Cân 60 (143)
Pwy Sydd O Blaid Jehofah?
1. Trist oedd ein calon, â’n gwedd yn trymhau,
Wrth yfed cwpan amhur crefydd gau.
Ond cawsom obaith i fawr lawenhau
Clywsom am Deyrnas deg Duw (Teyrnas Dduw).
(Cytgan)
2. Gyda’n holl galon addolwn ein Duw;
Awn â’i wirionedd at ‘dlawd’ ddynolryw.
Rhinweddau mwyn rhown ar waith wrth gyd-fyw.
Molwn ei enw clodfawr (Enw mawr).
(Cytgan)
3. Ofn ni fydd arnom rhag Satan a’i lu,
Cans nerth Jehofah a’n gwna ni yn hy.
Er mai lleiafrif a bychan ŷm ni,
Llawn ymddiriedwn yn Nuw (Mawr yw Duw).
(CYTGAN)
O blaid Duw Jehofah
Gwnewch safiad yn awr.
Amddiffyn a gewch yn
Ei oleuni mawr.
Yn ffyddlon cyhoeddwch
Hedd, rhyddid, iachâd.
Brenhiniaeth Crist Iesu
Gaiff fythol fawrhad.