ERTHYGL ASTUDIO 20
CÂN 7 Jehofa, Ein Nerth
Tro at Jehofa am Gysur
“Mawl i Dduw . . . , y Tad sy’n llawn trugaredd a Duw pob cysur.”—2 COR. 1:3.
PWRPAS
Gwersi gallwn ni eu dysgu o’r ffordd gwnaeth Jehofa gysuro’r alltudion Iddewig.
1. Disgrifia sefyllfa’r alltudion Iddewig.
DYCHMYGA sut roedd yr alltudion Iddewig ym Mabilon yn teimlo. Roedden nhw wedi gweld dinistr eu mamwlad. Oherwydd eu bod nhw a’u cyndadau wedi pechu, cawson eu cymryd o’u tai a’u hanfon i wlad estron. (2 Cron. 36:15, 16, 20, 21) Mae’n wir, roedd gan alltudion ym Mabilon rywfaint o ryddid. (Jer. 29:4-7) Ond, doedd bywyd ddim yn hawdd iddyn nhw, ac yn bendant fydden nhw byth wedi dewis bywyd o’r fath. Sut roedden nhw’n teimlo am eu sefyllfa? Sylwa ar eiriau un o’r alltudion ffyddlon: “Wrth afonydd Babilon, dyma ni’n eistedd ac yn wylo wrth gofio am Seion.” (Salm 137:1) Roedd yr alltudion digalon eisiau cysur. Ond yn lle bydden nhw’n cael hyd i gysur?
2-3. (a) Beth wnaeth Jehofa i helpu’r alltudion Iddewig? (b) Beth byddwn ni’n ei drafod yn yr erthygl hon?
2 Jehofa ydy “Duw pob cysur.” (2 Cor. 1:3) Fel Duw cariadus, mae’n llawenhau wrth gysuro pawb sy’n nesáu ato. Roedd yn gwybod y byddai rhai o’r alltudion yn derbyn ei ddisgyblaeth ac yn troi’n ôl ato. (Esei. 59:20) Felly, trwy Eseia, rhoddodd Jehofa neges i’r Iddewon mwy na chan mlynedd cyn iddyn nhw gael eu cymryd i Fabilon. Sut byddai llyfr Eseia wedi eu helpu nhw? Mae’n dweud: “‘Cysurwch nhw; cysurwch fy mhobl i,’—dyna mae eich Duw yn ei ddweud.” (Esei. 40:1) Trwy eiriau’r proffwyd Eseia, rhoddodd Jehofa gysur angenrheidiol i’r alltudion Iddewig.
3 Fel yr alltudion Iddewig, mae’n rhaid i ninnau hefyd gael cysur o bryd i’w gilydd. Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n ystyried tair ffordd roedd Jehofa’n cysuro’r alltudion: (1) Roedd yn addo maddau i’r rhai edifar, (2) roedd yn rhoi gobaith i’r bobl, a (3) roedd yn tawelu eu pryderon. Wrth inni drafod y pwyntiau hyn, sylwa ar sut mae Jehofa yn ein cysuro ni yn yr un modd heddiw.
MAE JEHOFA’N MADDAU INNI YN DRUGAROG
4. Sut dangosodd Jehofa ei fod yn Dduw trugarog? (Eseia 55:7)
4 Mae Jehofa’n ‘Dad sy’n llawn trugaredd.’ (2 Cor. 1:3) Dangosodd y rhinwedd honno wrth iddo addo maddau i’r alltudion edifar. (Darllen Eseia 55:7.) Dywedodd: “Gyda chariad sy’n para am byth bydda i’n garedig atat ti eto.” (Esei. 54:8) Sut byddai Jehofa’n dangos ei drugaredd? Er bod rhaid i’r Iddewon ddioddef canlyniadau drwg eu gweithredodd ac aros ym Mabilon am nifer o flynyddoedd, gwnaeth Jehofa addo fydden nhw ddim yn aros yno am byth. (Esei. 40:2) Mae’n rhaid bod y geiriau hyn wedi dod â chymaint o gysur i’r rhai edifar yn eu plith.
5. Pam gallwn ni werthfawrogi trugaredd Jehofa yn fwy na’r alltudion Iddewig?
5 Beth rydyn ni’n ei ddysgu? Mae Jehofa mor barod i faddau i’w weision. Heddiw, mae gynnon ni fwy o resymau na’r alltudion Iddewig dros werthfawrogi hynny. Pam? Rydyn ni’n deall sail maddeuant Jehofa. Canrifoedd ar ôl geiriau Eseia, gwnaeth Jehofa anfon ei Fab annwyl i’r ddaear er mwyn iddo aberthu ei fywyd dros bob pechadur edifar. Ar sail yr aberth hwnnw, gall ein pechodau gael eu “rhwbio allan,” neu eu dileu’n llwyr. (Act. 3:19; Esei. 1:18; Eff. 1:7) Yn wir, rydyn ni’n gwasanaethu Duw hynod o faddeugar.
6. Sut mae canolbwyntio ar drugaredd Jehofa yn ein helpu ni? (Gweler hefyd y llun.)
6 Gall neges Jehofa i’r Iddewon yn Eseia 55:7 hefyd ein helpu ni os ydyn ni’n dal yn teimlo’n euog, hyd yn oed ar ôl inni edifarhau, am gamgymeriadau gwnaethon ni yn y gorffennol. Gall hynny fod yn enwedig o wir os ydyn ni’n dal yn dioddef oherwydd canlyniadau drwg ein camgymeriad. Ond, os ydyn ni wedi cyfaddef ein pechod a stopio gwneud beth sy’n ddrwg, gallwn ni fod yn hyderus bod Jehofa wedi maddau inni. A phan mae Jehofa’n maddau, mae’n penderfynu anghofio ein pechodau am byth. (Cymhara Jeremeia 31:34.) Felly, os dydy Jehofa ddim yn meddwl am ein pechodau o’r gorffennol, ddylen ni ddim chwaith. Beth sy’n bwysig i Jehofa ydy beth rydyn ni’n ei wneud nawr, nid ein hen gamgymeriadau. (Esec. 33:14-16) Ac yn fuan, bydd ein Tad sy’n llawn trugaredd yn cael gwared ar ganlyniadau ein pechodau.
Nid ein hen gamgymeriadau sy’n bwysig i Jehofa, ond beth rydyn ni’n ei wneud nawr (Gweler paragraff 6)
7. Beth all ein cymell ni i ofyn am help os ydyn ni wedi pechu’n ddifrifol?
7 Beth dylen ni ei wneud os ydy ein cydwybod yn ein brifo ni oherwydd cuddio pechod difrifol? Mae’r Beibl yn ein hannog ni i ofyn i’r henuriaid am help. (Iago 5:14, 15) Efallai bydd hynny’n anodd inni ei wneud. Ond, mae’n rhaid inni gofio bod Jehofa’n defnyddio’r dynion ffyddlon hynny i’n helpu ni, a byddan nhw’n dangos cariad a thrugaredd tuag aton ni, fel y mae Jehofa. Bydd cofio hyn a bod yn edifar yn ein cymell ni i siarad â nhw. Ystyria sut gwnaeth trugaredd Jehofa helpu brawd o’r enw Arthur.a Roedd ei gydwybod yn wir yn ei boeni. Dywedodd: “O’n i’n gwylio pornograffi am tua blwyddyn. Ond ar ôl imi glywed anerchiad am y gydwybod, fe wnes i gyffesu fy mhechod i fy ngwraig a’r henuriaid. Ar ôl gwneud hynny, roedd fy nghydwybod yn lân, ond roedd fy nghamgymeriadau’n dal yn pwyso’n drwm arna i. Gwnaeth yr henuriaid fy atgoffa i fod Jehofa dal eisiau bod yn ffrind imi ac yn fy nghywiro i allan o’i gariad. Gwnaeth eu geiriau caredig gyffwrdd â fy nghalon, a fy helpu i newid fy ffordd o feddwl.” Heddiw, mae Arthur yn arloesi ac yn was y gynulleidfa. Am beth gysurlon i wybod bod Jehofa’n dangos trugaredd tuag aton ni os ydyn ni’n edifar!
MAE JEHOFA’N RHOI GOBAITH INNI
8. (a) Pa obaith roddodd Jehofa i’r alltudion? (b) Yn ôl Eseia 40:29-31, sut byddai gobaith wedi helpu Iddewon edifar?
8 O safbwynt dynol, roedd yr alltudion Iddewig mewn sefyllfa anobeithiol. Roedd Babilon yn enwog am beidio â rhyddhau ei charcharorion. (Esei. 14:17) Ond, rhoddodd Jehofa obaith i’w bobl drwy addo i’w rhyddhau nhw, a doedd dim byd yn gallu ei stopio. (Esei. 44:26; 55:12) Yng ngolwg Jehofa, roedd Babilon fel llwch a fyddai’n diflannu gydag un chwythiad. (Esei. 40:15). Byddai’r gobaith hwnnw wedi rhoi cysur i’r alltudion, ond roedd hefyd yn gallu gwneud mwy na hynny. Ysgrifennodd Eseia: “Bydd y rhai sy’n pwyso ar yr ARGLWYDD yn cael nerth newydd.” (Darllen Eseia 40:29-31.) Byddai gobaith yn eu hatgyfnerthu nhw fel eu bod nhw’n gallu “hedfan i fyny fel eryrod.”
9. Pa resymau oedd gan yr alltudion dros drystio yn addewidion Jehofa?
9 Roedd gan yr Iddewon resymau da dros drystio addewidion Jehofa. Pam? Meddylia am y proffwydoliaethau a oedd wedi cael eu cyflawni’n barod. Roedden nhw’n gwybod bod Asyria wedi concro teyrnas ogleddol Israel a chaethgludo’r bobl. (Esei. 8:4) Hefyd, gwnaethon nhw weld y Babiloniaid yn dinistrio Jerwsalem a chymryd y bobl. (Esei. 39:5-7) Roedden nhw hefyd yn gwybod bod y Brenin Sedeceia wedi cael ei ddallu a’i anfon i Fabilon. (Jer. 39:7; Esec. 12:12, 13) Roedd popeth a ragfynegodd Jehofa wedi dod yn wir. (Esei. 42:9; 46:10) Mae’n siŵr bod hynny i gyd wedi cryfhau eu hyder y byddai addewidion Jehofa ynglŷn â chael eu rhyddhau hefyd yn dod yn wir!
10. Sut gallwn ni gryfhau ein gobaith yn ystod y dyddiau olaf hyn?
10 Beth rydyn ni’n ei ddysgu? Pan ydyn ni’n teimlo’n isel, gall gobaith roi nerth a chysur inni. Rydyn ni’n byw mewn adeg beryglus ac yn wynebu gelynion pwerus iawn. Ond, mae’n rhaid inni beidio â digalonni. Mae Jehofa wedi rhoi gobaith hyfryd inni—bywyd tragwyddol mewn heddwch a diogelwch. Mae’n rhaid inni gadw’r gobaith hwnnw yn glir yn ein meddyliau a’n calonnau. Fel arall, gallwn ni golli golwg o’r gobaith hwnnw, fel ceisio edrych ar olygfa hyfryd drwy ffenest sydd angen ei glanhau. Sut gallwn ni lanhau’r ffenest fel petai, a chadw ein gobaith yn glir? Trwy neilltuo amser yn rheolaidd i ddychmygu pa mor hyfryd bydd ein bywydau yn y byd newydd. Gallwn ni hefyd ddarllen erthyglau, gwylio fideos, a gwrando ar ganeuon sy’n trafod ein gobaith, yn ogystal â gweddïo ar Jehofa am yr holl bethau rydyn ni’n edrych ymlaen atyn nhw yn y Baradwys.
11. Beth sy’n rhoi nerth i un chwaer sydd â phroblemau iechyd parhaol?
11 Ystyria sut mae gobaith wedi cysuro a chryfhau chwaer o’r enw Joy, sy’n dioddef problemau iechyd parhaol. Dywedodd hi: “Pan mae pethau’n ormod imi, dwi’n rhannu popeth rydw i’n teimlo â Jehofa, gan wybod ei fod yn fy neall i. Mae Jehofa yn ateb drwy roi’r ‘grym sydd y tu hwnt i’r arferol’ imi.” (2 Cor. 4:7) Mae Joy hefyd yn dychmygu ei hun yn y byd newydd, lle “fydd neb sy’n byw yno’n dweud, ‘Dw i’n sâl!’” (Esei. 33:24) Os ydyn ni hefyd yn tywallt ein calon i Jehofa ac yn canolbwyntio ar ein gobaith, gallwn ni gael y nerth sydd ei angen i ddyfalbarhau.
12. Pam gallwn ni drystio addewidion Jehofa? (Gweler hefyd y llun.)
12 Fel yn achos yr alltudion, mae Jehofa wedi rhoi llawer o resymau inni drystio ei addewidion. Meddylia am yr holl broffwydoliaethau sy’n cael eu cyflawni o’n cwmpas ni. Er enghraifft, rydyn ni’n gweld grym byd sy’n gallu bod yn gryf ond sydd hefyd yn gallu bod yn wan. (Dan. 2:42, 43) Rydyn ni hefyd yn clywed am ‘ddaeargrynfeydd yn un lle ar ôl y llall,’ ac rydyn ni’n cael rhan yn y gwaith o bregethu “i’r holl genhedloedd.” (Math. 24:7, 14) Mae’r proffwydoliaethau hyn a llawer mwy yn cryfhau ein ffydd yn addewidion cysurlon Jehofa ar gyfer y dyfodol.
Rydyn ni’n trystio addewidion Jehofa pan ydyn ni’n gweld ei broffwydoliaethau yn cael eu cyflawni heddiw (Gweler paragraff 12)
MAE JEHOFA’N TAWELU EIN PRYDERON
13. (a) Pa broblemau a fyddai’r Iddewon wedi eu hwynebu wrth iddyn nhw gael eu rhyddhau? (b) Yn ôl Eseia 41:10-13, sut gwnaeth Jehofa gysuro’r alltudion Iddewig?
13 Er bod Jehofa wedi rhoi cysur a gobaith hyfryd i’r Iddewon alltud, roedd yn gwybod y byddai pethau’n anodd iawn iddyn nhw wrth i’r amser agosáu i’w rhyddhau nhw. Rhagfynegodd y byddai brenin pwerus yn ymosod ar y cenhedloedd o gwmpas Babilon ac yna’n troi ar Fabilon ei hun. (Esei. 41:2-5) A oedd rhaid i’r Iddewon boeni? Cysurodd Jehofa ei bobl o flaen llaw trwy ddweud: “Paid bod ag ofn, achos dw i gyda ti. Paid dychryn—fi ydy dy Dduw di!” (Darllen Eseia 41:10-13.) Beth roedd y geiriau “fi ydy dy Dduw di” yn ei olygu? Doedd Jehofa ddim yn atgoffa’r Iddewon am yr angen i’w addoli, roedd hynny’n amlwg. I’r gwrthwyneb, roedd yn eu hatgoffa nhw bod Jehofa yn dal ar eu hochr nhw.—Salm 118:6.
14. Sut gwnaeth Jehofa dawelu pryderon yr alltudion?
14 Gwnaeth Jehofa hefyd dawelu pryderon yr alltudion trwy eu hatgoffa nhw am ei nerth a’i ddoethineb di-ben-draw. Gofynnodd i’r alltudion Iddewig edrych ar y sêr. Dywedodd wrthyn nhw ei fod wedi gwneud mwy na chreu’r sêr yn unig, roedd hefyd wedi enwi pob un ohonyn nhw. (Esei. 40:25-28) Felly, os ydy Jehofa’n gwybod enw pob un seren, yn bendant mae’n gwybod enw pob un o’i weision! Ac os oedd gan Jehofa’r nerth i greu’r sêr, wrth gwrs roedd ganddo’r nerth i helpu ei bobl. Doedd dim rhaid i’r alltudion Iddewig ofni na phoeni o gwbl.
15. Sut gwnaeth Jehofa baratoi’r Iddewon?
15 Gwnaeth Jehofa hefyd baratoi ei bobl ar gyfer yr hyn oedd i ddod. Yn llyfr Eseia, dywedodd Duw wrth y genedl: “Ewch i’ch ystafelloedd, a chloi’r drysau ar eich hôl. Cuddiwch am funud fach, nes i’w lid basio heibio.” (Esei. 26:20) Efallai cafodd yr adnod hon ei chyflawni am y tro cyntaf wrth i Cyrus goncro Babilon. Yn ôl un hanesydd Groegaidd, “gorchmynnodd y Brenin Cyrus i’w filwyr dorri lawr pawb oedd tu allan i’w tai.” Dychmyga pa mor ofnus byddai pobl Babilon wedi teimlo! Ond mae’n debyg cafodd yr alltudion Iddewig eu sbario o ganlyniad i wrando ar gyfarwyddiadau Jehofa.
16. Pam na ddylen ni bryderu’n ormodol am ein dyfodol? (Gweler hefyd y llun.)
16 Beth rydyn ni’n ei ddysgu? Yn fuan, byddwn ni’n wynebu’r trychineb mwyaf rydyn ni erioed wedi ei weld. Pan fydd y trychineb hwnnw yn dechrau, bydd yn drysu ac yn dychryn y rhan fwyaf o bobl, ond nid pobl Jehofa. Rydyn ni’n gwybod mai Jehofa yw ein Duw ni, a byddwn ni’n sefyll yn gadarn gan wybod bod ein “rhyddhad yn agosáu.” (Luc 21:28) Hyd yn oed pan fydd cynghrair o genhedloedd yn ymosod arnon ni, byddwn ni’n parhau i drystio yn Jehofa. Bydd Jehofa’n defnyddio ei angylion i’n hamddiffyn ni, ac yn rhoi cyfarwyddyd a fydd yn achub ein bywydau. Sut bydd Jehofa’n cyfleu’r cyfarwyddiadau hynny inni? Dydyn ni ddim eto’n gwybod. Ond, yn ôl pob tebyg, byddan nhw’n dod trwy’r cynulleidfaoedd. Mewn ffordd, bydd y rhain yn debyg i’r “ystafelloedd” yn Eseia 26, lle byddwn ni’n gallu cuddio a bod yn ddiogel. Sut gallwn ni baratoi am y digwyddiadau hyn? Drwy agosáu at ein brodyr a’n chwiorydd, drwy fod yn ufudd i arweiniad theocrataidd, a thrwy fod yn hyderus bod Jehofa’n arwain ein cyfundrefn.—Heb. 10:24, 25; 13:17.
Bydd myfyrio ar nerth Jehofa a’i allu i’n hachub ni yn ein helpu ni i beidio â gorbryderu yn ystod y trychineb mawr (Gweler paragraff 16)b
17. Sut gelli di droi at Jehofa am gysur?
17 Er bod bywyd yn anodd i’r alltudion Iddewig ym Mabilon, rhoddodd Jehofa gysur iddyn nhw. Bydd ef yn gwneud yr un peth inni, ni waeth beth fydd yn digwydd yn y dyfodol. Parha i droi at Jehofa am gysur ac i drystio yn ei drugaredd. Cadwa dy obaith yn fyw, a chofia bod Jehofa wrth dy ochr, felly does gen ti ddim rheswm i boeni.
CÂN 3 Ein Nerth, Ein Gobaith, Ein Hyder
a Newidiwyd rhai enwau.
b DISGRIFIAD O’R LLUN: Grŵp bach o gyd-addolwyr yn dod at ei gilydd. Maen nhw’n hyderus bod gan Jehofa’r nerth a’r gallu i amddiffyn ei bobl ar draws y byd.