Cân 76 (172)
Ceisiwch Yn Gyntaf Deyrnas Dduw
1. Gwerthfawr iawn i Dduw Jehofah,
A’i hyfrydwch mawr cyhyd,
Yw ei Deyrnas trwy Grist Iesu;
Adfer wna iachusol fyd.
Gobaith gloyw’r hen broffwydi
Oedd y Deyrnas ddisglair, wiw.
Heddiw, Iesu ein Harweinydd
Sydd yn annog dynolryw.
(Cytgan)
2. Eang iawn yw gwaith y Deyrnas;
Beunydd braint yw gwneud ein rhan!
Gwerthfawrogwn wasanaethu
Budd a lles llywodraeth lân.
Ymaith pryder a gofalon.
Rhown ar waith ein ffydd yn llawn;
Cans o geisio’n gynta’r Deyrnas
Llwyr ddarpariaeth Duw fwynhawn.
(Cytgan)
3. Buan daw’r hen drefn i’w therfyn;
Gwynfyd disglair codi wna—
Dae’r baradwys, rhodd Jehofah,
Trwy ei Air fe’i sicirha.
Awn, cyhoeddwn fudd y Deyrnas,
Cynorthwywn ddefaid rai
I weld rhinwedd Theocratiaeth
Duw Jehofah, a’i fawrhau.
(CYTGAN)
O parhewch i geisio’r Deyrnas
A chyfiawnder Duw yn llon.
Enw glân clodfawr Jehofah
Ewch ar led drwy’r ddaear gron.