Cân 84 (190)
Cân i Jehofah
(Salm 92:1, 2)
1. Mewn cân i Dduw nawr llawenhawn,
Ei foli a’i fawrhau a wnawn.
Amddiffyn ei Air glân a gawn
Wrth rodio llwybyr ffydd.
Tragwyddol, dyrchafedig yw,
Caredig, mwyn, tosturiol Dduw.
Yng ngolau ei wirionedd gwiw
Yn llwyr rydd daethom ni.
2. Drwy d’wllwch byd fe welwn nawr
Oleuni Duw, teg, fel y wawr.
Ein harwain wna â llewyrch mawr.
Diddanwch in a ddaw.
Am obaith Teyrnas sy’n bywhau,
A’n hachub o fyd sy’n tristáu,
Diolchwn iddo, gan barhau’n
Ein ffydd am ddae’r ddi-fraw.
3. At orsedd nefol Duw y down.
Addoliad pur, dihalog rown.
Trwy Grist, yn llwyr ddiffuant, trown
Mewn gweddi at Dduw’n daer.
“Jehofah Dduw, o’th deg drigfan
Derbynia’n mawl a’n sanctaidd gân.
Diolchwn am wirionedd glân
A’th fwyn, dirionaf Air.”