Pam Mae Rhyfel a Gwrthdaro Arfog yn Parhau?
Mae’r Beibl yn datgelu achosion sylfaenol rhyfel a gwrthdaro arfog a’r rhesymau maen nhw’n dal i ddigwydd.
PECHOD
Creodd Duw y bobl gyntaf, Adda ac Efa, ar ei ddelwedd ei hun. (Genesis 1:27) Roedd hynny’n golygu y byddai’n naturiol iddyn nhw ddangos yr un rhinweddau â Duw, gan gynnwys heddwch a chariad. (1 Corinthiaid 14:33; 1 Ioan 4:8) Ond dewisodd Adda ac Efa anufuddhau i Dduw a phechu. O ganlyniad, rydyn ni i gyd wedi etifeddu pechod a marwolaeth. (Rhufeiniaid 5:12) Oherwydd ein cyflwr pechadurus, rydyn ni’n cael meddyliau drwg ac mae llawer yn troi’n dreisgar.—Genesis 6:5; Marc 7:21, 22.
LLYWODRAETH DDYNOL
Ni wnaeth Duw ein creu ni i lywodraethu droston ni’n hunain. Mae’r Beibl yn dweud: “ARGLWYDD, dw i’n gwybod na all pobl reoli eu bywydau.” (Jeremeia 10:23) Dyna pam y mae’n amhosib i lywodraethau dynol gael gwared ar ryfel a thrais.
SATAN A’I GYTHREULIAID
Mae’r Beibl yn dweud bod y “byd cyfan yn gorwedd yng ngafael yr un drwg.” (1 Ioan 5:19) Satan y Diafol yw’r “un drwg,” ac mae’n llofrudd milain. (Ioan 8:44) Satan a’r cythreuliaid yw’r lluoedd anweledig sy’n dylanwadu ar bobl i fod yn dreisgar ac i ddechrau rhyfeloedd.—Datguddiad 12:9, 12.
Ni allwn ni gael gwared ar achosion sylfaenol rhyfel a thrais, ond mae Duw yn gallu gwneud hyn.