Oes Rhaid imi Ddod yn Un o Dystion Jehofa os Ydw i’n Astudio’r Beibl Gyda Nhw?
Nac oes. Pwrpas y cwrs ydy dangos beth mae’r Beibl yn ei ddysgu. Mae miliynau o bobl wedi ei fwynhau heb ddod yn un o Dystion Jehofa.a Rydyn ni’n deall bod ffydd yn rhywbeth personol, felly mae i fyny i chi beth rydych chi’n ei wneud â’r hyn rydych chi’n ei ddysgu.—Josua 24:15.
Ydw i’n cael defnyddio fy Meibl fy hun yn ystod yr astudiaeth?
Ydych. Rydyn ni’n mwynhau defnyddio Cyfieithiad y Byd Newyddb am ei fod yn hawdd ei ddeall. Cewch chi gopi am ddim os ydych chi eisiau un, neu mae ’na groeso ichi ddefnyddio eich Beibl eich hun. Mae neges y Beibl am obaith ac achubiaeth yn dod drosodd mewn bron pob cyfieithiad.
Pam rydych chi’n astudio â phobl sydd ddim yn ymuno â chi?
Yn bennaf, am ein bod ni’n caru Jehofa Dduw. Mae ef eisiau inni rannu beth rydyn ni wedi ei ddysgu ag eraill. (Mathew 22:37, 38; 28:19, 20) Rydyn ni’n teimlo ei fod yn fraint i gyd-weithio â Duw drwy helpu eraill i ddysgu beth sydd yn ei Air.—1 Corinthiaid 3:6-9.
Rydyn ni hefyd yn gwneud hyn am ein bod ni’n caru ein cymdogion. (Mathew 22:39) Mae rhannu pethau hyfryd rydyn ni wedi ei ddysgu yn dod â llawenydd mawr inni.—Actau 20:35.
a I roi rhyw fath o gyd-destun, yn ystod 2023 gwnaethon ni gynnal 7,281,212 o astudiaethau Beiblaidd bob mis, a llawer o’r rheini gyda mwy nag un yn bresennol. Ond eto, dim ond 269,517 o bobl cafodd eu bedyddio fel Tystion Jehofa y flwyddyn honno.
b Mae’r cyfieithiad hwn ar gael yn ei gyfanrwydd mewn llawer o ieithoedd. Mae’r Ysgrythurau Groeg Cristnogol ar gael yn Gymraeg.