Cyflwyniad
A ydych chi’n dyheu am weld byd heb ryfel a thrais? Er bod y syniad yn apelio, mae’r rhan fwyaf o bobl yn meddwl ei fod yn gwbl afrealistig. Mae’r Beibl yn dangos pam mae pob ymdrech dynol i roi terfyn ar ryfel wedi methu. Mae hefyd yn esbonio pam y gallwch chi gredu bod heddwch byd-eang yn bosib a bod hynny yn mynd i ddigwydd yn fuan.
Yn y cylchgrawn hwn, mae’r geiriau “rhyfel” a “gwrthdaro” yn cyfeirio at ymladd rhwng grwpiau arfog er mwyn cyrraedd amcanion gwleidyddol. Newidiwyd enwau rhai o’r bobl a ddyfynnwyd.