LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • km 8/12 t. 2
  • Diogelwch Eich Meddwl

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Diogelwch Eich Meddwl
  • Ein Gweinidogaeth—2012
  • Erthyglau Tebyg
  • Diogelwch Eich Cydwybod
    Ein Gweinidogaeth—2012
  • Mae Gair Duw yn Fuddiol i Hyfforddi
    Ein Gweinidogaeth—2013
Ein Gweinidogaeth—2012
km 8/12 t. 2

Diogelwch Eich Meddwl

1. Beth yw thema’r cynulliad cylchdaith ar gyfer blwyddyn wasanaeth 2013, a beth yw pwrpas y rhaglen?

1 Gorchmynnodd Iesu i’w ddisgyblion garu Jehofah â’u holl galon, â’u holl enaid, ac â’u holl feddwl. (Math. 22:37, 38) Eleni, mae’r cynadleddau a’r cynulliadau wedi eu cynllunio i’n helpu ni i gryfhau’r person mewnol. Fel y cofiwch, thema’r gynhadledd ranbarth oedd “Diogelwch Eich Calon!” Thema’r cynulliad undydd arbennig ar gyfer blwyddyn wasanaeth 2013 yw “Diogelwch Eich Cydwybod.” Mathew 22:37 yw sail thema’r cynulliad cylchdaith deuddydd, sef “Diogelwch Eich Meddwl.” Pwrpas y rhaglen hon yw ein helpu ni i sicrhau bod ein meddyliau yn plesio Jehofah.

2. Dylen ni ddod o hyd i ba atebion yn ystod y rhaglen?

2 Rhaglen y Cynulliad: Wrth wrando’n astud ar y rhaglen, edrychwch am yr atebion i’r cwestiynau canlynol sy’n tynnu sylw at y prif bwyntiau:

• Sut gallwn ni feddwl fel y mae Duw yn feddwl?

• Sut gallwn ni dynnu’r gorchudd sy’n dallu meddyliau anghredinwyr?

• Pa agwedd meddwl y dylen ni ei meithrin?

• Beth yw manteision myfyrio ar bethau llesol?

• Sut gallwn ni ganiatáu i Jehofah lunio ein meddyliau?

• Sut gall gwŷr, gwragedd, rhieni, a phlant gyfrannu at lawenydd y teulu?

• Sut gallwn ni fod yn barod ar gyfer dydd Jehofah?

• Beth yw ystyr yr ymadrodd “rhowch fin ar eich meddwl”?

• Pa fendithion a ddaw wrth inni roi ar waith yr hyn rydyn ni’n ei ddysgu?

3. Pam dylen ni fod yn bresennol ar gyfer y ddau ddiwrnod, a pham dylen ni wrando’n astud ar y rhaglen a rhoi ar waith yr hyn rydyn ni’n ei ddysgu?

3 Mae Satan yn brwydro yn ein herbyn ni er mwyn llygru ein meddyliau. (2 Cor. 11:3) Felly, mae’n rhaid inni warchod a rheoli ein meddyliau a pharhau i adlewyrchu meddwl Crist wrth inni ymladd yn erbyn y byd afreolus hwn. (1 Cor. 2:16) Trefnwch i fod yn bresennol am ddeuddydd cyfan y cynulliad cylchdaith. Gwrandewch yn astud. Drwy roi’r wybodaeth ar waith, byddwn ni’n barod i weithio’n selog yng ngweinidogaeth y Deyrnas.—1 Pedr 1:13.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu