Cân 74 (168)
Cydnabod Brenin Newydd Daear
(Salm 2:12)
1. Edrychwch i’r pellteroedd draw,
Golygfa gwir wefreiddiol—
Rhyfelwyr teyrn Jehofah ddaw,
Cyd-symud maent yn nerthol.
Â’u helmau disglair—dewr a hy
Cyhoeddant deyrnas Crist a’i fri.
Fe waeddant nawr eu brwydr-gri:
“O ddaear, Crist yw’th Frenin!”
(Cytgan)
2. Y Brenin Crist a’u harwain hwy;
Yn ufudd fe’i dilynant.
Atseinia’r clod drwy’r nef fyth mwy;
Yn fuan nawr gorchfygant.
Gair Duw yw’r cleddyf yn eu llaw,
Y newydd da a’u gwna’n ddi-fraw,
Eu Meistr, Crist, sydd yn flaenllaw;
Hyd angau fe’i canlynant.
(Cytgan)
3. O gwelwch nawr, fe ddaeth y dydd
I Grist mewn grym deyrnasu.
Gelynion lyfant lwch yn brudd;
O’i flaen fe gânt lwyr grynu.
Â’i gadarn fraich, Jehofah Dduw
Orchmynna seinio’r utgorn gwiw.
Ymgrymwch bawb! Doethineb yw;
Crist nawr sy’n llywodraethu.
(CYTGAN)
Arglwydd daear, nawr cusanwch,
Ac osgowch lid iach ei Dduw.
Gwyn eu byd y rhai sy nawr
Yn dangos ffydd. Cânt fyw!