Cyflwyniadau Enghreifftiol
I Ddechrau Astudiaethau Beiblaidd ar y Dydd Sadwrn Cyntaf ym Mis Medi
“Rydyn ni’n siarad â phobl yn yr ardal ac yn trafod y cwestiwn diddorol hwn.” Dangoswch y traethodyn Sut Rydych Chi’n Teimlo am y Dyfodol? “Pa un o’r atebion yma fyddech chi’n ei ddewis?” Dangoswch yr opsiynau ac arhoswch am yr ymateb. Trafodwch y wybodaeth o dan yr is-bennawd “Mae’r Beibl yn Dweud” sy’n dyfynnu Datguddiad 21:4. Cynigiwch y traethodyn a threfnwch i fynd yn ôl i drafod y wybodaeth o dan yr is-bennawd “Cwestiwn i Feddwl Amdano.”
The Watchtower Medi 1
“Ydych chi’n meddwl bod dyn yn difetha’r ddaear, ac os felly, ydy hi’n rhy hwyr inni achub y sefyllfa? [Arhoswch am ymateb.] Mae’r Beibl yn rhoi gobaith inni oherwydd mae’n dweud bod gan Dduw y gallu a’r awydd i adnewyddu’r ddaear. Dyma’r addewid sydd yn Salm 65:9. [Darllenwch.] Mae’r Watchtower yma yn dangos sut y bydd Duw yn gofalu am y ddaear a sut gallwn ni fwynhau’r bendithion yma yn y dyfodol. Ga’ i adael hwn gyda chi i’w ddarllen?”
Awake! Medi
“Mae llawer sy’n cael eu gorweithio gan eu cyflogwyr yn teimlo nad oes ffordd o leihau’r pwysau sydd arnyn nhw. Mae arbenigwyr yn dweud bod gorweithio yn achosi problemau corfforol ac emosiynol i bobl oherwydd eu bod nhw wedi blino gymaint. Beth ydych chi yn ei feddwl all helpu pobl i gadw’r cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith? [Arhoswch am ymateb.] Dyma adnod ddiddorol o’r Beibl. [Darllenwch Pregethwr 4:6.] Mae’r cylchgrawn yma yn trafod pedair ffordd sy’n medru ein helpu ni i addasu ein blaenoriaethau a delio gyda’r blinder sy’n dod o weithio gormod.”