LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • w25 Gorffennaf tt. 20-25
  • A Wyt Ti “Wedi Dysgu’r Gyfrinach” o Sut i Fod yn Fodlon?

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • A Wyt Ti “Wedi Dysgu’r Gyfrinach” o Sut i Fod yn Fodlon?
  • Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2025
  • Isbenawdau
  • Erthyglau Tebyg
  • MEITHRIN DIOLCHGARWCH
  • CADW FFOCWS A BOD YN OSTYNGEDIG
  • MYFYRIO AR EIN GOBAITH
  • NID OES EISIAU AR Y RHAI SY’N EI OFNI
  • Bydda’n Ostyngedig Pan Nad Wyt Ti’n Deall Rhywbeth
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2025
  • Cofia Mai Jehofa Yw’r “Duw Byw”
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2024
  • Penderfyniadau Sy’n Dangos Ein Bod Ni’n Dibynnu ar Jehofa
    Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr y Cyfarfodydd—2023
  • A Elli Di Weld y Gwir Ymysg y Celwyddau?
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2024
Gweld Mwy
Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2025
w25 Gorffennaf tt. 20-25

ERTHYGL ASTUDIO 31

CÂN 111 Rhesymau Dros Ein Llawenydd

A Wyt Ti “Wedi Dysgu’r Gyfrinach” o Sut i Fod yn Fodlon?

“Rydw i wedi dysgu bod yn fodlon er gwaethaf fy amgylchiadau.”—PHIL. 4:11.

PWRPAS

Dysgu sut i fod yn fodlon drwy feithrin diolchgarwch, drwy gadw ein ffocws a bod yn ostyngedig, a thrwy fyfyrio ar ein gobaith am y dyfodol.

1. Beth mae’n ei olygu i fod yn fodlon, a beth nad yw’n ei olygu?

A WYT ti’n berson bodlon? Mae rhywun bodlon yn cael llawenydd a heddwch drwy ganolbwyntio ar ei fendithion. Dydy ef ddim yn teimlo’n chwerw nac yn grac oherwydd y pethau nad oes ganddo. Ond, dydy bod yn fodlon ddim yn golygu eistedd ar ein dwylo. Er enghraifft, mae’n addas i Gristion estyn allan am gyfleoedd i ehangu ei wasanaeth. (Rhuf. 12:1; 1 Tim. 3:1) Er hynny, os nad ydy ef yn cael breintiau yn gyflym, dydy ef ddim yn colli ei lawenydd.

2. Pam gall anfodlonrwydd fod yn beryglus iawn?

2 Gall anfodlonrwydd arwain at ganlyniadau difrifol. Dydy rhai byth yn fodlon ar beth sydd ganddyn nhw, ac felly maen nhw’n gweithio oriau hir i gael pethau materol sydd ddim yn wir yn angenrheidiol. Yn drist iawn, mae rhai Cristnogion wedi hyd yn oed dwyn arian a phethau eraill y maen nhw’n eu heisiau. Efallai eu bod nhw wedi dweud wrthyn nhw eu hunain, ‘Rydw i’n haeddu hwn,’ ‘Rydw i wedi aros yn ddigon hir,’ neu ‘Bydda i’n talu’r arian yn ôl yn hwyrach ymlaen.’ Ond, dydy dwyn unrhyw beth ddim yn plesio nac yn anrhydeddu Jehofa. (Diar. 30:9) Mae eraill wedi siomi gymaint ar ôl peidio â chael braint nes iddyn nhw stopio gwasanaethu Jehofa yn gyfan gwbl. (Gal. 6:9) Sut gall un o weision Jehofa hyd yn oed feddwl am wneud hynny? Efallai y broblem yw ei fod wedi stopio meithrin bodlonrwydd.

3. Pa wers galonogol gallwn ni ei dysgu o Philipiaid 4:​11, 12?

3 Gallwn ni i gyd feithrin bodlonrwydd. Ysgrifennodd yr apostol Paul: “Rydw i wedi dysgu bod yn fodlon er gwaethaf fy amgylchiadau.” (Darllen Philipiaid 4:11, 12.) Ysgrifennodd y geiriau hyn tra oedd yn y carchar. Er hynny, ni wnaeth ef golli ei lawenydd. Roedd “wedi dysgu’r gyfrinach” o sut i fod yn fodlon. Os ydy hyn yn anodd inni, gall geiriau a phrofiad Paul ddangos ein bod ni’n gallu meithrin bodlonrwydd. Ddylen ni ddim disgwyl i fodlonrwydd ddod yn naturiol yn ein hamgylchiadau. Yn hytrach, mae’n rhaid inni ddysgu i fod yn fodlon. Sut? Gad inni ystyried rhinweddau a fydd yn ein helpu ni i ddysgu’r gyfrinach o fodlonrwydd.

MEITHRIN DIOLCHGARWCH

4. Sut gall agwedd ddiolchgar ein helpu ni i fod yn fodlon? (1 Thesaloniaid 5:18)

4 Mae bodlonrwydd yn tyfu pan fydd person yn ddiolchgar. (Darllen 1 Thesaloniaid 5:18.) Er enghraifft, pan ydyn ni’n wir yn ddiolchgar am y pethau angenrheidiol yn ein bywydau, rydyn ni’n llai tebygol o orfeddwl am y pethau hoffen ni eu cael ond sydd ddim gynnon ni. Pan ydyn ni’n ddiolchgar i Jehofa am ein breintiau, mae’n ein helpu ni i ffocysu ar wneud ein gorau yn ein haseiniad yn hytrach na meddwl o hyd am dderbyn aseiniad newydd. Does dim syndod bod y Beibl yn ein hannog ni i roi diolch i Jehofa yn ein gweddïau. Mae bod yn ddiolchgar yn ein helpu ni i deimlo “heddwch Duw sydd y tu hwnt i bob deall.”—Phil. 4:​6, 7.

5. Pa resymau oedd gan yr Israeliaid dros fod yn ddiolchgar? (Gweler hefyd y llun.)

5 Ystyria beth ddigwyddodd i’r Israeliaid. Sawl gwaith, fe wnaethon nhw gwyno i Jehofa oherwydd eu bod nhw’n methu’r bwyd roedd ar gael iddyn nhw yn yr Aifft. (Num. 11:​4-6) Wrth gwrs, doedd bywyd yn yr anialwch ddim yn hawdd. Beth fyddai wedi eu helpu nhw i fod yn fodlon? Dylen nhw fod wedi myfyrio’n ddiolchgar ar beth roedd Jehofa wedi ei wneud ar eu cyfer yn barod. Yn yr Aifft, lle cawson nhw eu trin yn ofnadwy fel caethweision, daeth Jehofa â deg pla ar yr Eifftiaid. Ar ôl i’r Israeliaid gael eu rhyddhau, gwnaethon nhw “ysbeilio’r Eifftiaid” a chymryd arian, aur, a dillad. (Ex. 12:​35, 36) Pan aeth byddin Pharo ar eu holau hyd at ochr y Môr Coch, gwnaeth Jehofa hollti’r dyfroedd yn wyrthiol. Hefyd, wrth iddyn nhw deithio drwy’r anialwch, bwydodd Jehofa yr Israeliaid â manna bob dydd. Felly, beth oedd y broblem? Er bod ganddyn nhw’r bwyd roedd ei angen arnyn nhw, roedden nhw’n anfodlon oherwydd nad oedden nhw’n ddiolchgar i Jehofa am beth roedd ganddyn nhw’n barod.

Rhai o’r Israeliaid yn cwyno i Moses am y manna tra bod eraill gerllaw yn casglu manna ac yn gwylio.

Pam roedd yr Israeliaid yn anfodlon? (Gweler paragraff 5)


6. Ym mha ffyrdd gallwn ni feithrin diolchgarwch?

6 Sut gelli di feithrin diolchgarwch. Yn gyntaf, cymera amser bob dydd i feddwl am y pethau da rwyt ti’n eu mwynhau. Gelli di nodi dau neu dri pheth rwyt ti’n ddiolchgar amdanyn nhw. (Galar. 3:​22, 23) Yn ail, dangosa dy ddiolchgarwch. Gwna’n siŵr i ddiolch i eraill am y pethau da maen nhw’n eu gwneud ar dy gyfer. Yn bennaf, cofia i ddiolch i Jehofa’n aml. (Salm 75:1) Yn drydydd, dewisa bobl ddiolchgar i fod yn ffrindiau agos iti. Gall agwedd ddiolchgar ddylanwadu ar eraill, ac mae’r un peth yn wir am agwedd anniolchgar. (Deut. 1:​26-28; 2 Tim. 3:​1, 2, 5) Pan ydyn ni’n canolbwyntio ar ddangos diolchgarwch, byddwn ni’n llai tebygol o gael ein llethu gan deimladau o anfodlonrwydd.

7. Sut gwnaeth Aci feithrin diolchgarwch, a beth oedd y canlyniad?

7 Ystyria beth ddigwyddodd i Aci, sy’n byw yn Indonesia. Mae hi’n cyfaddef: “Yn ystod y pandemig COVID-19, dechreuais gymharu fy amgylchiadau i ag amgylchiadau fy nghyd-addolwyr. O ganlyniad, teimlais yn anfodlon.” (Gal. 6:4) Beth helpodd Aci i newid ei ffordd o feddwl? Mae hi’n dweud: “Dechreuais gyfri fy mendithion bob dydd a myfyrio ar yr holl bethau da oedd gen i oherwydd fy mod i’n rhan o gyfundrefn Duw. Yna, roeddwn i’n diolch i Jehofa. O ganlyniad, dechreuais deimlo gwir fodlonrwydd.” Os ydy meddyliau negyddol yn dy lethu di, a elli di efelychu Aci er mwyn teimlo’n fwy diolchgar?

CADW FFOCWS A BOD YN OSTYNGEDIG

8. Beth ddigwyddodd i Baruch?

8 Gwnaeth Baruch, ysgrifennydd y proffwyd Jeremeia, deimlo’n anfodlon ar un adeg. Roedd gan Baruch aseiniad anodd, sef cefnogi Jeremeia wrth iddo gyhoeddi neges gref i’r Israeliaid anniolchgar. Gwnaeth Baruch golli ei ffocws. Yn lle canolbwyntio ar beth roedd Jehofa eisiau iddo ei wneud, dechreuodd Baruch feddwl gormod am beth roedd ef ei hun eisiau ei wneud. Trwy Jeremeia, dywedodd Jehofa wrth Baruch: “Ddylet ti ddim disgwyl pethau mawr i ti dy hun.” (Jer. 45:​3-5) Mewn geiriau eraill, roedd yn dweud: “Bydda’n fodlon ar dy amgylchiadau presennol.” Gwrandawodd Baruch ar Jehofa ac fe wnaeth barhau i fwynhau Ei gymeradwyaeth.

9. Yn ôl 1 Corinthiaid 4:​6, 7, beth fydd gostyngeiddrwydd yn ein helpu ni i gydnabod? (Gweler hefyd y lluniau.)

9 Weithiau, gall Cristion deimlo ei fod yn haeddu aseiniad penodol. Efallai ei fod yn gweithio’n galed, yn dalentog iawn, neu’n brofiadol. Ond efallai fod rhywun arall yn derbyn y fraint mae’n dymuno ei chael. Sut gallai ef resymu ar y mater? Gallai ef fyfyrio ar eiriau’r apostol Paul yn 1 Corinthiaid 4:​6, 7. (Darllen.) Mae pob talent a phob braint sydd gynnon ni yn dod oddi wrth Jehofa. Dydyn ni ddim yn haeddu nac yn deilwng o’r rhoddion hyn. Mae Jehofa’n rhoi’r pethau hyn inni oherwydd ei gariad a’i garedigrwydd rhyfeddol.—Rhuf. 12:​3, 6; Eff. 2:​8, 9.

Collage: Brodyr a chwiorydd â breintiau yng ngwasanaeth Jehofa. 1. Brawd yn mesur pwysedd yn y peipiau mewn adeilad theocrataidd. 2. Brawd yn cyfweld â chwaer mewn cynulliad iaith arwyddion. 3. Brawd yn rhoi anerchiad mewn cyfarfod y gynulleidfa.

Mae unrhyw allu neu dalent sydd gynnon ni yn rhodd oddi wrth Jehofa (Gweler paragraff 9)b


10. Sut gallwn ni feithrin gostyngeiddrwydd?

10 Gallwn ni feithrin gostyngeiddrwydd drwy feddwl yn ddwfn am yr esiampl osododd Iesu ar ein cyfer. Er bod Iesu’n gwybod mai ef oedd mab Duw a bod ganddo lawer o awdurdod, fe olchodd draed ei apostolion. Ysgrifennodd yr apostol Ioan: “Gan fod Iesu’n gwybod bod y Tad wedi rhoi pob peth yn ei ddwylo a’i fod wedi dod oddi wrth Dduw ac yn mynd at Dduw, . . . fe roddodd ddŵr i mewn i fowlen a dechrau golchi traed y disgyblion.” (Ioan 13:​3-5) Gallai Iesu fod wedi teimlo y dylai’r apostolion olchi ei draed ef. Ond yn ystod ei fywyd ar y ddaear, doedd Iesu byth yn teimlo ei fod yn haeddu bywyd mwy cyfforddus neu foethus. (Luc 9:58) Roedd Iesu yn ostyngedig, roedd yn fodlon. Gosododd esiampl berffaith inni.—Ioan 13:15.

11. Beth helpodd Dennis i fod yn fodlon?

11 Mae Dennis, o’r Iseldiroedd, wedi ymdrechu i ddilyn esiampl Iesu o ddangos gostyngeiddrwydd, ond dydy hi ddim wedi bod yn hawdd. Mae’n dweud: “Weithiau rydw i’n sylwi bod teimladau o falchder ac anfodlonrwydd yn tyfu yn fy nghalon, er enghraifft pan mae rhywun yn cael aseiniad hoffwn i ei gael. Pan mae hynny’n digwydd, rydw i’n astudio gostyngeiddrwydd. Yn yr ap JW Library®, rydw i’n rhoi tag ar adnodau penodol sy’n sôn am ostyngeiddrwydd fel fy mod i’n gallu cael hyd iddyn nhw’n sydyn a’u darllen eto. Rydw i hefyd wedi lawrlwytho anerchiadau sy’n sôn am ostyngeiddrwydd ar fy ffôn ac yn gwrando arnyn nhw’n aml.a Rydw i wedi dysgu dylai fy holl waith anrhydeddu Jehofa, nid fi fy hun. Mae pob un ohonon ni’n cael rhan fach yn y gwaith mae Jehofa’n ei gyflawni.” Os wyt ti’n dechrau anfodloni ar dy sefyllfa, ceisia feithrin gostyngeiddrwydd. Bydd hyn yn cryfhau dy berthynas â Jehofa ac yn dy helpu di i fod yn fodlon.—Iago 4:​6, 8.

MYFYRIO AR EIN GOBAITH

12. Pa obaith am y dyfodol sy’n ein helpu ni i deimlo’n fodlon? (Eseia 65:​21-25)

12 Rydyn ni’n teimlo mwy o fodlonrwydd wrth inni fyfyrio ar y gobaith hyfryd sydd o’n blaenau. Yn llyfr Eseia, mae Jehofa’n cydnabod y problemau rydyn ni’n eu hwynebu heddiw, ond mae’n addo cael gwared arnyn nhw. (Darllen Eseia 65:​21-25.) Byddwn ni’n byw mewn tai cyfforddus a saff. Bydd gynnon ni waith pleserus, a bwyd blasus a maethlon i’w fwyta. Fyddwn ni byth eto’n poeni am ddiogelwch ein hunain nac ein plant. (Esei. 32:​17, 18; Esec. 34:25) Gallwn ni fod yn hollol siŵr bydd pob un o’r addewidion hyn am ein dyfodol yn dod yn wir.

13. Pa broblemau sydd gynnon ni, a sut gall meddwl am y dyfodol ein helpu ni?

13 Pam mae’n bwysig inni feddwl yn aml am ein gobaith? Oherwydd ein bod ni’n byw yn “y dyddiau olaf” ac mae gynnon ni i gyd broblemau sy’n “hynod o anodd.” (2 Tim. 3:1) Mae Jehofa’n ein helpu ni bob dydd i ddyfalbarhau drwy roi’r cyngor, y cryfder, a’r gefnogaeth sydd eu hangen arnon ni. (Salm 145:14) Hefyd, gall ein gobaith ein helpu ni yn ystod adegau anodd. Efallai dy fod ti’n ei chael hi’n anodd gofalu am anghenion dy deulu. Ydy hynny’n golygu y byddi di’n cael trafferth gwneud hyn am byth? Nac ydy siŵr! Mae Jehofa wedi addo rhoi popeth sydd ei angen arnat ti—a llawer mwy—yn y Baradwys. (Salm 9:18; 72:​12-14) Efallai dy fod ti’n delio â phoen gorfforol bob dydd, iselder, neu broblem iechyd difrifol arall. Ai dyna fydd dy fywyd am byth, heb deimlo’n well? Ddim o gwbl. Bydd salwch a marwolaeth yn diflannu yn y byd newydd. (Dat. 21:​3, 4) Mae’r gobaith hwn yn ein helpu ni i deimlo’n fodlon hyd yn oed heddiw, yn lle teimlo’n grac nac yn chwerw. Gallwn ni fod yn fodlon tra ein bod ni’n profi anghyfiawnder, colled, salwch, neu unrhyw dreial arall. Pam? Oherwydd ein bod ni’n gwybod mai “dros dro . . . ydy’r treial” ac yn fuan fe ddaw rhyddhad di-ddiwedd yn y byd newydd.—2 Cor. 4:​17, 18.

14. Sut gallwn ni gryfhau ein gobaith?

14 Gan fod gobaith yn hanfodol i’n bodlonrwydd, sut gallwn ni ei gryfhau? Yn union fel bod rhaid i rai wisgo sbectol er mwyn gweld pethau sydd yn y pellter yn gliriach, efallai bydd angen inni gryfhau ein gobaith er mwyn gweld ein dyfodol yn y Baradwys yn gliriach. Er enghraifft, pan ydyn ni’n gorbryderu am arian, gallwn ni ddychmygu’r amser pan fydd arian a thlodi wedi diflannu. Os ydyn ni’n poeni am aseiniad penodol dydyn ni ddim wedi ei gael, gallwn ni fyfyrio nawr ar ba mor ddibwys bydd pryderon o’r fath unwaith inni gyrraedd perffeithrwydd ac wedi gwasanaethu Jehofa am filoedd o flynyddoedd. (1 Tim. 6:19) I ddechrau, efallai bydd myfyrio ar y dyfodol yn anoddach inni na phoeni am y presennol. Ond dros amser, gall edrych i’r dyfodol y mae Jehofa wedi ei addo ddod yn naturiol inni.

15. Beth rwyt ti’n ei ddysgu o sylwadau Christa?

15 Ystyria sut mae gobaith wedi helpu Christa, gwraig Dennis, a ddyfynnwyd ynghynt. Mae hi’n dweud: “Mae gen i afiechyd cynyddol sy’n gwanhau fy nghyhyrau. Mae’n fy ngorfodi i i ddefnyddio cadair olwyn ac i dreulio’r rhan fwyaf o’r dydd yn fy ngwely. Rydw i mewn poen bob dydd. Dywedodd y doctor wrtho i yn ddiweddar na fydda i’n gwella. Ond yna, meddyliais yn syth, ‘Mae ef yn gweld y dyfodol yn wahanol i mi.’ Rydw i’n canolbwyntio ar fy ngobaith, sy’n rhoi heddwch meddwl imi. Er bod rhaid imi ddioddef yn y byd hwn, bydda i’n mwynhau’r byd newydd yn llawn!”

NID OES EISIAU AR Y RHAI SY’N EI OFNI

16. Pam gallai’r Brenin Dafydd ddweud bod gan y rhai sy’n ofni Jehofa “bopeth sydd arnyn nhw ei angen”?

16 Hyd yn oed os ydyn ni’n fodlon, byddwn ni’n dal yn wynebu anawsterau. Gwnaeth y Brenin Dafydd golli o leiaf dri o’i blant. Cafodd ei gamgyhuddo a’i fradychu, ac roedd y brenin yn ceisio ei ladd am flynyddoedd. Ond tra oedd yn dioddef treial ofnadwy, fe ddywedodd am Jehofa: “Mae gan y rhai sy’n ffyddlon iddo bopeth sydd arnyn nhw ei angen!” (Salm 34:​9, 10) Pam roedd yn gallu dweud hynny? Fel pobl Jehofa, dydyn ni ddim yn disgwyl byw bywyd heb drafferth, ond rydyn ni’n siŵr bydd Jehofa’n rhoi inni’r hyn sydd ei angen arnon ni. (Salm 145:16) Gallwn ni ddibynnu ar Jehofa i’n helpu ni drwy ein holl dreialon. Gallwn ni fod yn fodlon.

17. Pam rwyt ti’n benderfynol o ddysgu’r gyfrinach o sut i fod yn fodlon?

17 Mae Jehofa eisiau iti fod yn fodlon. (Salm 131:​1, 2) Felly, gwna bopeth yn dy allu i ddysgu’r gyfrinach o sut i fod yn fodlon. Os wyt ti’n gweithio’n galed i feithrin diolchgarwch, i gadw dy ffocws a bod yn ostyngedig, ac i gryfhau dy obaith, yna gelli di ddweud: “Rydw i wedi dysgu bod yn fodlon.”—Phil. 4:11.

SUT GALL Y CANLYNOL DY HELPU DI I FOD YN FODLON?

  • Meithrin diolchgarwch

  • Cadw dy ffocws a bod yn ostyngedig

  • Myfyrio ar ein gobaith

CÂN 118 Rho Inni Fwy o Ffydd

a Er enghraifft, gwylia ar jw.org y rhaglen Addoliad y Bore Jehovah Cares for the Humble a Pride Is Before a Crash.

b DISGRIFIAD O’R LLUN: Mae brawd yn gwneud gwaith cynnal a chadw ar adeilad theocrataidd, mae brawd mewn cynulliad yn cyfweld â chwaer sydd wedi dysgu iaith arwyddion, ac mae brawd yn rhoi anerchiad cyhoeddus.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu