Sut Mae Tystion Jehofa yn Trin Pobl a Oedd yn Arfer Perthyn i’w Crefydd?
Rydyn ni’n gwneud pob ymdrech i drin pawb â chariad, caredigrwydd, a pharch. Os bydd un o Dystion Jehofa yn stopio addoli Jehofa, neu’n arafu, byddwn ni’n estyn allan ato,a yn dangos ein bod ni’n ei garu, ac yn ceisio ail-gynnau ei awydd i fod yn agos at Dduw.—Luc 15:4-7.
Mewn rhai achosion, gall ymddygiad unigolyn achosi iddo gael ei roi allan o’r gynulleidfa. (1 Corinthiaid 5:13) Sut bynnag, gan ein bod ni’n caru ein cyd-gredinwyr, byddwn ni’n ceisio helpu’r person hwnnw fel na fydd angen i hynny ddigwydd. Ond hyd yn oed os yw’n cael ei roi allan, byddwn ni’n dal i ddilyn cyngor y Beibl a dangos cariad a pharch ato.—Marc 12:31; 1 Pedr 2:17.
Beth sy’n achosi i rywun gael ei roi allan o’r gynulleidfa?
Mae’r Beibl yn dweud y dylai Cristion sy’n pechu’n ddifrifol, ac yn gwrthod newid, gael ei roi allan o’r gynulleidfa.b (1 Corinthiaid 5:11-13) Y Beibl sy’n dangos pa bechodau a all achosi i rywun gael ei roi allan. Er enghraifft, mae’n rhestru pethau fel godinebu, meddwi, llofruddio, cam-drin domestig, a lladrata.—1 Corinthiaid 6:9, 10; Galatiaid 5:19-21; 1 Timotheus 1:9, 10.
Sut bynnag, ni fydd rhywun sydd wedi pechu’n ddifrifol yn cael ei roi allan o’r gynulleidfa yn syth. Yn gyntaf, bydd henuriaidc y gynulleidfa yn ceisio ei helpu i newid ei ffyrdd. (Rhufeiniaid 2:4) Maen nhw’n ymdrechu i gyrraedd y galon mewn ffordd addfwyn a charedig. (Galatiaid 6:1) Weithiau bydd hyn yn gwneud iddo gydnabod ei gamgymeriadau ac edifarhau. (2 Timotheus 2:24-26) Ond os bydd yn parhau i wrthod dilyn safonau moesol y Beibl heb edifarhau, a hynny er gwaethaf pob ymdrech i’w helpu, bydd yn rhaid iddo gael ei roi allan o’r gynulleidfa. Bydd yr henuriaid yn cyhoeddi i’r gynulleidfa nad ydy’r person bellach yn un o Dystion Jehofa.
Mae henuriaid yn ymdrechu, mewn ffordd addfwyn a charedig, i gyrraedd calon yr un sydd wedi pechu
Pa fuddion sy’n dod o roi allan o’r gynulleidfa rywun sy’n dal ati i bechu? Yn gyntaf, bydd y gynulleidfa yn cynnal safonau Duw o ran glendid moesol ac yn ei hamddiffyn ei hun rhag dylanwad drwg yr unigolyn. (1 Corinthiaid 5:6; 15:33; 1 Pedr 1:16) Yn ail, mae’n bosib bydd yn cymell y person i gefnu ar ei bechodau ac i weithio’n galed i newid ei ffyrdd.—Hebreaid 12:11.
Sut mae Tystion Jehofa yn trin y rhai sydd wedi cael eu rhoi allan o’r gynulleidfa?
Mae’r Beibl yn dweud y dylai Cristnogion “stopio cadw cwmni” rhywun sydd wedi cael ei roi allan o’r gynulleidfa, gan beidio “hyd yn oed â bwyta gyda dyn o’r fath.” (1 Corinthiaid 5:11) Fyddwn ni ddim felly yn cymdeithasu â rhywun sydd wedi cael ei roi allan. Ond, fyddwn ni ddim yn ei anwybyddu’n gyfan gwbl. Byddwn ni’n ei drin â pharch. Mae croeso iddo ddod i’n gwasanaethau crefyddol, a gall Tystion Jehofa yno ei gyfarch.d Gall yr unigolyn hefyd ofyn i’r henuriaid am gymorth ysbrydol.
Mae croeso i’r rhai sydd wedi cael eu rhoi allan o’r gynulleidfa ddod i’n cyfarfodydd
Beth am rywun sy’n cael ei roi allan o’r gynulleidfa ond y mae ei gymar a’i blant ifanc yn dal yn Dystion Jehofa? Mae’r berthynas ysbrydol â’i deulu yn newid, ond mae’r berthynas deuluol yn parhau. Gan eu bod nhw’n byw yn yr un tŷ, bydd ei berthynas â’i wraig a’i blant yn parhau a dylai pawb ddangos cariad at ei gilydd.
Gall rhywun sydd wedi cael ei roi allan o’r gynulleidfa ofyn i’r henuriaid ymweld ag ef. Bydd yr henuriaid yn rhoi cyngor caredig ar sail y Beibl ac yn apelio am iddo edifarhau a throi’n ôl at Dduw. (Sechareia 1:3) Os bydd ef yn newid cyfeiriad ac yn dangos ei fod eisiau byw’n unol â safonau moesol y Beibl, gall fod yn rhan o’r gynulleidfa eto. Bydd y gynulleidfa yn ‘maddau iddo’n garedig a’i gysuro,’ yn union fel y gwnaeth y Cristnogion yng Nghorinth pan ddewisodd pechadur yno newid ei ffyrdd.—2 Corinthiaid 2:6-8.
Wedi iddyn nhw ddod yn ôl, sut mae rhai a gafodd eu rhoi allan yn teimlo?
Dyma sylwadau rhai o Dystion Jehofa a gafodd eu rhoi allan o’r gynulleidfa ond a benderfynodd droi’n ôl at Dduw wedyn.
“Pan benderfynais ddod yn ôl i’r gynulleidfa, roeddwn i’n disgwyl y byddai’r henuriaid yn gofyn am bob peth roeddwn i wedi ei wneud dros y blynyddoedd ers imi gael fy rhoi allan. Ond yn lle hynny, y cyfan ddywedon nhw oedd, ‘Rydyn ni eisiau iti ganolbwyntio ar y dyfodol.’ Ar ôl hynny, roeddwn i’n gallu ymlacio.”—Maria, yr Unol Daleithiau.
“Roedd y gynulleidfa mor hapus pan ddes i yn ôl. Roeddwn i’n teimlo fy mod i o werth. Roedd y brodyr a’r chwiorydd yn fy helpu i i deimlo mod i wedi cael fy maddau ac yna i symud ymlaen. Roedd yr henuriaid ar gael bob amser i roi cymorth ysbrydol imi. Roedden nhw’n rhoi cysur imi ac yn dangos mod i’n werthfawr i Jehofa a’i fod yn fy ngharu.”—Malcom, Sierra Leone.
“Dw i wrth fy modd bod Jehofa’n caru ei bobl ac felly eisiau sicrhau bod ei gyfundrefn yn cael ei chadw’n lân. Efallai bydd hyn yn edrych yn llym i bobl ar y tu allan, ond mewn gwirionedd y mae’n angenrheidiol ac yn beth cariadus i’w wneud. Mae ein Tad nefol yn Dduw cariadus a maddeugar, a dw i’n ddiolchgar iawn am hynny.”—Sandi, yr Unol Daleithiau.
a Er ein bod ni’n cyfeirio at y person fel dyn, mae’r wybodaeth yn yr erthygl hon yn berthnasol i ferched hefyd.
b Yn y gorffennol, roedden ni’n dweud bod y rhai sy’n pechu heb edifarhau yn cael eu diarddel. Ond bellach rydyn ni’n defnyddio geiriau syml y Beibl ac yn dweud eu bod nhw’n cael eu rhoi allan o’r gynulleidfa.
c Mae’r henuriaid yn Gristnogion aeddfed sy’n defnyddio’r Beibl i ddysgu pobl Jehofa, ac yn eu bugeilio drwy eu helpu a’u calonogi. Nid ydyn nhw’n cael eu talu am eu gwaith.—1 Pedr 5:1-3.
d Mewn achosion eithriadol, efallai bydd rhywun yn gadael y gynulleidfa ac yna’n gweithio yn ei herbyn neu’n mynd ati i hyrwyddo ymddygiad anghywir. Pan fydd hyn yn digwydd, byddwn ni’n dilyn gorchymyn y Beibl i ‘beidio â’i gyfarch.’—2 Ioan 9-11.