ERTHYGL ASTUDIO 30
CÂN 97 Mae Bywyd yn Ddibynnol ar Air Duw
Dal ati i Ddysgu o Ddysgeidiaethau Sylfaenol y Beibl
“Rydw i’n wastad yn bwriadu eich atgoffa chi o’r pethau hyn, er eich bod chi’n eu gwybod nhw ac wedi cael eich sefydlu’n dda yn y gwir.”—2 PEDR 1:12.
PWRPAS
Sut i roi ar waith gwersi gwerthfawr o ddysgeidiaethau sylfaenol y Beibl flynyddoedd ar ôl iti eu dysgu nhw.
1. Sut gwnaeth dysgeidiaethau sylfaenol y Beibl effeithio arnat ti pan wnest ti ddysgu’r gwir?
MAE dysgeidiaethau sylfaenol y Beibl wedi newid ein bywydau. Er enghraifft, pan ddysgon ni mai enw Duw ydy Jehofa, cymeron ni’r cam cyntaf i ddod yn ffrindiau ag ef. (Esei. 42:8) Pan ddysgon ni am gyflwr y meirw, ni wnaethon ni boeni bellach am ein hanwyliaid yn dioddef. (Preg. 9:10) A phan ddysgon ni am addewid Duw i droi’r ddaear yn baradwys, fe wnaethon ni stopio poeni am ein dyfodol. Roedden ni’n hyderus ein bod ni’n gallu byw am byth, nid am amser byr yn unig fel 70 neu 80 o flynyddoedd.—Salm 37:29; 90:10.
2. Sut mae 2 Pedr 1:12, 13 yn dangos bod Cristnogion aeddfed yn elwa o ddysgeidiaethau sylfaenol y Beibl?
2 Ddylen ni byth gymryd yn ganiataol ddysgeidiaethau sylfaenol y Beibl. Yn ei ail lythyr, ysgrifennodd yr apostol Pedr at Gristnogion a oedd wedi eu “sefydlu’n dda yn y gwir.” (Darllen 2 Pedr 1:12, 13.) Ond, ar yr adeg honno, roedd ’na beryglon ysbrydol yn y gynulleidfa, gan gynnwys gau athrawon a dynion annuwiol. (2 Pedr 2:1-3) Roedd Pedr eisiau cryfhau ei frodyr a’i chwiorydd er mwyn iddyn nhw allu gwrthsefyll y bygythiadau hyn. Er mwyn gwneud hynny, fe wnaeth eu hatgoffa nhw o rai o’r pethau roedden nhw wedi eu dysgu yn barod. Byddai’r dysgeidiaethau hyn yn eu helpu nhw i aros yn ffyddlon hyd y diwedd.
3. Pam dylai pob Cristion ddal ati i fyfyrio ar ddysgeidiaethau sylfaenol y Beibl? Eglura.
3 Wrth inni aeddfedu fel Cristnogion, gallwn ni ddysgu gwersi newydd o ddysgeidiaethau sylfaenol y Beibl. I egluro: Dychmyga ddau gogydd, un profiadol ac un dibrofiad, sy’n defnyddio’r un cynhwysion wrth baratoi pryd o fwyd. Ond dros amser, mae’r cogydd profiadol wedi dysgu sut i wneud y gorau o’r cynhwysion ac i’w paratoi nhw mewn ffyrdd newydd a diddorol. Mewn ffordd debyg, gall rhai sydd wedi gwasanaethu Jehofa am beth amser yn ogystal â rhai newydd weld dysgeidiaethau sylfaenol y Beibl o safbwynt gwahanol. Mae’n debyg bod ein hamgylchiadau neu ein breintiau yn y gyfundrefn wedi newid ers inni gael ein bedyddio. Pan ydyn ni’n meddwl am y pethau gwnaethon ni eu dysgu amser maith yn ôl, gallwn ni ddarganfod gwersi ymarferol newydd a gweld sut maen nhw’n berthnasol i’n sefyllfa bresennol. Gad inni weld beth gall Cristnogion aeddfed eu dysgu o dri o’r dysgeidiaethau mwyaf sylfaenol yn y Beibl.
JEHOFA YW’R CREAWDWR
4. Sut mae gwybod mai Jehofa ydy’r Creawdwr wedi effeithio arnon ni?
4 “Yr un a wnaeth adeiladu pob peth ydy Duw.” (Heb. 3:4) Rydyn ni’n gwybod bod ein planed a’r holl fywyd arni wedi cael eu creu gan Greawdwr hollbwerus sy’n llawn doethineb. Ef sydd wedi ein gwneud ni, felly mae’n gwybod popeth amdanon ni. Ar ben hynny, mae’n gofalu amdanon ni ac yn gwybod beth sydd orau inni. Mae gwybod hyn am Jehofa wedi effeithio arnon ni mewn ffordd ryfeddol, ac wedi rhoi ystyr a phwrpas i’n bywydau.
5. Pa wirionedd all ein helpu ni i feithrin gostyngeiddrwydd? (Eseia 45:9-12)
5 Mae gwybod mai Jehofa yw’r Creawdwr yn gallu ein dysgu ni am ostyngeiddrwydd. Ar ôl i Job ddechrau canolbwyntio gormod ar ei hun ac ar bobl eraill, gwnaeth Jehofa ei atgoffa mai Ef yw’r Creawdwr hollalluog. (Job 38:1-4) Gwnaeth hyn helpu Job i sylweddoli bod ffyrdd Jehofa bob amser yn uwch na ffyrdd dynion. Yn hwyrach ymlaen, ysgrifennodd y proffwyd Eseia: “Ydy’r clai yn dweud wrth y crochenydd, ‘Beth yn y byd wyt ti’n wneud?’”—Darllen Eseia 45:9-12.
6. Pryd gallen ni feddwl yn ddwfn am ddoethineb a nerth ein Creawdwr, Jehofa? (Gweler hefyd y lluniau.)
6 Pan mae rhywun wedi gwasanaethu Jehofa am lawer o flynyddoedd, mae’n bosib iddo ddechrau dibynnu gormod arno’i hun yn hytrach nag ar Jehofa a’i Air am arweiniad. (Job 37:23, 24) Ond beth os ydy person yn meddwl yn ddwfn am ddoethineb a nerth rhagorol ei Greawdwr? (Esei. 40:22; 55:8, 9) Bydd y gwirionedd sylfaenol hwn yn ei helpu i aros yn ostyngedig ac i gael yr agwedd gywir tuag at ei safbwynt ei hun.
Beth all ein helpu ni i gael yr agwedd gywir tuag at ein syniadau ein hunain? (Gweler paragraff 6)d
7. Beth a wnaeth Rahela er mwyn addasu i arweiniad newydd?
7 Mae meddwl am ei Chreawdwr wedi helpu Rahela, sy’n byw yn Slofenia, i addasu i newidiadau yn y gyfundrefn. Mae hi’n dweud: “Dydy hi ddim yn wastad wedi bod yn hawdd imi dderbyn penderfyniadau gan frodyr sy’n cymryd y blaen. Er enghraifft, ar ôl gwylio Diweddariad #8 2023 gan y Corff Llywodraethol, roeddwn i wedi synnu pan welais am y tro cyntaf frawd â barf yn rhoi anerchiad. Felly gweddïais ar Jehofa am help i addasu i’r newid.” Sylweddolodd Rahela fod Jehofa, Creawdwr y nefoedd a’r ddaear, yn wastad yn gwybod y ffordd orau i arwain ei gyfundrefn. Os ydy hi’n anodd iti addasu i ddealltwriaeth newydd neu i dderbyn arweiniad newydd, cymera amser i fyfyrio’n ostyngedig ar ddoethineb a nerth dy Greawdwr.—Rhuf. 11:33-36.
PAM MAE DUW YN CANIATÁU DIODDEFAINT
8. Sut rydyn ni wedi elwa o ddysgu pam mae Jehofa’n caniatáu dioddefaint?
8 Pam mae Duw yn caniatáu dioddefaint? Mae rhai wedi troi’n grac neu wedi dod i’r casgliad nad ydy Duw yn bodoli oherwydd nad ydyn nhw’n gallu ateb y cwestiwn hwnnw. (Diar. 19:3) Ond rwyt ti wedi dysgu bod pobl yn dioddef oherwydd pechod ac amherffeithrwydd. Nid ar Jehofa mae’r bai. Rwyt ti hefyd wedi dysgu bod amynedd Jehofa wedi arwain at filiynau o bobl yn dod i’w adnabod, ac i weld sut bydd Jehofa’n dod â dioddefaint i ben unwaith ac am byth. (2 Pedr 3:9, 15) Mae’r gwirioneddau hyn wedi dy gysuro di a dy helpu di i nesáu ato.
9. Ym mha sefyllfaoedd gallen ni adolygu’r rhesymau pam mae Jehofa’n caniatáu dioddefaint?
9 Rydyn ni’n deall bod rhaid inni fod yn amyneddgar wrth inni aros i Jehofa ddod â dioddefaint i ben. Ond, pan ydyn ni neu’r rhai rydyn ni’n eu caru yn profi anawsterau, anghyfiawnder, neu golled, efallai byddwn ni’n cwestiynu pam nad ydy Jehofa’n ymateb yn gyflymach. (Hab. 1:2, 3) Pan ydyn ni’n teimlo fel hyn, mae’n dda inni adolygu’r rhesymau pam mae Jehofa’n caniatáu i’r cyfiawn ddioddef.a (Salm 34:19) Gallwn ni hefyd fyfyrio ar ei bwrpas i ddod â dioddefaint i ben unwaith ac am byth.
10. Beth sydd wedi helpu Anne i ymdopi ar ôl colli ei mam?
10 Gall gwybod y gwir am ddioddefaint ein helpu ni i ddyfalbarhau. Mae Anne, sy’n byw ar ynys Mayotte, yng Nghefnfor India, yn dweud: “Gwnaeth colli fy mam rai blynyddoedd yn ôl fy ngwneud i’n drist iawn. Ond, rydw i’n fy atgoffa fy hun yn aml nad ydy Jehofa’n gyfrifol am ddioddefaint. Mae’n awyddus i gael gwared ar bob dioddefaint ac i atgyfodi ein hanwyliaid. Mae myfyrio ar y gwirioneddau hynny yn dod â heddwch meddwl imi sy’n aml yn fy synnu i.”
11. Sut gall gwybod rhesymau Jehofa dros ganiatáu dioddefaint ein helpu ni i ddal ati i bregethu?
11 Gall gwybod y gwir am ddioddefaint ein cymell ni i ddal ati yn y gwaith pregethu. Ar ôl esbonio bod amynedd Jehofa yn golygu achubiaeth i’r rhai sy’n edifarhau, ysgrifennodd Pedr: “Ystyriwch pa fath o bobl y dylech chi fod ym mhob math o ymddygiad sanctaidd a gweithredoedd o ddefosiwn duwiol.“ (2 Pedr 3:11) Mae “gweithredoedd o ddefosiwn duwiol” yn cynnwys ein gweinidogaeth. Yn union fel ein Tad, rydyn ni’n caru pobl. Rydyn ni eisiau iddyn nhw fyw ym myd newydd Duw. Yn amyneddgar, mae Jehofa’n rhoi’r cyfle i’r bobl yn dy gymuned i ddod i’w addoli. Am fraint sydd gen ti i gydweithio â Duw drwy helpu cymaint â phosib i ddysgu amdano cyn i’r diwedd ddod!—1 Cor. 3:9.
RYDYN NI’N BYW YN “Y DYDDIAU OLAF”
12. Sut mae gwybod ein bod ni’n byw yn “y dyddiau olaf” wedi bod o les inni?
12 Mae’r Beibl yn disgrifio’n fanwl ymddygiad pobl yn ystod “y dyddiau olaf.” (2 Tim. 3:1-5) Does dim rhaid inni edrych yn bell i weld y broffwydoliaeth hon yn cael ei chyflawni. Mae ein hyder yng Ngair Duw yn tyfu’n fwy byth wrth inni weld agweddau pobl yn gwaethygu.—2 Tim. 3:13-15.
13. Sut gall eglureb Iesu yn Luc 12:15-21 ein helpu ni?
13 Mae gwybod ein bod ni’n byw yn y dyddiau olaf yn gwneud inni ymateb gyda theimlad o frys. Gallwn ni ddysgu pam mae’n bwysig i wneud hyn o eglureb Iesu yn Luc 12:15-21. (Darllen.) Pam cafodd y dyn cyfoethog ei alw’n ‘ddyn gwirion’? Nid oherwydd ei gyfoeth, ond oherwydd nad oedd yn blaenoriaethu’r pethau cywir. Roedd yn “casglu trysor iddo ef ei hun ond [doedd ef] ddim yn gyfoethog yng ngolwg Duw.” Pam roedd hyn yn fater o frys? Dywedodd Duw wrth y dyn: “Heno rwyt ti’n mynd i farw.” Heddiw, wrth i ddiwedd y system hon agosáu, mae’n dda inni ofyn i ni’n hunain: ‘Ydy fy amcanion yn dangos fy mod i’n gwneud y gorau o fy amser? Pa amcanion alla i helpu fy mhlant i’w gosod? Ydw i’n defnyddio fy egni, fy amser, a fy arian i storio trysorau i fi fy hun neu i storio trysorau yn y nefoedd?’
14. Fel mae profiad Miki yn dangos, pam mae’n bwysig inni gofio ein bod ni’n byw yn y dyddiau olaf?
14 Pan ydyn ni’n meddwl yn ddwfn am y ffaith ein bod ni’n byw yn y dyddiau olaf, gall hyn ein helpu ni i ddefnyddio ein hamser yn y ffordd orau. Dyna a ddigwyddodd i chwaer o’r enw Miki. Mae hi’n dweud: “Ar ôl imi raddio o’r ysgol, dymuniad fy nghalon oedd cael gyrfa yn astudio anifeiliaid. Roedd gen i hefyd y nod o arloesi’n barhaol ac o wasanaethu lle mae’r angen yn fwy. Gwnaeth rhai ffrindiau aeddfed yn y gynulleidfa fy annog i i gwestiynu a oedd hi’n rhesymol imi barhau i geisio fy ngyrfa a chyrraedd fy amcanion ysbrydol ar yr un pryd. Gwnaethon nhw fy atgoffa i y bydd y system hon yn dod i ben yn fuan. Ar y llaw arall, yn y byd newydd, bydd gen i’r holl amser yn y byd i astudio anifeiliaid. Felly dewisais gwrs byr ac ymarferol. Gwnaeth hyn fy helpu i i gael hyd i waith a fyddai’n fy nghefnogi i fel arloeswraig ac yn hwyrach ymlaen i symud i Ecuador, lle roedd yr angen yn fwy.” Erbyn hyn, mae Miki a’i gŵr yn gwasanaethu yn y gwaith cylch yn Ecuador.
15. Sut gallai pobl ymateb i’r newyddion da yn y dyfodol? Rho esiampl. (Gweler hefyd y lluniau.)
15 Ddylen ni ddim digalonni pan nad ydy pobl yn derbyn y newyddion da yn syth. Mae pobl yn gallu newid. Ystyria Iago, hanner brawd Iesu. Fe welodd Iesu yn tyfu lan, yn cyflawni ei rôl fel y Meseia, ac yn dysgu eraill fel nad oedd neb wedi gwneud o’r blaen. Ond, am flynyddoedd, ni wnaeth Iago ddilyn Iesu. Fe ddaeth yn ddisgybl dim ond ar ôl i Iesu gael ei atgyfodi—ond yna roedd yn ddisgybl selog iawn!b (Ioan 7:5; Gal. 2:9) Paid â diystyru gwerth estyn allan i dy berthnasau sydd ddim wedi dangos diddordeb hyd yn hyn, neu bregethu i’r rhai sydd ddim eto wedi derbyn neges y Deyrnas. Cofia ein bod ni’n byw yn y dyddiau olaf, felly mae’r amser sydd ar ôl inni bregethu yn brin. Mae’n bosib bydd dy eiriau yn effeithio arnyn nhw’n hwyrach ymlaen, efallai hyd yn oed ar ôl i’r trychineb mawr ddechrau.c
Beth all ein hysgogi ni i ddal ati i bregethu i’n teulu sydd ddim yn y gwir? (Gweler paragraff 15)e
ARHOSA’N DDIOLCHGAR AM DDYSGEIDIAETHAU JEHOFA
16. Sut rwyt ti wedi elwa o fwyd ysbrydol oddi wrth Jehofa? (Gweler hefyd y blwch “Defnyddia Nhw i Helpu Eraill.”)
16 Mae rhywfaint o’r bwyd ysbrydol rydyn ni’n ei dderbyn wedi cael ei baratoi ar gyfer rhai sydd erioed wedi clywed dysgeidiaethau sylfaenol y Beibl. Er enghraifft, mae ein hanerchiadau cyhoeddus wythnosol, rhai erthyglau a fideos ar jw.org, a’n cylchgronau cyhoeddus wedi cael eu dylunio yn bennaf ar gyfer pobl sydd ddim yn Dystion. Er hynny, rydyn ninnau hefyd yn elwa o’r bwyd ysbrydol hwn. Mae’n dyfnhau ein cariad at Dduw, yn cryfhau ein ffydd yn ei Air, ac yn ein helpu ni i fod yn fwy effeithiol wrth ddysgu gwirioneddau sylfaenol i eraill.—Salm 19:7.
17. Ym mha sefyllfaoedd byddai’n dda inni fyfyrio ar ddysgeidiaethau sylfaenol y Beibl?
17 Fel Tystion Jehofa, rydyn ni wrth ein boddau pan ydyn ni’n derbyn dealltwriaeth newydd am un o wirioneddau’r Beibl. Ond rydyn ni hefyd yn ddiolchgar iawn am ddysgeidiaethau sylfaenol y Beibl a wnaeth ein denu ni at y gwir yn y lle cyntaf. Os ydyn ni’n cael ein temtio i ddibynnu arnon ni’n hunain yn hytrach nag ar arweiniad o gyfundrefn Jehofa, bydd gostyngeiddrwydd yn ein helpu ni i gofio pwy sy’n arwain y gyfundrefn—ein Creawdwr hollalluog sy’n llawn doethineb. Pan ydyn ni neu rywun rydyn ni’n ei garu yn dioddef treial, gallwn ni fod yn amyneddgar a myfyrio ar pam mae Jehofa’n caniatáu dioddefaint. Ac wrth benderfynu sut i ddefnyddio ein hamser a’n hadnoddau, gallwn ni gofio ein bod ni’n byw yn y dyddiau olaf ac mae’r amser ar ôl yn brin. Bydd gwirioneddau’r Beibl yn parhau i’n cryfhau ni, i’n cymell ni, ac i’n gwneud ni’n ddoeth.
CÂN 95 Ar Gynnydd Mae’r Llewyrch
a Gweler yr erthygl “Why All Suffering Is Soon to End” yn rhifyn Mai 15, 2007 o’r Tŵr Gwylio Saesneg, tt. 21-25.
c Gweler yr erthygl “Beth Rydyn Ni’n Ei Wybod am Farnedigaethau Jehofa yn y Dyfodol?” yn rhifyn Mai 2024 o’r Tŵr Gwylio, tt. 8-13.
d DISGRIFIAD O’R LLUN: Mae awgrymiad un henuriad yn cael ei wrthod gan y corff henuriaid. Yn nes ymlaen, tra ei fod yn edrych ar y sêr, mae’n cael ei gymell i weld ei syniadau o’r safbwynt cywir.
e DISGRIFIAD O’R LLUN: Yn ystod ei hastudiaeth bersonol, mae chwaer yn astudio’r dystiolaeth ein bod ni’n byw yn y dyddiau olaf. Mae hyn yn ei chymell hi i ffonio ei chwaer ac i rannu’r gwir â hi.