dim ond am fod y Beibl wedi ei ysbrydoli gan yr un doethaf yn y bydysawd.—2 Tim. 3:16, 17.

MAE’R BEIBL YN DATGELU CYFIAWNDER DUW

11. Sut mae’r ffordd cafodd y Beibl ei ysgrifennu yn profi nad ydy Duw yn dangos ffafriaeth?

11 Mae Jehofa yn Dduw cyfiawn. (Deut. 32:4) Fydd person cyfiawn ddim yn dangos ffafriaeth. Ac mae’r ffaith bod y Beibl wedi ei ysgrifennu mewn ieithoedd yr oedd llawer o bobl yn eu deall ar y pryd yn profi nad ydy Jehofa yn dangos ffafriaeth. (Act. 10:34, 35; Rhuf. 2:11) Cafodd 39 llyfr cyntaf y Beibl eu hysgrifennu yn Hebraeg yn bennaf, ond nid oedd Jehofa am i’w Air gael ei ysgrifennu mewn un iaith yn unig. Erbyn adeg y Cristnogion cyntaf, roedd y mwyafrif o bobl yn siarad Groeg, felly dyna’r iaith y cafodd y rhan fwyaf o 27 llyfr diwethaf y Beibl eu hysgrifennu ynddi. Heddiw, mae’r mwy nag wyth biliwn o bobl ar y ddaear yn siarad llawer o ieithoedd. Felly sut gall cymaint o bobl ddysgu am Jehofa?

12. Beth ydy un ffordd mae Daniel 12:4 wedi cael ei gyflawni yn y dyddiau olaf hyn?

12 Fe wnaeth Jehofa addo drwy’r proffwyd Daniel y byddai’r ‘wybodaeth’ sydd i’w chael yn y Beibl “yn cynyddu” yn amser y diwedd, a byddai llawer yn ei deall. (Darllen Daniel 12:4, BCND tdn.) Sut? Mae’r Beibl a chyhoeddiadau Beiblaidd wedi cael eu cyfieithu i lawer o ieithoedd. Mae copïau ohonyn nhw ar gael drwy’r byd. A dweud y gwir, nid oes yr un llyfr arall wedi cael ei gyfieithu cymaint â’r Beibl. Ond yn aml, gall copïau sy’n cael eu cynhyrchu gan gwmnïau masnachol fod yn ddrud iawn. Ar y llaw arall, mae Tystion Jehofa wedi cyfieithu’r Beibl, yn rhannol neu’n llawn, i fwy na 240 o ieithoedd hyd yn hyn, a gall unrhyw un gael copi am ddim. Oherwydd hynny, mae pobl o bob rhan o’r byd yn dysgu am ‘y newyddion da am y Deyrnas’ cyn i’r diwedd ddod. (Math. 24:14) Mae Duw eisiau rhoi’r cyfle i gymaint o bobl â phosib ddod i’w adnabod drwy ddarllen ei Air. Onid ydy hynny’n dangos ei fod yn gyfiawn ac yn ein caru ni i gyd yn fawr iawn?

MAE’R BEIBL YN DATGELU CARIAD DUW

13. Pam gallwn ni ddweud bod y Beibl yn adlewyrchu cariad Jehofa? (Ioan 21:25)

13 Mae’r Beibl yn ein helpu ni i ddeall mai rhinwedd bennaf Jehofa ydy cariad. (1 Ioan 4:8) Meddylia am beth wnaeth Jehofa ei gynnwys yn y Beibl. Mae wedi rhoi ynddo bopeth sydd ei angen inni gael perthynas ag ef, i gael bywyd hapus nawr, ac i gael byw am byth. Ond am ei fod yn ein caru, wnaeth ef ddim ein llethu ni gyda mwy o wybodaeth nag sydd ei angen er mwyn ei wasanaethu.—Darllen Ioan 21:25.

14. Ym mha ffordd arall mae cynnwys y Beibl yn dangos cariad Duw?

14 Ffordd arall mae Jehofa wedi dangos ei gariad aton ni ydy drwy gyfathrebu â ni mewn ffordd urddasol. Yn y Beibl, nid yw’n rhoi rhestr enfawr o reolau inni eu dilyn, nac yn dweud wrthon ni’n union beth dylen ni ei wneud ym mhob rhan o’n bywydau. Yn hytrach, mae’n apelio at ein gallu i feddwl drwy ddefnyddio hanesion bywyd, proffwydoliaethau cyffrous, a chyngor ymarferol. Fel hyn mae Gair Duw yn ein hysgogi ni i’w garu ac ufuddhau iddo o’n calon.

Collage: 1. Merch ifanc yn darllen y llyfr “Lessons You Can Learn From the Bible” ac yn myfyrio ar hanes y ferch fach o Israel yn siarad â’i meistres. 2. Brawd ifanc yn darllen y Beibl ac yn myfyrio ar hanes Joseff yn ffoi rhag gwraig Potiffar. 3. Chwaer hŷn yn darllen y Beibl ac yn myfyrio ar hanes y broffwydes Anna yn gweld y baban Iesu.

Pam dylen ni fyfyrio ar sut gwnaeth Jehofa drin ei bobl yn y gorffennol? (Gweler paragraff 15)

15. (a) Sut mae’r Beibl yn profi bod Jehofa yn gofalu amdanon ni? (b) Pa gymeriadau o’r Beibl mae’r ferch fach, y brawd ifanc, a’r chwaer hŷn yn y llun yn myfyrio arnyn nhw? (Gen. 39:1, 10-12; 2 Bren. 5:1-3; Luc 2:25-38)

15 Mae’r Beibl yn dangos bod gan Jehofa ddiddordeb mawr ynon ni. Sut? Mae ei Air yn llawn hanesion pobl gwnaeth ddangos yr “un teimladau â ni.” (Iago 5:17) Ond yn bwysicach na hynny, drwy weld sut roedd Jehofa yn trin pobl fel ni, rydyn ni’n gallu deall yn well fod “Jehofa yn fawr ei dosturi a’i drugaredd.”—Iago 5:11.

16. Beth rydyn ni’n ei ddysgu am Jehofa wrth ddarllen yn y Beibl am unigolion a wnaeth gamgymeriadau? (Eseia 55:7)

16 Mae’r Beibl yn datgelu cariad Jehofa tuag aton ni mewn ffordd arall. Mae’n ein sicrhau na fydd Duw yn cefnu arnon ni pan ydyn ni’n gwneud camgymeriadau. Meddylia am yr Israeliaid. Roedden nhw’n pechu yn erbyn Jehofa dro ar ôl tro, ond roedd Jehofa yn maddau iddyn nhw am eu bod nhw wedi edifarhau o’r galon. (Darllen Eseia 55:7.) Roedd Cristnogion y ganrif gyntaf hefyd yn gwybod bod Duw yn eu caru nhw’n fawr iawn. Mae hynny yn glir o eiriau’r apostol Paul. Cafodd ef ei ysbrydoli i ysgrifennu at ei gyd-Gristnogion am ddyn oedd wedi pechu’n ddifrifol dros gyfnod o amser ond wedi edifarhau. Dywedodd wrthyn nhw am “faddau iddo’n garedig a’i gysuro.” (2 Cor. 2:6, 7; 1 Cor. 5:1-5) Er bod ei addolwyr wedi gwneud camgymeriadau, wnaeth Jehofa ddim cefnu arnyn nhw. Yn hytrach, allan o gariad, fe wnaeth ei helpu nhw, eu cywiro nhw, a’u gwahodd i ddod yn ffrindiau iddo unwaith eto. Onid ydy hynny yn rhyfeddol! Mae’n addo trin pawb sy’n edifarhau am eu pechodau yn yr un ffordd heddiw.—Iago 4:8-10.

TRYSORA AIR DUW SY’N “RHODD DDA”

17. Pam mae’r Beibl yn rhodd mor arbennig?

17 Mae Jehofa wedi rhoi anrheg hyfryd inni. Ond beth sydd mor arbennig amdani? Fel rydyn ni wedi dysgu, mae’r Beibl yn datgelu doethineb, cyfiawnder, a chariad Duw. Mae’n dangos bod Jehofa eisiau inni ddod i’w adnabod a dod yn ffrindiau iddo.

18. Sut gallwn ni ddangos ein bod ni’n ddiolchgar am ‘rodd dda’ Jehofa, y Beibl?

18 Dydyn ni ddim eisiau anghofio bod Gair Duw yn “rhodd dda,” na’i gymryd yn ganiataol. (Iago 1:17) Gad inni felly ddal ati i dangos ein bod ni’n ddiolchgar amdano drwy ei ddarllen a thrwy fyfyrio arno. Os gwnawn ni hynny, gallwn ni fod yn sicr y bydd ei Awdur yn bendithio ein hymdrechion a byddwn ni’n “dod i wybod am Dduw.”—Diar. 2:5.

SUT MAE’R BEIBL YN DATGELU . . .

  • doethineb Jehofa?

  • cyfiawnder Jehofa?

  • cariad Jehofa?

CÂN 98 Ysgrythurau Ysbrydoledig Duw

a Mae’r Beibl yn ein helpu ni i glosio at Jehofa. Drwy drafod beth mae’r Beibl yn ei ddysgu am ddoethineb, cyfiawnder, a chariad Duw, gallwn ni ddod i werthfawrogi ei Air yn fwy byth. Bydd hefyd yn ein helpu ni i weld Gair Duw fel anrheg gan ein Tad nefol.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu