LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • ijwyp erthygl 74
  • Sut Gallaf Osgoi Gorflino?

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Sut Gallaf Osgoi Gorflino?
  • Cwestiynau Pobl Ifanc
  • Isbenawdau
  • Erthyglau Tebyg
  • Pam mae’n digwydd?
  • Pam mae’n bwysig?
  • Beth fedri di ei wneud?
  • Cyflwyniadau Enghreifftiol
    Ein Gweinidogaeth—2014
  • Sut Gallaf Gael Mwy o Gwsg?
    Cwestiynau Pobl Ifanc
  • Sut Galla’ i Reoli Fy Amser?
    Cwestiynau Pobl Ifanc
  • Sut Galla’ i Lwyddo Wrth Ddysgu o Bell?
    Cwestiynau Pobl Ifanc
Cwestiynau Pobl Ifanc
ijwyp erthygl 74
Mae dyn ifanc wedi ei lethu’n llwyr gan dechnoleg, chwaraeon, adloniant, a gwaith ysgol

CWESTIYNAU POBL IFANC

Sut Gallaf Osgoi Gorflino?

Ydy hi’n bosib dy fod ti’n gwneud gormod? Os felly, gall yr erthygl hon dy helpu!

  • Pam mae’n digwydd?

  • Pam mae’n bwysig?

  • Beth fedri di ei wneud?

  • Barn dy gyfoedion

Pam mae’n digwydd?

  • Cael dy orlwytho. “Ym mhob agwedd o fywyd,” meddai dynes ifanc o’r enw Julie, “cawn ein hannog i ddal ati i wella, i wneud cynnydd, i ddal i osod nodau uwch a chael canlyniadau gwell. Mae bod o dan y fath bwysau drwy’r adeg yn anodd!”

  • Technoleg. Gyda ffonau clyfar, tabledi, a dyfeisiau eraill, rydyn ni ar gael drwy’r amser—sydd yn ein rhoi ni o dan bwysau, a dros amser yn gallu ein llethu.

  • Diffyg cwsg. “Rhwng ysgol, gwaith, ac amser hamdden, mae llawer o bobl ifanc yn codi’n gynnar ac yn aros i fyny yn hwyr, wedi eu dal mewn cylch diddiwedd,” meddai dynes ifanc o’r enw Miranda. Yn aml mae’r patrwm hwnnw yn arwain at orflino.

Pam mae’n bwysig?

Mae’r Beibl yn canmol bod yn weithgar. (Diarhebion 6:6-8; Rhufeiniaid 12:11) Ond nid yw’n awgrymu gweithio i’r fath raddau nes bod popeth arall mewn bywyd yn dioddef—gan gynnwys dy iechyd.

“Un tro, sylweddolais o’n i heb fwyta am ddiwrnod cyfan am fy mod wedi canolbwyntio gymaint ar fy holl gyfrifoldebau. Dysgais dyw hi ddim yn talu i fod yn rhy awyddus i dderbyn pob aseiniad, a hynny ar draul fy iechyd.”—Ashley.

Am reswm da, dywed y Beibl: “Mae ci byw yn well ei fyd na llew marw.” (Pregethwr 9:4) Gallai gwthio dy hun wneud iti feddwl bod gen ti nerth fel llew—o leiaf am gyfnod. Ond gall gorflino gael effaith niweidiol ar dy iechyd.

Beth fedri di ei wneud?

  • Dysgu i ddweud na. Dywed y Beibl: “Pobl wylaidd ydy’r rhai doeth.” (Diarhebion 11:2) Mae pobl ostyngedig yn deall eu terfynau a dim yn gwneud mwy nag y maen nhw’n gallu.

    “Y math o berson sy’n debyg o orflino yw’r un sydd ddim yn gallu dweud na ac sy’n ceisio gwneud popeth sy’n cael ei gynnig iddo. Dydy hynny ddim yn beth gostyngedig. Ac yn hwyr neu’n hwyrach, mae’n arwain at losgi allan.”—Jordan.

  • Cael digon o orffwys. Dywed y Beibl: “Mae un llond llaw gyda gorffwys yn well na dau lond llaw o ganlyniad i orweithio. Ydy, mae fel ceisio rheoli’r gwynt!” (Pregethwr 4:6) Gelwir cwsg yn “fwyd i’r ymennydd,” ond nid yw’r rhan fwyaf o bobl ifanc yn cael yr wyth i ddeg awr y noson o gwsg maen nhw eu hangen.

    “Oedd fy rhaglen yn gallu bod braidd yn wallgof, a phryd hynny do’n i ddim yn cael digon o gwsg. Ond weithiau mae awr ychwanegol o gwsg jest y peth sydd ei angen arna’ i er mwyn gweithio’n galetach a bod yn hapus y diwrnod wedyn.”—Brooklyn.

  • Trefnu pethau. Dywed y Beibl: “Mae llwyddiant yn dod o gynllunio gofalus a gwaith caled.” (Diarhebion 21:5) Mae dysgu sut i reoli dy amser a dy weithgareddau yn un o’r sgiliau sydd am dy helpu di drwy gydol dy fywyd.

    “Weithiau, ni sy’n dod â straen arnon ni ein hunain. Cawn osgoi hyn drwy ddefnyddio dyddiadur. Pan fydd hwnnw o’n blaenau, mae’n haws i weld lle i addasu ein rhaglen er mwyn osgoi gorflino.”—Vanessa.

Barn dy gyfoedion

Gianna

“Mae rhai pobl yn gorflino drwy geisio gwneud mwy o arian. Ond mae 1 Timotheus 6:8 yn dweud wrthon ni i fod yn fodlon gyda phethau angenrheidiol bywyd. Mae’n ein hatgoffa i fyw bywyd syml ac i beidio mynd ar ôl pethau nad oes eu hangen arnon ni.”—Gianna.

Waylon

“Mae gwneud amserlen ar gyfer bob wythnos wedi bod o help mawr i mi. Hebddo, o’n i’n cytuno i wneud llawer mwy nag o’n i’n medru ei wneud. Yna o’n i’n teimlo o dan gymaint o bwysau nes o’n i’n methu gwneud cymaint a hynny wedi’r cwbl.”—Waylon.

Kara

“Mae’n hawdd meddwl os na wna’ i dderbyn pob gwahoddiad, fydda’ i ddim yn hapus. Ond dydy hynny ddim yn wir. Rwyt ti’n hapusach o lawer ac wedi blino’n llai pan fydd gen ti ddigon o amser i ti dy hun.”—Kara.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu