Cân 96 (215)
Estyn Trugaredd i Eraill
(Luc 6:36)
1. Pan fwriadodd Jehofah i ddilyw
Lwyr ddinistrio’r drygionus o’r ddae’r,
I’w was Noa fe roddodd orchymyn:
‘Adeilada yr arch! Traetha’r Gair!’
Ni wrthododd dewr Noa’r aseiniad
Er mor ddibrofiad oedd; felly gwnaeth.
Fel gwas doeth, fe ddefnyddiodd yr amser;
Adeiladodd, ac at bobol aeth.
2. Unwaith eto di-hid oes sy’n gorffen,
A gorchymyn trugarog ein Duw
Yw fod pawb yn cael rhybudd o hynny,
Ac ymateb fydd braint ’run a’i clyw.
Peidiwch dweud, ‘’Fedra’i byth â phregethu,
Nid oes profiad na dawn gennyf fi.’
Os trugaredd ein Duw a brofasoch,
Â’i lân ysbryd, fe rydd nerth i chwi.
3. Mor drugarog ein Duw, llawn gwirionedd:
Mawr lawenydd sy’n llenwi ein tir.
Rhagflas pêr o ddisgleirder y Deyrnas
Fydd ein rhan ar y ddae’r cyn bo hir!
Rhaid nawr estyn trugaredd i eraill,
Annog pawb o’n cymdogion i ddod,
‘O cysegrwch eich hunain heb oedi!
Teyrnas gyfiawn Jehofah fo’ch nod.’